Brodyr Emanuel yn 'edrych ymlaen' at ddechrau i Gymru dan-20
- Cyhoeddwyd
Wrth i dîm rygbi dan-20 Cymru ddechrau eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Sadwrn, mae dau frawd balch o Lanilltud Faerdre yn y garfan.
Bydd y ddau yn dechrau'r gêm yn nhre Vannes yng ngogledd orllewin Ffrainc - Steffan Emanuel, y brawd ieuengaf yn chwarae'n safle'r canolwr, a'i frawd hŷn Ioan yn chwarae fel prop.
Yn ôl Steffan, mae yna falchder o gael cyd-chwarae gyda'i frawd yn ei ymgyrch gyntaf yn y Chwe Gwlad.
"Mae e'n neis [cael brawd yn y garfan], yn enwedig pan chi eisiau rhywbeth, fel cyngor, ac arbed petrol drwy rannu liffts! So mae hwnna'n neis hefyd!" meddai.
"Ro'n ni'n gystadleuol iawn pan roedden ni'n tyfu lan, yn yr ardd, yn paffio!"
Ychwanegodd eu bod nhw'n "dal i fod" yn gystadleuol ac "yn trio gwthio'n gilydd gymaint â phosib, ond mae e'n gystadleuaeth iachus".
'Rygbi ddewisodd fi'
Steffan sydd hefyd sydd wedi'i ddewis yn is-gapten ar gyfer yr ymgyrch.
A fydd hynny felly'n gorfodi'r brawd mawr i wrando ar y brawd bach?
Dywedodd Steffan: "Sai'n meddwl bod hwnna'n mynd i 'neud unrhyw wahaniaeth!
"Dyw e byth yn gwrando arna'i i ta beth – felly dim gwahaniaeth!
"Dwi'n gwerthfawrogi'r cyfle, fy nhwrnamaint cyntaf gyda'r tîm o dan 20 yn y Chwe Gwlad, ond dwi'n edrych ymlaen fwy nag unrhywbeth," ychwanegodd.
Roedd Steffan yn bêl-droediwr talentog, a gynrychiolodd Ysgolion Cymru ar un adeg.
Daeth rygbi yn rhan o'i fywyd ychydig yn hwyrach a phan ddaeth yr amser i wneud penderfyniad rhwng y ddwy gamp, mae'n cyfaddef ei fod yn benderfyniad anodd.
"Doeddwn i ddim yn gwybod pa un ro' ni eisiau 'neud – ac os ydw i'n onest doeddwn i ddim mor dda â hynny'n chwarae pêl-droed, felly rygbi ddewisodd fi yn y diwedd!"
Ar ôl bod yn ddisgybl yn Ysgol Garth Olwg, ymunodd â'i frawd Ioan yn Ysgol Millfield yng Ngwlad yr Haf ar gyfer y chweched dosbarth.
Ond bellach, mae yn ôl yng Nghymru ac yn aelod o garfan Rygbi Caerdydd.
Steffan hefyd yw'r chwaraewr ieuengaf i gynrychioli'r rhanbarth yn Ewrop.
Pan oedd yn 18 oed a 159 diwrnod, chwaraeodd i'r tîm yn erbyn Lyon yng Nghwpan Her Ewrop ym mis Rhagfyr 2024.
Mae'n dweud ei fod "yn caru" bod yn aelod o garfan rhanbarth y brifddinas.
"Mae'r bois wedi bod yn ardderchog gyda fi, cymryd fi i fewn fel un ohonyn nhw.
Dywedodd mai'r "peth mwyaf yw mwynhau" chwarae rygbi.
"Dwi ddim yn meddwl yn rhy bell ymlaen gan fod pethau yn rygbi yn digwydd mor gloi.
"Dwi'n trio cymryd un cam ar y tro, a chanolbwyntio ar y chwech wythnos nesaf."
'Gobeithio ennill cap llawn cyn fy mrawd!'
Ychwanegodd Steffan: "Uchelgais pawb yw i chwarae dros ei wlad yn broffesiynol.
"Dyna'r uchelgais fwyaf ond un step ar y tro... a gobeithio ennill cap llawn cyn fy mrawd!"
Yn 2024, fe orffennodd tîm dan 20 Cymru yn y 5ed safle yn y gystadleuaeth, ac mae Steffan yn cydnabod y bydd hi'n her nos Sadwrn yn erbyn y Ffrancwyr.
"Wrth gwrs, mae e'n anodd, ond ry' ni'n edrych ymlaen at y sialens mwy nag unrhywbeth arall.
"Ry'n ni wedi paratoi yn dda a ry' ni'n haeddu mynd mas yna a chael rhywbeth allan o'r gêm hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2024