Lluniau: Dathlu diwrnod bywyd gwyllt y byd

Eog yn neidio o'r dŵr yn afon Llugwy ger Betws-y-Coed
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos yma roedd yr WWF yn dathlu Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd.
Mae'r mudiad yn dweud bod dirywiad o 73% wedi bod i fywyd gwyllt y byd ers 1970, a phwrpas y dydd arbennig yma yw denu sylw i'r ffaith bod angen dathlu a gwarchod byd natur.
Dyma gasgliad diweddar o rai o'r golygfeydd sydd i'w gweld ym myd natur Cymru.

Glas y dorlan yn chwilota am bysgod

Morloi'n gorwedd ar y traeth ger Tyddewi

Planhigion môr (Zostera marina) ger Porthdinllaen ym Mhen Llŷn

Gwenynen brysur yn Sir Gâr

Morlo ifanc yn ystyried mynd i'r môr

Enfys dros arfordir ysblennydd Pen Llŷn

Planhigion y môr oddi ar arfordir Llŷn

Morlo yn torheulo ger Câr-y-Môr, fferm fôr ger Tyddewi yn Sir Benfro

Gwenynen ar ddeilen yn Sir Gâr

Yr olygfa o'r môr wrth edrych tua Porthdinllaen

Morlo llwyd yn dod â'i ben i'r wyneb

Un o goedwigoedd niferus Cymru

Gwenynen (bombus hortorum) yn hofran ger blodau clychau'r gog yn Sir Fynwy

Morlo oddi ar arfordir Tyddewi yn Sir Benfro
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2024