Bwrdd iechyd yn ymddiheuro am 'ffaeleddau difrifol'

- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi ymddiheuro ar ôl i adolygiad ganfod cyfres o ffaeleddau difrifol yng ngwasanaethau theatrau llawdriniaethau ysbyty mwyaf Cymru.
Fe glywodd yr adolygiad am gyfres o ffaeleddau yn ymwneud ag arweinyddiaeth, diwylliant, ymddygiad, a methiant i gadw at bolisïau a threfniadau diogelwch.
Roedd yn ymwneud ag Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Ar wahân i'r adolygiad hwn, mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau fod ymchwiliad pellach yn digwydd i honiadau fod rhai staff wedi caniatáu i aelodau'r cyhoedd edrych ar lawdriniaethau tra roedden nhw'n digwydd.
Fe allai'r pryderon mwyaf difrifol a gafodd eu nodi fod wedi peryglu clefion, gyda'r adroddiad yn nodi fod diwylliant yn y prif theatrau "ddim yn ddiogel na thryloyw".
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
Mae'r ffaeleddau yn cynnwys:
Methiant i gydymffurfio â rhestr wirio diogelwch Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) cyn llawdriniaethau;
Enghreifftiau o gleifion yn cael llawdriniaeth heb lenwi ffurflen cydsynio neu brawf i sicrhau nad oedden nhw'n feichiog;
Pren mesur papur yn cael ei ddefnyddio i fesur coluddyn rhywun gan fod dim modd safonol o fesur ar gael;
Plant yn cael eu rhoi mewn ardaloedd oedolion tra'n gwella ar ôl llawdriniaeth.
Colomennod mewn theatrau
Mae'r adroddiad yn nodi cyfres o ffaeleddau gyda chyfleusterau y theatrau, gan nodi fod cyflwr a glendid yr adran yn is na'r yr hyn sydd i'w ddisgwyl mewn theatrau modern.
Roedd enghreifftiau o:
Golomenod yn cael eu darganfod mewn theatrau trawma neu yng nghoridor y theatr;
Oedi yn trwsio gollyngiadau dŵr a chyfarpar hanfodol;
Ystafelloedd newid mewn cyflwr gwael a thoiledau ddim yn gweithio;
Hen gyfarpar wedi ei adael yn yr ardal theatrau, neu gyfarpar oedd wedi'i ddifrodi;
Dim man aros addas ar gyfer teuluoedd cleifion.

Mae'r adroddiad yn ymwneud â gwasanaethau theatrau llawdriniaethau Ysbyty Athrofaol Cymru
Mae'r adroddiad yn nodi fod mwyafrif y staff o'r farn nad oedd hiliaeth yn bodoli yn yr adran, a'u bod yn falch o natur amlddiwylliannol y gweithlu.
Ond mae'r adroddiad yn cadarnhau fod sylwadau "hiliol ac anaddas wedi cael eu gwneud ar un achlysur pan wnaeth aelod o staff ddweud bod angen bathodynnau enw ar nyrsys o India oherwydd eu bod nhw i gyd 'yn edrych yr un fath'."
Yn ôl yr adroddiad fe ddeliwyd gyda'r mater ar y pryd, a doedd dim angen unrhyw weithredu pellach.
Er hynny, mae'r adolygiad yn dweud fod argraff ymhlith staff fod cydweithwyr o rai cefndiroedd penodol yn cael eu ffafrio a'u trin yn well, er enghraifft, o ran clustnodi shifftiau goramser.
Aelod staff wedi'i ganfod â chyffuriau
Dywedodd y bwrdd iechyd byddai unrhyw glaf yr effeithiwyd arno gan y ffaeleddau yma wedi cael ei hysbysu o dan brosesau "dyletswydd gonestrwydd" y bwrdd.
Cyn yr ymchwiliad hwn cafodd un aelod o staff ei ddal gyda chyffuriau, ac fe gafodd ei adrodd i'r heddlu, ond ni chafodd cyhuddiadau troseddol eu gwneud yn erbyn yr unigolyn.
Mae'r person hwnnw'n dal i weithio yn y bwrdd iechyd, yn dilyn proses ddisgyblu.
Fe ddywedodd y bwrdd iechyd hefyd y gwnaed cwyn ddienw i'r rheolwyr a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ynglŷn â hiliaeth.
Cynhaliwyd ymchwiliad, cafodd y person a gyhuddwyd ei atal, ond ni chymerwyd unrhyw gamau pellach gan nad oedd digon o dystiolaeth.
Mae'r bwrdd yn dweud bod "darn mawr o waith" yn cael ei wneud gyda staff i newid a gwella diwylliant o fewn y gweithle.
Yn ôl y bwrdd iechyd, mae'r theatrau a drafodir yn yr adroddiad yn cynnal 10,700 o lawdriniaethau bob blwyddyn - tua thraean o gyfanswm y llawdriniaethau a wneir gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.
Mae mwyafrif y llawdriniaethau hyn - tua 7,000 - yn achosion brys, y gellid eu cyflawni 24 awr y dydd, unrhyw ddiwrnod o'r wythnos.
Ymddiheuriad
Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro: "Er ei fod [yr adroddiad] yn siomedig a phryderus iawn, mae'r bwrdd iechyd yn cynnal 30,000 o lawdriniaethau bob blwyddyn ac mae nifer y digwyddiadau sy'n effeithio ar gleifion yn fach iawn.
"Fodd bynnag nid yw hyn yn lleihau y difrifoldeb i sicrhau gwelliant parhaus, ac rydym am sicrhau'r cyhoedd bod mesurau diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
"Mae'n ddrwg iawn gennym am y gofid a'r pryder y bydd hwn yn ei achosi ac rydym am sicrhau'r cyhoedd y byddwn yn cymryd y camau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd."

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Jeremy Miles, fod yr adroddiad yn "peri sioc"
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Jeremy Miles, fod yr adroddiad yn "peri sioc".
"Mae'r canfyddiadau yn ymestyn o gwestiynau o arweinyddiaeth, diwylliant, hyd yn oed cwestiwn o logistics o bryd i'w gilydd," meddai.
"Felly, rwy'n bwriadu cwrdd yn fuan iawn gyda chadeirydd y bwrdd iechyd i weld pa gamau penodol sydd ganddyn nhw.
"Rwy'n gwybod eu bod nhw'n cymryd yr adroddiad o ddifri.
"Rwyf hefyd yn gwybod bod camau eisoes ar waith yn benodol lle mae'r canfyddiadau yn cyffwrdd â'r elfennau o ddiogelwch cleifion ac ati.
"Byddaf angen gweld fod cynllun pwrpasol ar waith i fynd i'r afael gyda'r ystod o 66 o argymhellion sydd yn yr adroddiad hwn."
Dywedodd Mabon ap Gwynfor ar ran Plaid Cymru ei fod yn adroddiad "damniol a difrifol, sydd yn dangos sut mae iechyd a lles cleifion wedi cael ei fygwth yn yr ysbyty ar achlysuron".
Galwodd y Ceidwadwr Andrew RT Davies ar Lywodraeth Cymru i gymryd rheolaeth o'r bwrdd iechyd gan "nad oedd uwch reolwyr yn rheoli'r sefyllfa".
Mewn ymateb, dywedodd Mr Miles y byddai'n "cyfarfod yn fuan iawn â chadeirydd y bwrdd iechyd i weld pa gamau penodol maen nhw'n eu rhoi ar waith".