Beth sy'n cysylltu Aberystwyth a'r blaned Mawrth?

EnfysFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
  • Cyhoeddwyd

Mae prifysgol yng Nghymru'n arwain y gwaith o ddatblygu darn allweddol o offer fydd yn mynd i’r blaned Mawrth, ar ôl i gydweithio gyda Rwsia ddod i ben yn sgil yr ymosodiad ar Wcráin.

Bydd gwaith ar yr offeryn newydd yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth gan Goleg Prifysgol Llundain, RAL Space - sef labordy cenedlaethol y DU ar gyfer ymchwil yn y gofod - a chwmni Qioptiq.

Mae’r offeryn wedi cael ei enwi’n Enfys a bydd yn cael ei osod ar y cerbyd neu’r crwydryn fydd yn cael ei lansio i’r blaned goch yn 2028.

Bydd Enfys yn disodli darn o offer a adeiladwyd yn wreiddiol gan Rwsia.

Lansiad yn 2028

Prosiect ar y cyd rhwng Ewrop a Rwsia oedd y daith i'r blaned Mawrth yn wreiddiol.

Ond yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, penderfynodd Asiantaeth Ofod Ewrop ei ailgynllunio a chynnwys cydrannau o Ewrop ac America yn unig.

Mae hyn yn golygu bod y lansiad wedi'i ohirio tan 2028.

Bydd Enfys yn gweithio gyda chamerâu’r crwydryn i adnabod mwynau ar wyneb Mawrth wrth iddo chwilio am arwyddion o fywyd.

Pan fydd Enfys yn canfod mwynau a ffurfiwyd ym mhresenoldeb dŵr, bydd gwyddonwyr sy'n rheoli’r crwydryn yn gallu ei orchymyn i ddrilio hyd at ddau fetr o dan wyneb y blaned i gymryd samplau i'w dadansoddi. 

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Dr Matt Gunn yw brif ymchwilydd ar y datblygiad Enfys

Mae Asiantaeth Ofod y DU yn darparu £10.7m i ariannu datblygiad Enfys.

Dywedodd Dr Matt Gunn, prif ymchwilydd Prifysgol Aberystwyth ar broject Enfys: "Mae’r gofod a’r technolegau sy’n cael eu defnyddio i’w archwilio wedi fy swyno erioed, ac felly mae arwain datblygiad un o offerynnau gwyddoniaeth allweddol y daith hon yn destun cryn gyffro i mi. 

"Mae’r buddsoddiad hwn gan Asiantaeth Ofod y Deyrnas Gyfunol hefyd yn gymeradwyaeth enfawr o ansawdd ymchwil y gofod yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, a fydd yn effeithio ar ein byd ac eraill am genedlaethau i ddod."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Dyma model graddfa llawn y crwydryn y blaned Mawrth

Eglurodd Dr Gunn rôl allweddol Enfys wrth benderfynu lle dylai’r crwydryn chwilio am dystiolaeth o fywyd.

“Mae 'na lawer o wahanol fathau o fwynau ar y blaned Mawrth, ond mae rhai ohonyn nhw yn awgrymu i ni fod dŵr wedi bod yn bresennol wrth iddyn nhw gael eu ffurfio yn y gorffennol.

"Os gallwn ni ddod o hyd i'r mwynau hynny, yna ry’n ni’n gwybod eu bod nhw wedi cael eu ffurfio naill ai mewn llyn neu afon.

"Mae Enfys yn caniatáu i ni fesur eu sbectrwm a phenderfynu yn union ble maen nhw."

“[Heb Enfys] gallwch chi ddweud yn fras pa fathau o fwynau ydyn nhw, ond allwch chi ddim  dweud yr union fath o fwynau, felly mae Enfys yn caniatáu ichi nodi'r samplau pwysig mewn gwirionedd.

"Dim ond hyn a hyn o gyfleoedd fydd gennym ni i ddrilio, mae'n cymryd llawer o amser.

"Felly mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n drilio yn y llefydd cywir i gasglu samplau ar gyfer yr offer dadansoddi ar y cerbyd.

"Y siawns orau o ddod o hyd i olion o fywyd yw yn y llefydd lle bu dŵr.”

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi helpu datblygu camerâu PanCam y cerbyd

Cyn cyhoeddiad ddydd Iau ynglŷn â’r gwaith ychwanegol, roedd Dr Gunn a’i gydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio ar system o gamerâu panoramig, PanCam, ar gyfer y crwydryn.

Mae Dr Gunn wedi helpu i ddatblygu sampl lliw unigryw ar gyfer y camerâu, yn seiliedig ar ffenestri lliw eglwysi, fel bod y camerâu'n gallu cyfleu lliwiau’r blaned yn gywir.

Un o agweddau mwyaf heriol dylunio offer ar gyfer y crwydryn yw sicrhau eu bod yn gallu gweithredu yn oerfel eithafol y blaned Mawrth, lle gall y tymheredd ostwng mor isel â -120 gradd Celsius.

'Amgylchedd galed iawn'

Dywedodd Dr Gunn: "Mae dibynadwyedd yn her wirioneddol. Mae amgylchedd Mawrth yn galed iawn, felly mae gwneud yn siŵr bod popeth yn goroesi nosweithiau oer y blaned ac yn parhau i weithredu am fisoedd yn her wirioneddol.

"Mae gennym ni system gwactod thermol pwrpasol [yn y labordy] lle ry’n ni’n profi'r holl gydrannau ac is-systemau.

"Byddwn ni’n profi'r rheini dros y misoedd nesaf, i lawr i lai na meinws 130 gradd, ac yna hyd at 50 gradd, gannoedd o weithiau."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Enw’r crwydryn yn wreiddiol oedd ExoMars, ond mae bellach wedi cael ei ailenwi'n Rosalind Franklin.

Roedd hithau’n grisialegydd pelydr-x yn King's College, Llundain wnaeth ddarparu llun ym 1952 o’r trefniant atomig o DNA a gafodd ei  ddadansoddi gan Watson a Crick yn eu gwaith nhw ar DNA.

Mae llawer o wyddonwyr yn credu bod rôl Franklin wrth ddarganfod strwythur DNA yn haeddu mwy o gydnabyddiaeth.

Cafodd y crwydryn ei wneud yn y DU ac yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Iau fe fydd yn cynnwys mwy o offer sy’n cael ei ddatblygu dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.

'Arbed amser'

Dywedodd Libby Jackson, Pennaeth Archwilio’r Gofod yn Asiantaeth Ofod y DU, fod rôl y brifysgol yn y canolbarth yn allweddol.

“Bydd Enfys, mewn cydweithrediad â PanCam, yn galluogi’r crwydryn i adnabod y mannau iawn i fynd i ddrilio.

"Bydd yn arbed amser a bydd yn golygu y gallwn ni wneud y mwyaf o botensial gwyddonol y daith hon.

"Ry’n ni wrth ein bodd bod y DU yn gallu chwarae’r rôl hon wrth ddod â’r crwydryn yn ôl i’w botensial llawn, a bydd Aberystwyth yn gwneud gwaith gwych gyda’r offeryn hwn.”