3 Llun: Lluniau pwysicaf Alan Llwyd
- Cyhoeddwyd
Y prifardd, y cofiannwr, llenor, ysgolhaig a'r sgriptiwr Alan Llwyd yw Bardd Mis Mai Radio Cymru.
Cymru Fyw ofynnodd iddo ddewis tri llun sy'n agos at ei galon gan egluro pam.
Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi, 1976: fi a Janice, fy nyweddi ar y pryd, yn ein heisteddfod gyntaf gyda’n gilydd.
Eisteddfod gofiadwy, wrth gwrs, oherwydd imi ennill y Gadair a’r Goron yn Aberteifi.
Pwysicach o lawer na hynny oedd ennill gwraig! Hi oedd y perl yn y goron.
Cyfarfod â Janice yng ngwanwyn 1976, dyweddïo yn yr haf a phriodi yn yr hydref.
- Cyhoeddwyd11 Awst 2016
A dyma ni heddiw, bron i hanner can mlynedd yn ddiweddarach, gyda Ffion, ein hwyres, a Tristan, ein hŵyr.
Mae’r ddau wedi goleuo ein byd, ac mae’r llun hwn yn bwysig i mi oherwydd bod ein llawenydd yn amlwg iawn ynddo.
Ioan, ein mab hynaf, ydi tad Ffion, a Dafydd, ein mab ieuengaf, ydi tad Tristan.
Eisteddfod arall, sef Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.
Roeddwn i a Janice yn aros mewn bwthyn gwyliau yng Nghricieth, a’r bechgyn a’u teuluoedd yn aros mewn mannau cyfagos.
Yn y llun mae Ioan (yn y canol) a Dafydd (ar y chwith), fy meibion, a Tristan, fy ŵyr, ar fraich Dafydd a Ffion, fy wyres, yn ymyl Ioan.
Tynnwyd y llun yn union ar ôl defod y cadeirio, gydag Eleri Siôn yn holi Ioan, Dafydd a Ffion.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2023