Plentyn ifanc wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad

Central Drive, Shotton
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ffordd yn Shotton ei chau ar ôl y gwrthdrawiad ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio ar ôl i blentyn ifanc gael ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad gyda beic modur yn Sir y Fflint.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Central Drive yn Shotton yn dilyn y gwrthdrawiad am tua 17:30 ddydd Mercher.

Fe fethodd gyrrwr y beic modur â stopio ar ôl y gwrthdrawiad.

Cafodd y plentyn ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Alder Hey ar ôl cael anafiadau allai newid bywyd ac mae'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

Yn ôl Heddlu'r Gogledd, mae dyn sy'n cael ei amau o yrru'r beic modur wedi ei arestio ac mae tri o bobl eraill wedi cael eu harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

'Mwy o blismyn' yn yr ardal

Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan fod "mwy o blismyn" yn yr ardal wrth i swyddogion geisio dod o hyd i'r gyrrwr a fethodd â stopio yn dilyn y gwrthdrawiad."

Ychwanegodd: “Mae tri o bobol hefyd wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

“Rwy’n annog unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un a oedd yn teithio yn ardal Central Drive ar y pryd ac a allai fod â lluniau camera, lluniau ffôn symudol neu luniau teledu cylch cyfyng, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl."

Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud bod y dyn sy'n cael ei amau o yrru'r beic modur wedi cael ei arestio mewn ardal arall a bydd yn cael ei holi gan swyddogion yn ddiweddarach.

Pynciau cysylltiedig