Pryder dros gynnig i gau dau atyniad i arbed £1.2m
- Cyhoeddwyd
Byddai cau dau o atyniadau sir Caerffili er mwyn arbed arian yn "dinistrio'r lle" medd ymgychwyr lleol.
Mae Cyngor Caerffili yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar gynllun i gau Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon a Maenordy Llancaiach Fawr ger Nelson yn ogystal â thorri'r gwasanaeth Prydau Prydlon.
Byddai hyn yn arbed dros £1.2miliwn i'r cyngor
Mae Sefydliad y Glowyr wedi bod yn y Coed Duon ers 1925 ac wedi'i adeiladu gydag arian glowyr lleol.
Mae wedi bod yn llwyfan i artistiaid fel y band lleol y Manic Street Preachers, Opera Cenedlaethol Cymru, a Ken Dodd.
Bwriad y cyngor yw tynnu eu cymorthdal o £347,000 yn ôl, fyddai'n golygu cau'r adeilad ym mis Rhagfyr 2024, gyda'r awdurdod yn "archwilio opsiynau i redeg y cyfleuster mewn ffordd wahanol yn y dyfodol."
Mae'r aelod cabinet sy'n gyfrifol am gyllid yn dweud bod Cyngor Caerffili yn "wynebu her ariannol enfawr".
Yn ôl maer y Coed Duon, y Cynghorydd Rhys Mills, byddai'r cau'r Sefydliad yn "enfawr," wrth iddo gyferio at rai o'r artistiaid sydd wedi perfformio yno dros y ganrif ddiwetha'.
"Ni'n gwybod bod rhaid i'r cyngor safio arian, mae pawb yn gwybod 'na," meddai, ond mae'n dadlau nad oes angen cymryd y cam hwn.
"Maen nhw heb redeg y cyngor yn ddigon da dros y degawd diwethaf a dyna pam mae rhaid i nhw arbed yr arian nawr."
Llancaiach Fawr yn "rhan fawr o'r gymuned"
Mae Maerordy Llancaiach Fawr ger Nelson yn dyddio o'r 16eg ganrif, ac yn denu 60,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Roedd yn gartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2015.
Yn ôl Cyngor Caerffili byddai cau'r lleoliad ddiwedd 2024 yn arbed £485,000 y flwyddyn.
"Fi'n credu bod e'n warthus rili achos mae'r lle mor bwysig i'r gymuned," meddai John Polson o Nelson, fu'n gweithio yn y maenordy rai blynyddoedd yn ôl.
"Does 'na ddim profiad sy'n cymharu gyda fe rili.
"'Dan ni'n dangos hanes - living history."
Yn ôl Sion ap Llwyd Dafydd, sy'n 18 oed ac yn byw yn Nelson, mae Llancaiach Fawr yn "rhan fawr o'r gymuned".
"Mae'n ofnadwy bod y peth cyntaf mae'n nhw'n meddwl cymryd yr arian i ffwrdd ohono yw'r rhannau'r elfennol yma o gymunedau," meddai.
Dywed Cyngor Caerffili y bydden nhw'n archwilio opsiynnau i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gynnal yr atyniad
Yn ôl tad Sion, Eifion ap Llwyd Dafydd, mae "eisiau mynd ati i edrych ar wahanol opsiynau" cyn gwneud y penderfyniad i gau Llancaiach Fawr.
"Does dim byd gwaeth 'na'r lle yn wag a bydd o'n dirywio'n gynt."
'Nosweithiau di-gwsg' wrth wynebu "her ariannol enfawr"
Mae'r cyngor sir hefyd yn ystyried roi'r gorau i ddarparu gwasanaeth prydau i gartrefi ddiwedd mis Tachwedd.
Yn ôl y cyngor, mae cost y gwasanaeth tua £444,000 yn flynyddol.
Fe ddywedodd aelodau cabinet y cyngor sy'n gyfrifol am gyllid bod y cyngor yn wynebu "her ariannol anferthol".
Mae'n "anodd iawn ar bob lywodraeth lleol" ar hyn o bryd, meddai Dr Marlene Davies, darlithydd cyswllt yn adran fusnes Prifysgol De Cymru.
Dywedodd: "Mae'n bwll du oblegid oherwydd bod nhw ddim yn cael digon o arian oddi wrth y Llywodraeth a dyw'r Llywodraeth ei hunan ddim gyda digon o arian."
Ychwanegodd yr academydd bod cynghorau nawr yn gorfod canolbwyntio ar gynnal cyllid i wasanaethau hanfodol megis addysg oherwydd bod "pethau wedi mynd yn dynn".
"Allwch chi ddweud bod pethau ychwanegol wedi mynd naill ochr ers sbel bach."
Eluned Stenner yw'r aelod cabinet ar Gyngor Caerffili sy'n gyfrifol am gyllid.
"Ry'n ni'n wynebu her ariannol enfawr, gyda'r angen i arbed £45 miliwn o bunnoedd," dywedodd.
"Mae'r rhain yn benderfyniadau sy'n anodd iawn a mi fyddwn ni'n cael nifer o nosweithiau di-gwsg wrth bendroni."
Mae'r ymgynghoriad ynglŷn â'r toriadau posib yn cau ar 10 Medi.