Carcharu cyn-gynghorydd am geisio lladd ei wraig â chyllell

Darren BrownFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Darren Brown yn cyfaddef achosi niwed corfforol bwriadol i'w wraig ond yn gwadu ceisio ei lladd - ple a gafodd ei wrthod gan y rheithgor

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-gynghorydd tref ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael dedfryd o 18 mlynedd o garchar wedi i reithgor ei gael yn euog o geisio lladd ei wraig.

Fe drywanodd Darren Brown, 35, ei wraig Corinne, 33, deirgwaith - yn ei chefn a'i hochr - gyda chyllell cegin yn eu cartref yn ardal Melin Wyllt y dref fis Gorffennaf y llynedd.

Roedd Brown yn gwadu ceisio llofruddio gan bledio'n euog i gyhuddiad llai difrifol o achosi niwed corfforol bwriadol.

Fe fydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 12 mlynedd dan glo cyn cael ceisio am barôl.

Dywedodd y barnwr wrth ei ddedfrydu bod ei fwriad i ladd "yn glir".

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y cwpl wedi gwahanu chwech wythnos ynghynt ond yn dal yn byw dan yr un to pan gododd ffrae ynghylch cymar newydd Mrs Brown.

Aeth Brown i lawr y grisiau a nôl cyllell o’r gegin cyn dychwelyd a'i thrywanu ddwywaith yn ei chefn.

Roedd Mrs Brown yn plygu dros got ar y pryd i gysuro eu merch fach blwydd oed, oedd wedi cael ei deffro gan sŵn cecru.

Fe lwyddodd hithau i ddianc i'r ystafell ymolchi a chloi’r drws ond fe giciodd Brown y drws ar agor a'i thrywanu eto, cyn gadael y tŷ a dreifio oddi yno.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Darren Brown wrth gael ei arestio ac ar ôl cyrraedd yr orsaf heddlu

Clywodd yr achos ei fod wedi cynnig y gyllell iddi yn ystod yr ymsodiad gan awgrymu: "Gallen ni fynd 'da'n gilydd."

Fe achosodd dwll yn ei hysgyfaint a bu'n rhaid iddi dreulio bum niwrnod yn yr ysbyty.

Roedd Brown wedi honni i ddechrau mai ei wraig oedd â'r gyllell, a’i bod wedi cael ei hanafu wrth iddo geisio tynnu'r arf oddi arni.

Ffynhonnell y llun, Darren Brown/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron bod yr ymosodiad gan Darren Brown yn "ddychrynllyd a threisgar"

Wrth archwilio'r cartref ar ôl yr ymosodiad, daeth i'r amlwg bod Brown wedi dangos ymddygiad rheolaethol, meddai'r heddlu, gyda chloeon ar ddrysau a thystiolaeth o gamerâu o fewn y tŷ.

Roedd un camera wedi ei guddio mewn llofft a wnaeth recordio sain yr ymosodiad.

Mewn datganiad yn disgrifio effaith yr ymosodiad arni, dywedodd Corinne Brown ei bod "yn dal yn gallu ailfyw pob eiliad yn fy meddwl" a'i bod "wedi cael fy nghreithio yn gorfforol ac yn feddyliol" o ganlyniad.

"Rwy' dal yn gallu teimlo'r boen ble y gwnaeth Darren fy nhrywanu," meddai. "Mi wn bod Darren wedi ceisio fy lladd y noson honno."

Ychwanegodd mai ei phlant "sydd wedi fy nghynnal drwy'r cyfnod ofnadwy yma", a bod hwythau "yn ffodus, heb weld dim byd y noson honno".

Ond er eu bod yn "rhy ifanc i ddeall beth ddigwyddodd" dywedodd y bydd yn rhaid iddi egluro iddyn nhw un diwrnod.

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yng nghartref Darren a Corrine Brown, ar stad Tairfelin yn ardal Melin Wyllt y dref

Dywedodd y Barnwr Jeremy Jenkins bod Brown wedi gadael y safle gyda'i wraig "ar lawr yr ystafell ymolchi gydag anafiadau difrifol" ar ôl yr "ymosodiad milain gyda chyllell yr oeddech chi wedi mynd gyda'r bwriad o'i ddefnyddio".

"Roedd eich bwriad i'w lladd yn glir", meddai, ac roedd ei thrywanu yn ei chefn yn dangos "llwfrdra".

"Roedd hwn yn ymosodiad dychrynllyd a threisgar," dywedodd Hannah West o Wasanaeth Erlyn y Goron.

Roedd y diffynnydd, meddai, wedi "nôl y gyllell yn fwriadol... a'i defnyddio pan oedd y dioddefwr ar ei mwyaf agored i niwed.

Ychwanegodd y gallai "unrhyw un o’r anafiadau" wedi gallu lladd Mrs Brown, gan obeithio "y bydd hi'n gallu cael cysur o wybod bod ei gŵr wedi cael ei ddwyn gerbron y llys am yr ymosodiad erchyll hwn".