Teyrngedau i Huw John Hughes - un o sefydlwyr Pili Palas ac awdur

Huw John HughesFfynhonnell y llun, Cyhoeddiadau'r Gair
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw John Hughes yn un o sefydlwyr canolfan Pili Palas ac yn awdur toreithiog

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i Huw John Hughes - un o'r tri a sefydlodd brif ganolfan gloÿnnod byw Cymru - Pili Palas - ym Mhorthaethwy yn 1985.

Roedd Mr Hughes, a fu farw'n 80 oed, hefyd yn awdur llyfrau plant poblogaidd ac fe gyhoeddodd nifer o lyfrau ym meysydd natur, hanes a chrefydd.

Bydd ei gyfrol ddiweddaraf - Dyrys Daith - yn cael ei chyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ddechrau Awst.

arwydd

Cafodd Mr Hughes ei eni yn ardal Mynydd Llandygái.

Ar ddechrau ei yrfa bu'n athro yn Ysgol Glan Cegin, Maesgeirchen, yn bennaeth Ysgol Pen y Bryn, Bethesda ac yn ddarlithydd yn ei hen goleg sef y Coleg Normal ym Mangor.

Yn sgil ei ddiddordeb pan yn blentyn mewn pryfed a gloÿnnod byw, yn 1985 fe wnaeth wireddu breuddwyd oes drwy sefydlu canolfan Pili Palas ar Ynys Môn.

Agorodd y safle gyda dau arall, Huw Glyn Evans a'i wraig, Gwenda, ac fe ddaeth yn atyniad twristaidd hynod o boblogaidd.

Bu hefyd yn weinidog rhan amser yn Llanberis ac yng Nghapel Carmel, Moelfre, ac roedd yn gyfrannwr cyson i Munud i Feddwl ar Radio Cymru ac ar bynciau a oedd yn ymwneud â natur.

Bu hefyd yn ddyfarnwr pêl-droed gan gynnwys gemau yng Nghynghrair Cenedlaethol Cymru.

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ynys Môn yn 2017 cafodd ei dderbyn i'r Orsedd a'i anrhydeddu â'r wisg las.

Llyfrau Huw John HughesFfynhonnell y llun, Cyhoeddiadau'r Gair
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw John Hughes yn awdur toreithiog

Cyhoeddodd nifer o lyfrau - y rhan fwyaf gyda gwasg Cyhoeddiadau'r Gair.

Wrth ymateb i'w farwolaeth dywedodd Aled Davies ar ran Cyngor Ysgolion Sul a Chyhoeddiadau'r Gair: "Roedd Huw yn un o'n hawduron mwyaf toreithiog a dawnus - bob amser yn llawn creadigrwydd, ac wrth ei fodd yn ymchwilio ac arbrofi.

"Dros gyfnod o 30 mlynedd fe ddaru Huw baratoi dros 35 o gyfrolau swmpus ar gyfer Cyhoeddiadau'r Gair, y rhelyw ohonynt yn gyfrolau cwbl wreiddiol. Bu wrthi hefyd yn paratoi cyfrolau addysgol i weisg eraill cyn hynny.

"Paratodd gyfrolau gwasanaethau defosiynol di-ri a bu iddo hefyd addasu sawl cyfrol, gan gynnwys Beibl Lliw mewn 365 o storïau a Beibl Lliw Stori Duw, Chwedlau Mawr y Byd a Straeon o Bedwar Ban Byd.

"Fel un o dreuliodd flynyddoedd ym myd addysg, cafwyd cyfrolau gwreiddiol i blant ganddo, gan gynnwys Am Fyd, Am Bobl ac Am Ddawn, sef tair cyfrol yn cynnwys dros 100 o storïau gwreiddiol ym mhob un ohonynt.

"Fe aeth ati i baratoi cyfrol ar hanes yr Ysgol Sul yng Nghymru, sef Coleg y Werin, yn seiliedig ar ei waith ymchwil ar gyfer ei ddoethuriaeth."

'Uchel ei barch'

"Ond roedd Huw yn gymaint mwy nag awdur wrth gwrs. Roedd yn weinidog blaengar a mentrus, yn bregethwr hynod boblogaidd, ac yn uchel ei barch gan bawb," ychwanegodd Aled Davies.

"Roedd yn athro cynradd ysbrydoledig ac yn fentor i genedlaethau o athrawon yn sgîl ei waith fel hyfforddwr yn y Coleg Normal ac yn rhan o dîm a ddatblygodd Cynllun y Porth.

"Fe gofir amdano hefyd fel naturiaethwr, a dyn y Pili Palas, yn cyd-redeg yr atyniad poblogaidd a groesawodd ddegau o filoedd o ymwelwyr ac fel golygydd y cylchgrawn Cynefin."

Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y naturiaethwr Duncan Brown bod "Huw wedi cyfrannu o'i wybodaeth a'i brofiad entomolegol i restrau gwyfynod, gloÿnnod byw a gweision neidr Y Bywiadur".