Ymosodwr CPD Merthyr sy'n cael ei gymharu â Haaland

- Cyhoeddwyd
Cynyddodd Erling Haaland ei gyfanswm goliau ddydd Sul wrth i'r ymosodwr helpu Norwy i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1998.
Ond pan ddaw hi at sgorio goliau yn y gynghrair, mae ganddo gystadleuaeth.
Mae Haaland wedi cael llawer o sylw am ei 14 o goliau yn yr Uwch gynghrair, ond dydy hynny yn ddim o'i gymharu â llwyddiant Ricardo Rees.
Does neb yn chwe chynghrair uchaf Lloegr wedi sgorio mwy nag ymosodwr Merthyr, sydd wedi sgorio 18 o goliau yng Nghynghrair Genedlaethol y Gogledd i'r tîm o'r Cymoedd.
Beth sydd hyd yn oed yn fwy trawiadol, ydy ei fod ond wedi chwarae 17 gêm.
'Doeddwn i ddim yn disgwyl hyn ar ddechrau'r tymor'
Ond, dyw hyn ddim yn rhywbeth newydd i'r dyn 25 oed.
Sgoriodd Rees dros 30 o goliau yn y ddau dymor diwethaf, gan gynnwys helpu Merthyr i gael dyrchafiad o Uwch Adran De Lloegr y tymor diwethaf.
Mewn 156 o gemau i Ferthyr, mae'r ymosodwr wedi sgorio 112 gôl, ac mae Rees nawr yn arwr ym Mharc Penydarren.
"Doeddwn i ddim yn disgwyl hyn ar ddechrau'r tymor i fod yn onest, ond rydw i bob amser wedi gwthio fy hun i sgorio," dywedodd Rees wrth dîm Chwaraeon BBC Cymru.

Rees yn ystod buddugoliaeth Merthyr o 3-1 yn erbyn South Shields
Mae Merthyr yn drydydd yn y gynghrair ar hyn o bryd, ac mae'r cefnogwyr yn breuddwydio am ddychwelyd yn ôl i lefel pump Lloegr am y tro cyntaf ers dyddiau melys Merthyr yn yr 1980au, gyda'u buddugoliaeth enwog yn Ewrop yn erbyn Atalanta.
"Mae'n ystadegyn gwyllt, y 'top goalscorer'. Mae'n deimlad da, teimlad da iawn."
Does dim syndod, gan fod Erling Haaland a Mohammed Salah wedi methu sgorio ar yr un cyflymder y tymor yma.
Ond hyd yn oed mewn cynghrair is, i roi perfformiad Rees i mewn i gyd-destun, mae ei gyfanswm o 18 o goliau yn fwy na chlybiau Peterborough Sports, Leamington and Alfreton Town, sydd yn yr un gynghrair â Merthyr.
Merthyr 'ar dân'
Cafodd Rees ei eni yng Nghasnewydd, a dechreuodd ei yrfa ieuenctid gyda Chaerdydd yn saith mlwydd oed. Symudodd i Fryste bum mlynedd yn ddiweddarach lle enillodd gytundeb proffesiynol a chwaraeodd yn aml i dîm dan 23 Bryste.
Ond doedd erioed wedi chwarae i dîm hŷn Bryste; aeth ar fenthyg i Salisbury a Bath cyn symud i Yate Town yn 2021.
Yn ystod yr amser yma, mae Rees yn cyfaddef iddo syrthio allan o gariad gyda'r gêm.
Ond fe ffeindiodd gartref ym Merthyr ar ôl symud o Yate fis Gorffennaf 2021. Ers hynny, fe yw seren clwb, ac mae wedi dod o hyd i angerdd tuag at y gêm unwaith eto.
O flaen tyrfa leol, fywiog - gyda thorfeydd o dros 1,000 yn aml - mae Merthyr ar dân, ac wedi ennill pum gêm o'r bron yng Nghyngrair Genedlaethol y Gogledd.
Ac mae Rees yn hollbwysig i'r Merthyron, wedi iddo sgorio 11 yn ei saith gêm ddiwethaf, yn cynnwys y bedair gôl yn y fuddugoliaeth 4-2 oddi cartref yn erbyn Telford United.
Arweiniodd hyn at alwadau gan gefnogwyr Merthyr i Rees chwarae dros Gymru.
"Pwy a ŵyr beth sy'n bosib dros y blynyddoedd nesaf, byddai galwad yn neis," chwarddai Rees.
I nifer o gefnogwyr ffyddlon Merthyr, goroesi oedd prif nod y tymor. Ni fyddai'r cefnogwyr mwyaf positif wedi dychmygu bod gan Ferthyr le yn y gemau ail gyfle ar y pwynt yma yn y gynghrair.
Mae Rees a'i gyd-chwaraewyr wedi synnu pawb yn y clwb, sydd yn nwylo'r cefnogwyr.
'Tywysog Penydarren'
Mae llysenw Rees, 'The Prince of Penydarren Park', yn dweud popeth rydych chi angen ei wybod am farn y cefnogwyr am yr ymosodwr. Ac mae Rees yn eu parchu nhw yn ôl.
"Maen nhw'n dod i'r gemau cartref ac oddi cartref, maen nhw'n teithio mewn niferoedd mawr, maen nhw mor angerddol. Dw i'n meddwl bod cysylltiad yma," meddai.
"Rydych chi'n camu ar y cae ac rydych chi mewn lle diogel, maen nhw'n canu eich enw, does dim teimlad gwell.
"Mae'n glwb gwych, mae'n cael ei redeg gan y cefnogwyr, rhywbeth sydd ddim yn cael ei wneud gan lawer o glybiau. Mae bob amser yn braf cael cymaint o gariad gan y cefnogwyr, ac mae hynny i'w weld ar y cae hefyd, oherwydd mae'n rhoi'r hyder i chi. Rydyn ni'n ddiolchgar am byth amdanyn nhw."
Er y cafodd gynigion i symud ym mis Awst, arwyddodd Rees i aros gyda'r clwb tan ddiwedd y tymor. Helpodd y Rheolwr, y cefnogwyr a'r clwb i gadw Rees am flwyddyn arall.
Mae'r rheolwr, Paul Michael, wedi ymddiried yn Rees i arwain ymosodiad Merthyr eto, hyd yn oed ar ôl dyrchafiad y tymor diwethaf. Mae'n amlwg fod hyn yn benderfyniad anhygoel gan y rheolwr.
"Rydyn ni'n gwybod pa mor dda yw e fel rheolwr, mae'n ifanc hefyd, dw i'n meddwl ein bod ni'n ffodus iawn i'w gael e."
Fel ag y mae cefnogwyr Parc Penydarren yn lwcus i gael Haaland Merthyr.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd23 Awst

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
