Cyhuddo dyn ar gam o ladrata yn sgil nam gyda system adnabod wynebau

Cafodd Byron Long ei gyhuddo ar gam o ddwyn gwerth £75 o nwyddau o siop B&M
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a gafodd ei gyhuddo ar gam o ladrata ar ôl cael ei ychwanegu at restr wylio cwmni technoleg adnabod wynebau wedi rhybuddio y gallai "ddigwydd i unrhyw un".
Cafodd Byron Long, 66, ei orfodi i adael siop B&M mewn parc manwerthu ym Mae Caerdydd a'i gyhuddo o ddwyn gwerth £75 i nwyddau ar ymweliad blaenorol - ond profodd adolygiad o luniau CCTV nad oedd wedi dwyn unrhyw beth.
Mae B&M wedi ymddiheuro i Mr Long ac wedi cynnig taleb gwerth £25 iddo. Gwrthod y cynnig wnaeth Mr Long, ac mae'r grŵp ymgyrchu Big Brother Watch wedi gwneud cwyn ffurfiol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar ei ran.
Dywedodd Facewatch, y cwmni sy'n gyfrifol am y system adnabod wynebau sy'n cael ei ddefnyddio yn y siop, mai camgymeriad dynol oedd ar fai yn yr achos hwn, nid y dechnoleg.

CCTV sy'n dangos Mr Long yn talu £7 am fwyd i'w gath
Dywedodd Mr Long fod ei broblemau iechyd meddwl wedi gwaethygu ar ôl y digwyddiad ar 29 Ebrill ac fe ddisgrifiodd ymddiheuriad B&M fel "geiriau pitw heb ystyr".
"Dydyn nhw ddim yn cydnabod y peryglon a'r niwed y gallen nhw ei achosi gyda'r pŵer sydd ganddyn nhw," meddai.
"Mae fy rhyngweithio wedi mynd allan o'r ffenestr. Rwy'n dioddef gyda fy iechyd meddwl felly mae'n bwysig i mi fynd allan.
"Roedd yn brofiad ofnadwy a dwi heb fod yn ôl yno ers hynny.
"Rwy'n poeni y bydd yn digwydd eto."
Sut mae technoleg adnabod wynebau yn gweithio?
Mae Facewatch yn gwmni preifat sydd â thechnoleg adnabod wynebau sy'n cael ei defnyddio gan fusnesau ar draws y DU.
Mae'r dechnoleg yn gweithio trwy "baru wynebau yn erbyn rhai troseddwyr hysbys" wrth iddynt fynd i mewn i safle, a hynny drwy ddefnyddio system adnabod wynebau sy'n storio manylion unigolion.
Yna mae'r system yn anfon rhybudd at staff i'w adolygu, ac maen nhw'n penderfynu os yw'r system yn gywir neu beidio.
Dywedodd llefarydd ar ran Facewatch: "Gweithiodd ein system yn union fel y dylai, a chyn gynted ag y cawsom wybod gan y manwerthwr, cafodd data'r unigolyn ei ddileu ar unwaith yn unol â'n gweithdrefnau llym."
Cadarnhaodd B&M fod data Mr Long bellach wedi'i ddileu.
Heddluoedd i ddefnyddio ap adnabod wynebau er pryder hawliau
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2024
'Dylai'r heddlu ddefnyddio' technoleg wynebau
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2021
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Er bod technoleg adnabod wynebau ar gyfer defnydd masnachol yn gyfreithlon yn y DU, rhaid i'w defnydd gydymffurfio â chyfreithiau diogelu data llym.
"Rhaid i sefydliadau brosesu data biometrig yn deg, yn gyfreithlon ac yn dryloyw, gan sicrhau bod y defnydd yn angenrheidiol ac yn gymesur.
"Ni ddylai neb ddod o hyd i'w hunain yn y sefyllfa hon. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i sicrhau bod rheoliadau'n parhau i fod yn effeithiol wrth i dechnoleg esblygu a bod gan unigolion lwybr i gywiro'r mathau hyn o gamgymeriadau pan maen nhw'n digwydd."
'Troi cwsmeriaid yn droseddwyr'
Dywedodd Jasleen Chaggar, swyddog cyfreithiol a pholisi Big Brother Watch fod systemau o'r fath yn siŵr o arwain at ragor o achosion fel un Mr Long.
"Mae dod a chyhuddiadau troseddol yn erbyn pobl a'u gwahardd nhw heb unrhyw fath o ymchwiliad, proses briodol, na hawl i apelio wedi creu math o blismona preifat sy'n llawn anghyfiawnderau brawychus.
"Gallai unrhyw un ohonom gael ein cam-adnabod gan dechnoleg adnabod wynebau a gorfod profi ein bod ni'n ddieuog yn erbyn algorithm sydd wedi ein labelu ni'n anghywir fel lleidr."
Mae Mr Long wedi mynegi pryderon ynghylch ei allu i herio'r honiad a wnaed yn ei erbyn gan B&M.
Dywedodd pe bai'r lluniau CCTV wedi cael eu dileu, sef yr hyn oedd yn mynd i ddigwydd dim ond tridiau ar ôl i'r tîm eu gwirio, y byddai wedi bod yn amhosib iddo brofi ei fod wedi talu am ei siopa, ac felly heb ddwyn o'r siop.
"Roeddwn i'n gwybod nad oeddwn wedi gwneud dim byd o'i le ond nid ydych chi'n cael cyfle i herio, rydych chi'n cael eich brandio fel lleidr," meddai.
"Wnes i ddim siopa am hir ac es i at y til ar unwaith a thalu am y bwyd cath.
"Pan ofynnais pa nwyddau roedden nhw'n honni fy mod i wedi'u cymryd, doedd y staff ddim yn gallu dweud wrtha' i.
"Maen nhw'n troi cwsmeriaid yn droseddwyr ar gam. Gallai ddigwydd i unrhyw un".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.