Heddluoedd i ddefnyddio ap adnabod wynebau er pryder hawliau

Delwedd mapio ac adnabod wynebauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ap, medd yr heddluoedd, yn eu helpu wrth eu gwaith, ond mae'r dechnoleg yn destun pryder i fudiadau gwarchod iawnderau

  • Cyhoeddwyd

Dau o heddluoedd Cymru yw'r cyntaf trwy'r DU i lawnsio ap adnabod wynebau.

Fe fydd yr ap yn galluogi swyddogion Heddluoedd De Cymru a Gwent i gadarnhau pwy yw unigolion penodol.

Fe fydd yn eu galluogi i gadarnhau enwau unigolion sydd ar goll neu mewn perygl o niwed, a phobl y maen nhw'n chwilio amdanyn nhw dan amgylchiadau pan fo'r unigolyn methu, neu'n gwrthod, rhoi manylion.

Dyma'r tro cyntaf yn y DU i'r ap gael ei ddefnyddio i adnabod unigolion bron â bod yn y fan a'r lle, ond mae rhai yn beirniadu'r cam gan ddweud ei fod yn groes i hawliau dynol.

Mae'r ap OIFR (Operator Initiated Facial Recognition) wedi cael ei brofi gan 70 o swyddogion ar draws de Cymru.

Mae hefyd yn bosib i'w ddefnyddio i adnabod pobl sydd wedi marw neu sy'n anymwybodol, gan helpu'r heddlu gysylltu mor fuan â phosib gyda'u teuluoedd.

Dywed y lluoedd y bydd yn bosib i adnabod ac arestio pobl sydd dan amheuaeth o fod wedi troseddu yn gynt.

Bydd yn haws hefyd i ddatrys achosion o gam-adnabod, heb orfod mynd ag unigolion i orsaf heddlu neu'r ddalfa.

Dydy ffotograffau sy'n cael eu cymryd trwy'r ap ddim yn cael eu cadw, a bydd ond yn cael ei ddefnyddio dan amgylchiadau eithriadol pan fo risg o niwed difrifol mewn mannau preifat fel tai, ysgolion, safleoedd meddygol ac addoldai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae degau o swyddogion heddlu eisoes wedi rhoi prawf ar y dechnoleg ar draws y de

Mae'r meddalwedd yn cymryd "delwedd ymchwiliad" - fel arfer, o wyneb ar CCTV neu ffôn symudol - ac yn mesur nodweddion y wyneb, sef ein data biometrig.

Mae hwnnw'n cael ei gymharu â'r holl luniau gafodd eu tynnu mewn dalfa ar y gronfa ddata y mae heddluoedd yn ei rhannu.

Ym marn gwrthwynebwyr mae defnyddio technoleg adnabod wynebau'n torri hawliau dynol.

Yn 2020, fe ddyfarnodd y Llys Apêl fod defnydd Heddu'r De o dechnoleg APR (automatic facial recognition) yn anghyfreithlon.

Roedd hynny yn dilyn her gyfreithiol gan y grŵp iawnderau sifil, Liberty a dyn o Gaerdydd, Ed Bridges, a ddywedodd bod cael ei adnabod gan y dechnoleg yn peri gofid iddo.

Ond dywedodd y llys hefyd bod defnyddio APR yn "ymyrraeth dderbyniol" ar hawliau dynol, a bod y manteision yn uwch nag unrhyw effaith ar Mr Bridges.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Trudi Meyrick, mae'r ap newydd yn gwella gallu'r llu i gadarnhau enw person yn gywir.

"Dydy'r dechnoleg yma ddim yn disodli dulliau traddodiadol o andnabod pobl," meddai, "a bydd ein swyddogion ond yn ei defnyddio mewn achosion ble mae'n angenrehidiol ac yn gymesur i wneud hynny, gyda'r nod o gadw'r unigolyn yna, a'r cyhoedd yn gyffredinol, yn ddiogel."

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Nick McLain, bod defnyddio'r dechnoleg "yn rhan annatod o blismona'n effeithiol a diogelu'r cyhoedd".

"Mae defnyddio'r dechnoleg yma wastad yn cynnwys penderfyniadau a goruchwyliaeth dynol, gan sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio'n gyfreithiol, yn foesol ac er budd y cyhoedd.

"Mae gyda ni broses graffu gadarn i sicrhau atebolrwydd a doedd dim tystiolaeth yn ystod yr arbrawf o ragfarn ar sail hil, oedran na rhyw."

'Bygwth dileu hawl sylfaenol'

Mewn datganiad ar ran y grŵp iawnderau sifil a phreifatrwydd, Big Brother Watch, dywedodd Jake Hurfurt bod y penderfyniad "yn creu anghydbwysedd peryglus rhwng hawliau'r cyhoedd a hawliau'r heddlu".

"Ym Mhrydain, does dim rhaid i neb gadarnhau pwy ydyn ni i'r heddlu heb reswm da iawn, ond mae'r dechnoleg cadw golwg ddireol yma yn bygwth dileu'r hawl sylfaenol yna."

Dywedodd Charlie Whelton, or ran y grŵp Liberty, bod y dechnoleg "yn doriad hynod ymosodol ar ein hawl i breifatrwydd, deddfau diogelu data a deddfau cydraddoleb".

"Mae angen ar frys i'r llywodraeth cyflwyno camau i'n gwarchod wrth inni fyw ein bywydau bob dydd, yn hytrach na chaniatáu i'r heddlu barhau i arbrofi ar draul ein iawnderau sifil."