Mam a merch yn agor siop ffrogiau prom i feintiau mwy

Robyn Thompson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Robyn Thompson eisiau gwneud chwilio am ffrog prom "yn brofiad arbennig i ferched"

  • Cyhoeddwyd

Mae mam a merch o Sir Ddinbych wedi agor siop sy'n cynnig ffrogiau prom mewn meintiau mwy.

Roedd gan Wendy a Robyn Thompson siop ddillad yn Rhuthun yn barod ond nawr maen nhw wedi agor un arall dros y ffordd ar ôl gweld bwlch yn y farchnad i ferched yn eu harddegau sy'n chwilio am ffrogiau maint mwy.

"Roedden ni eisiau ei wneud o'n brofiad arbennig i ferched, gydag amrywiaeth o ffrogiau sydd wedi'u cynllunio'n benodol fel ffrogiau prom a dim ond ar gyfer merched fy oedran i," meddai Robyn.

"Nod y siop newydd yw gwneud yr un peth ar gyfer merched maint plus oherwydd mae'n bwysig iddyn nhw gael yr un profiad â phawb arall."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ruby-May Walker yn eithaf nerfus ynglŷn â mynd i siopa am ffrog

Arfer Americanaidd yw'r prom, sydd wedi dod yn boblogaidd yng Nghymru hefyd fel ffordd o ddathlu diwedd arholiadau ysgol - gydag amcangyfrif fod 85% o ysgolion yn cynnal seremoni erbyn hyn.

Un sydd wedi bod yn betrusgar ynglŷn â mynd i siopa am ffrog prom ydy Ruby-May Walker, o Goedpoeth, sy'n ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam.

"Ma' pawb yn teimlo'n gyffrous a 'dwi o hyd wedi bod eisiau bod yn gyffrous hefyd, cael seremoni fawr a pethau," meddai.

"O'n i'n teimlo mor ofnus am fynd i ffeindio'r ffrog a thrio petha' ymlaen, a 'falle stryglo i ffeindio'r maint cywir."

Disgrifiad o’r llun,

Y nod yw gwneud i ferched deimlo "ar eu gorau", meddai Ellie Tudor, sy'n gweithio yn y siop

Mae Ellie Tudor yn gweithio yn siop Ffansi Ffrogs ac yn credu bod y syniad wedi taro deuddeg gyda'r cwsmeriaid.

"Blwyddyn diwetha' o'n i'n sylwi bod y merched efo'r seisys mwy o ffrogiau, o'ddan nhw ddim eisiau gadael yr ystafelloedd newid weithiau achos bod nhw ddim eisiau i neb weld nhw," meddai.

"Mae'r siop yma'n mynd i, gobeithio, helpu eu profiad nhw.

"'Dan ni isho iddyn nhw fynd tu allan a sefyll ar y podiwm, a jyst gwneud nhw i deimlo ar eu gorau."

'Mae'n gwneud i mi wenu'

Mae Ruby-May hefyd yn credu bod cael siop yn benodol ar gyfer meintiau mwy yn bwysig.

"I weld yr un math o steiliau yn maint fi, a gwybod bod nhw'n mynd i ffitio'n gywir, mae'n gwneud i mi deimlo'n fwy hyderus a hapus i drio mwy ymlaen," meddai.

"Dwi'n cerdded rownd a chael lluniau ohonof i'n trio nhw 'mlaen ar ffôn fi.  Dwi'n edrych arnyn nhw ar ddyddiau lle dwi ddim yn teimlo mor dda am fy hun, a dwi'n gallu gweld fi yn y ffrogiau amazing 'ma.

"Mae'n gwneud i mi wenu a theimlo mor hapus.

"Pan fydda i'n dod allan o'r car yna, dwi'n gwybod dwi'n mynd i edrych fel pawb arall, yn hardd ac amazing - teimlo'n rili dda hefyd."

Pynciau cysylltiedig