Costau byw: Galw ar ysgolion i sicrhau proms 'cynhwysol'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Disgyblion ysgolion Dyffryn Conwy a Chwm Rhymni, a siop yn Aberporth, fu'n siarad â BBC Cymru

Mae grŵp wedi galw ar ysgolion i sicrhau bod proms diwedd tymor i ddisgyblion mor gynhwysol â phosib, wrth i gostau byw gynyddu a rhoi straen ariannol ar deuluoedd.

Mae digwyddiadau o'r fath wedi dod yn rhan ganolog o'r haf mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad bellach, yn enwedig i ddisgyblion Blwyddyn 11 a Blwyddyn 13 ar ddiwedd cyfnod o astudio.

Ond mae pryder dros gost gynyddol digwyddiadau o'r fath - gyda channoedd yn cael ei wario weithiau ar wisgoedd a pharatoadau - a galw felly am sicrhau bod plant difreintiedig ddim yn colli allan.

Dywedodd un siop yn Llandudno, sy'n darparu gwisgoedd prom i'r rheiny fyddai fel arall methu eu fforddio, mai eleni ydy'r flwyddyn "brysuraf 'dan ni erioed wedi cael".

'Llawer o ymdrech efo'r wisg'

Yn Ysgol Dyffryn Conwy roedd disgyblion Blwyddyn 11 eisoes yn cyrraedd erbyn canol y bore yn eu gwisgoedd gorau ar gyfer y dathliadau.

Cafodd seremoni Ffeil Gynnydd ei chynnal gan yr ysgol yn ystod y dydd i nodi diwedd eu cyfnod yno, cyn i'r disgyblion fynychu prom yn y nos oedd wedi ei drefnu'n annibynnol o'r ysgol.

Disgrifiad o’r llun,

"'Di o ddim yn rhad o gwbl," meddai Erin o Ysgol Dyffryn Conwy

"Mae pawb mor gyffrous i fod yma - dwi 'di 'neud llawer o ymdrech efo'r wisg, a dwi'n siŵr mae pawb arall wedi 'neud yr un peth hefyd," meddai Erin wrth iddi ymgynnull gyda'i ffrindiau.

"Mae mor neis allu dathlu pawb efo'i gilydd.

"O'n i 'di codi yn gynnar bora 'ma, lot o wythnosau jyst yn cael bob dim yn barod, ordro ffrog, 'sgidiau newydd, a chodi'n gynnar i 'neud gwallt a cholur.

"Na, 'di o ddim yn rhad o gwbl, ond dwi'n meddwl mae o i gyd werth o er mwyn jyst cael y profiad o fod i gyd efo'n gilydd, gwisgo'n smart, pawb yn mwynhau, gweld ein gilydd mewn ffordd wahanol i'r arfer."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Danny fod yr ysgol wedi creu holiadur er mwyn ceisio bod yn gynhwysol

Ychwanegodd Danny, un arall o ddisgyblion Blwyddyn 11, ei bod hi'n "bwysig iawn" fod pawb wedi cael y cyfle i allu dod i ddathlu diwedd y tymor gyda'u cyfoedion.

"Mewn ardal wledig fel hyn, hwn fydd y tro olaf i ni weld ein gilydd am dipyn oherwydd bod ardal yr ysgol mor fawr," meddai.

"Dwi'n meddwl 'dach chi'n gallu 'neud o'n wirioneddol rhad os 'dach chi'n ofalus am sut 'dach chi'n gwario eich pres.

"Fel ysgol 'dan ni 'di rhoi holiadur allan i baratoi'r pethau allanol... a 'neud yn siŵr bod pawb yn gallu dod."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y pennaeth Owain Gethin Davies, mae costau byw wedi rhoi "pwysau ychwanegol ar rieni a phobl ifanc"

Yn ôl y prifathro Owain Gethin Davies, fe bwysleisiodd yr ysgol nad oedd gofynion ar y disgyblion o ran gwisgoedd, ac mai dod at ei gilydd i nodi diwedd cyfnod oedd yn bwysig.

"Mae'n ffordd dda o ddathlu a chael pawb ynghyd, ac i gofio am y cyfnodau hapus," meddai.

"Yn sicr mae disgwyliadau pobl ifanc o nhw eu hunain wedi tyfu dros y blynyddoedd, ac mae delwedd ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu dylanwadu ar lawer hefyd.

"Efallai eleni mai'r prif bryder ydy bod costau byw wedi cynyddu, felly yn amlwg mae hwnna wedi rhoi pwysau ychwanegol ar rieni a phobl ifanc."

'Rhoi cefnogaeth lle mae angen'

Ychwanegodd bod yr ysgol wedi helpu cyfeirio rhai disgyblion at lefydd er mwyn benthyg gwisgoedd neu eu cael nhw am ddim, a bod modd hefyd i'r bobl ifanc eu hailddefnyddio ar gyfer digwyddiadau teulu eraill yn y dyfodol.

"Nid jyst buddsoddi ar gyfer heddiw maen nhw, ond mae modd iddyn nhw ddefnyddio'r wisg eto ar gyfer mwy nag un achlysur," meddai Mr Davies.

"Ond yn sicr 'dan ni'n rhoi cefnogaeth lle mae angen os fysa rhywun yn pryderu am orfod dod fyny i ddisgwyliadau gan y bobl ifanc eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ally Elouise ei hysgogi gan raglen deledu am blant oedd methu fforddio mynd i'w prom ysgol

Un siop yn yr ardal sydd yn darparu gwasanaeth o'r fath ydy PromAlly yn Llandudno.

Cafodd y fenter ei sefydlu gan Ally Elouise, 27, wedi iddi wylio rhaglen deledu am blant oedd methu mynd i'w prom ysgol am nad oedden nhw'n medru fforddio gwisgoedd.

Dechreuodd gasglu hen ffrogiau a siwtiau i'w benthyg i bobl, a bellach mae ganddi dros 3,000 ohonynt, gyda phobl ifanc o bob cwr o Brydain yn cael eu cyfeirio ati gan ysgolion, awdurdodau lleol, a hyd yn oed banciau bwyd.

"'Dan ni'n clywed am bobl weithiau'n cael eu bwlio am beidio bod â'r un pethau a phobl eraill," meddai.

"Mae wedi mynd yn boblogaidd iawn, ond mae hynny jyst yn dangos faint o bobl sy'n ei chael hi'n anodd, yn enwedig eleni - y mwyaf 'dan ni wedi ei gael erioed."

Disgrifiad o’r llun,

Bethann yn dewis esgidiau o gasgliad Ally

Roedd Bethann, disgybl Blwyddyn 11 o Sir y Fflint, wrthi'n dewis esgidiau i fynd gyda'r ffrog roedd hi eisoes wedi ei dewis o gasgliad Ally.

"Hwn yw'r un diwrnod lle fyddwn ni i gyd yn edrych yn neis a ffansi," meddai.

"Dylai pawb allu mynd, achos mae'n noson fawr ac o bosib yr un olaf fel yna y cewch chi efo'ch ffrindiau."

I'w mam, Laura, roedd gweld ei merch yn ei ffrog yn brofiad emosiynol tu hwnt.

"Doeddwn i methu fforddio prynu'r math o ffrog roedd Bethann eisiau, ac mae Ally wedi dod â'r freuddwyd yna'n wir ar gyfer Bethann a fi," meddai.

"Roedd yn faich mawr oddi ar fy ysgwyddau achos roedd o'n rhoi cyfle i Bethann fynd, ac i genod eraill sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth."

Disgrifiad o’r llun,

"Roedd yn faich mawr oddi ar fy ysgwyddau," meddai mam Bethann, Laura

Mae ymchwil gan Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi canfod bod digwyddiadau arbennig fel proms yn gallu "peri gofid i blant" oherwydd y costau.

"Mae rhai plant yn cael eu prisio allan o gymryd rhan ac mae athrawon yn dweud wrthym ni fod rhai plant hyd yn oed yn methu ysgol pan mae digwyddiad hwyl ymlaen am na allen nhw fforddio i ymuno," meddai Kate Anstey, sy'n arwain prosiect y grŵp ar gostau ysgol.

"Mae ysgolion eisiau'r gorau i blant, ond wrth i gostau byw gynyddu, y flaenoriaeth ddylai sicrhau fod digwyddiadau'n gynhwysol a fforddiadwy.

"Ddylai'r un plentyn deimlo'r stigma o gael eu gadael allan o'u hysgol eu hunain, dim ond oherwydd bod prinder arian adref."

'Pwysau ar rieni ac ysgolion'

Cafodd costau proms ysgol ei godi gan Mick Antoniw AS yn y Senedd yn 2019, ac eleni fydd y tro cyntaf ers Covid i ddigwyddiadau o'r fath gael eu cynnal yn helaeth unwaith eto.

"Mae'r diwylliant yma wedi dod o America ac wedi dod yn rhywbeth diwylliannol mawr," meddai AS Pontypridd.

"Ond mae hynny hefyd wedi denu agweddau eraill o ddiwylliant prom fel limwsîns, dillad drud, partis drud.

"Mae'n grêt bod disgyblion yn gallu dod at ei gilydd i ddathlu, ond nawr bod argyfwng costau byw gyda ni mae lot o bwysau ar rieni ac ysgolion... ac mae'r neges yna ar fod yn gynhwysol yn gryfach fyth."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tracy Neale fod Ysgol Cwm Rhymni yn teimlo'n gryf "y dylai pawb gael y cyfle i fynd" i'w prom

Mae ysgolion fel Cwm Rhymni yng Nghaerffili eisoes wedi cymryd camau i helpu disgyblion, gan ddarparu siwtiau a ffrogiau prom i'r rheiny sydd eu hangen.

"Un peth 'dyn ni'n teimlo'n gryf iawn amdano yw y dylai pawb gael y cyfle i fynd, ac mae cynnig gwisgoedd prom yn un ffordd fach o sicrhau bod hynny'n digwydd," meddai'r dirprwy bennaeth Tracey Neale.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod cynllunio digwyddiadau o'r fath yn fater i "ysgolion unigol" ond y dylen nhw "geisio darparu cefnogaeth benodol i'r bobl ifanc sydd ei angen".

"Bydden ni'n disgwyl iddyn nhw ystyried nid yn unig effaith ariannol penderfyniadau o'r fath, ond lles y disgyblion," meddai.

Ychwanegodd fod y llywodraeth eisoes yn darparu £200 i deuluoedd plant ar brydau ysgol am ddim er mwyn helpu gyda chostau eraill fel gwisg ysgol, dillad ymarfer corff ac offer eraill, ac y bydd £100 ychwanegol yn cael ei roi i'r disgyblion hynny y flwyddyn nesaf.

Pynciau cysylltiedig