Swyddog heddlu wedi ei anafu gan ddyn â bwyell

Dwygyfylchi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd swyddogion arfog eu galw i'r digwyddiad yn Nwygyfylchi

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddog heddlu wedi cael ei anafu yn dilyn ymosodiad gan ddyn gyda bwyell yn Sir Conwy.

Toc cyn 15:30 brynhawn Mercher fe aeth swyddogion i eiddo yn Nwygyfylchi wrth ddelio â'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "mater plismona arferol".

Dywedodd Heddlu'r Gogledd mewn datganiad fod dyn gyda bwyell wedi ymosod ar un o'r swyddogion, a'u bod wedi dioddef anaf i'w llaw.

Cafodd swyddogion arfog eu galw i'r digwyddiad a bu'n rhaid cau rhai ffyrdd yn yr ardal am gyfnod.

Bron i chwe awr yn ddiweddarach fe gafodd dyn 57 oed ei arestio ar amheuaeth o glwyfo.

Mae'r heddlu wedi ymddiheuro i unrhyw "drafferthion neu bryder" gafodd ei achosi gan yr ymdrech i arestio'r dyn.

Pynciau cysylltiedig