Teyrnged i ffermwr fu farw mewn digwyddiad beic cwad

Hugh TudorFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei deulu y bydd "colled enfawr" ar ôl Hugh Tudor

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu ffermwr o Geredigion fu farw mewn digwyddiad yn ymwneud â beic cwad amaethyddol wedi rhoi teyrnged i "dad arbennig".

Bu farw Hugh Tudor, 65, yn y digwyddiad yn Llanilar ger Aberystwyth nos Fercher, 17 Gorffennaf.

Dywedodd y teulu mewn datganiad: “Roedd Hugh Tudor yn ffermwr 65 mlwydd oed a oedd yn ffermio gyda’i wraig Ann yn Tynberllan, Llanilar ers dros deugain mlynedd.

"Roedd yn dad arbennig i Sara, Lowri a’r diweddar Gwenno."

Bu farw merch Mr Tudor, Gwenno Fflur Tudor yn 18 oed mewn gwrthdrawiad ffordd yn 2014.

'Ffermio oedd ei fywyd'

Ychwanegodd datganiad y teulu ei fod yn "fab i’r diweddar Tom a Sybil Tudor o Glanystwyth a brawd i Richard".

"Ffermio oedd ei fywyd ond roedd hefyd yn eang ei ddiddordebau ac yn weithgar iawn yn ei ardal leol a thu hwnt.

"Mae colled enfawr ar ei ôl.

"Fel teulu rydym yn diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u caredigrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.”