Dirwy i fferm yng Ngheredigion am lygru nant gyda slyri

Storfa Slyri RhydsaisFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd storfa slyri Rhydsais wedi rhyddhau bron 70 galwyn o lygredd i nant fechan

  • Cyhoeddwyd

Mae busnes fferm yng Ngheredigion wedi’u cael yn euog o drosedd amgylcheddol ar ôl i’w storfa slyri fethu, gan ryddhau bron 70 galwyn o lygredd i nant fechan.

Fe gafodd Fferm Rhydsais yn Nhalgarreg eu herlyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ôl i storfa slyri’r fferm fethu ar 16 Chwefror 2022, gan arwain at lygru o leiaf 12km o afonydd.

Roedd rhwng 60,000 a 70,000 galwyn o slyri wedi’i ryddhau i nant ddienw sy’n llifo i Afon Cletwr Fach, sydd yna’n llifo i Afon Cletwr, ac i Afon Teifi yn y pendraw.

Dangosodd dadansoddiad samplau dŵr fod lefelau llygredd sylweddol yn ymestyn o Fferm Rhydsais, sy'n fusnes teuluol, i ble mae Afon Cletwr yn ymuno ag Afon Teifi, 12km i ffwrdd.

Cafwyd Fferm Rhydsais yn euog o drosedd amgylcheddol a’u gorchymyn i dalu cyfanswm o £13,035, yn cynnwys dirwy o £5,000, a chostau.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y slyri wedi llifo i nant ddienw sy’n llifo i Afon Cletwr Fach, sydd yna’n llifo i Afon Cletwr, ac i Afon Teifi yn y pendraw

Roedd un o gyfarwyddwyr busnes Fferm Rhydsais wedi dweud wrth CNC am fethiant y storfa slyri, ond fe glywodd y swyddogion hefyd gan aelodau’r cyhoedd i lawr yr afon o'r fferm.

Ar ddiwrnod y digwyddiad, roedd yr afon wedi ei gorchuddio ag ewyn, gydag arogl cryf o slyri.

Cafodd chwe physgodyn marw eu darganfod yn Afon Cletwr Fach y diwrnod wedi'r digwyddiad.

Yn ôl CNC, mae’n debygol bod hyn yn is na’r cyfanswm go iawn o bysgod marw gan fod y llygredd wedi’i gwneud hi'n anodd gweld yn y dŵr, ac roedd llif uchel yn yr afonydd yn dilyn glaw.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd chwe physgodyn marw eu darganfod yn Afon Cletwr Fach y diwrnod wedi'r digwyddiad

Ddiwrnod wedi'r digwyddiad, fe wnaeth Dŵr Cymru rybuddio CNC eu bod wedi canfod lefelau anarferol o uchel o amonia yn eu safle tynnu dŵr yn Llechryd, sy'n cyflenwi dŵr i eiddo yn ne Ceredigion.

Cafodd y pwynt tynnu dŵr ei gau nes bod lefelau amonia wedi gostwng.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd CNC wedi dadlau bod y llygredd wedi'i achosi gan fod y storfa slyri yn rhy hen a heb gael ei chynnal yn gywir

Yn ystod yr ymchwiliad, datgelwyd bod y storfa slyri dan sylw wedi bod ar y fferm ers y 1970au ac nad oedd unrhyw waith cynnal a chadw ffurfiol wedi digwydd ar wahân i archwiliadau gweledol yn ystod y degawd diwethaf.

Dadleuodd CNC yn y llys bod y llygredd wedi'i achosi gan fod y storfa slyri yn rhy hen ac nad oedd wedi cael ei chynnal yn gywir.

Yn ôl Dr Carol Fielding, arweinydd tîm amgylchedd Ceredigion, roedd y difrod amgylcheddol yn ddifrifol.

"Cafodd effaith y digwyddiad hwn ei theimlo ymhell y tu hwnt i'r nant yr aeth y slyri iddi.

”Fe wnaeth niweidio ansawdd dŵr a bywyd gwyllt lleol o fewn dalgylch Afon Teifi.

"Mae gan bob ffermwr ddyletswydd i sicrhau bod eu storfeydd slyri yn strwythurol gadarn i atal trychinebau o'r fath."

Pynciau cysylltiedig