Cyhuddo nyrs ym Mhen-y-bont o ffugio cymwysterau

Tanya Nasir
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tanya Nasir yn gwadu naw cyhuddiad o dwyll

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes 45 oed yn y llys wedi’i chyhuddo o ddweud celwydd yn fwriadol a "ffugio ei chymwysterau a'i phrofiad" er mwyn cael swydd nyrsio uwch mewn uned ar gyfer babanod sâl a chynamserol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Tanya Nasir, o Sir Hertford, wedi “dweud celwydd yn fwriadol ar ei ffurflenni cais" a hyd yn oed wedi honni ei bod wedi gwasanaethu yn yr hyn a alwodd yn "Fyddin Frenhinol Prydain".

Dywedodd ei bod wedi cael ei saethu yn Afghanistan.

Dywed yr erlyniad na chafodd ei hanfon i unrhyw fan lle bu gwrthdaro na brwydro.

Wrth erlyn, dywedodd Emma Harris wrth y rheithgor: "Hi oedd yn gyfrifol am ofalu am fabanod newydd-anedig, fe roddodd y cleifion mwyaf bregus mewn perygl."

Mae Ms Nasir yn wynebu naw cyhuddiad o dwyll, ac mae hi'n gwadu'r holl gyhuddiadau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tanya Nasir yn cael ei chyflogi fel rheolwr ward ar yr uned newydd-anedig yn Ysbyty Tywysoges Cymru

Clywodd y llys fod Tanya Nasir yn cael ei chyflogi fel rheolwr ward Band 7 ar yr uned newydd-anedig o fis Medi 2019 tan 7 Chwefror 2020, pan gafodd ei hatal gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Clywodd y rheithgor fod y rôl yn gofyn am brofiad clinigol, strategol a rheoli sylweddol wrth ofalu am fabanod newydd-anedig.

Codwyd amheuon pan gafodd Ms Nasir gyfweliad gyda’i rheolwr llinell Sian Townsend yn Ionawr 2020 i ail-ddilysu ei chofrestriad Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth - rhywbeth oedd yn arferol bob tair blynedd.

Daeth Ms Townsend yn bryderus am nifer o "anghysondebau" ar ei CV.

Dechreuwyd ymchwiliad, ond fe ymddiswyddodd Ms Nasir ddeuddydd cyn yr oedd i fod i ymddangos gerbron panel disgyblu ym mis Tachwedd 2021.

Cymwysterau 'twyllodrus a ffug'

Clywodd y llys fod Tania Nasir wedi datgan profiad nyrsio sylweddol mewn ysbytai mawr pan wnaeth gais am y swydd yn uned Pen-y-bont ar Ogwr.

Honnodd ei bod wedi gweithio gyda babanod cynamserol fel Nyrs Staff Newydd-enedigol Band 5/6 yn Ysbyty Chelsea a Westminster yn Llundain rhwng 2010 a 2015, ond clywodd y llys nad oedd cofnod iddi gael ei chyflogi yno.

Clywodd y rheithgor hefyd bod Ms Nasir wedi honni iddi gael ei chyflogi ym meddygfa triniaethau wyneb Maxillo, theatrau llawdriniaethau brys a'r adran damweiniau ac achosion brys rhwng 2004 a 2007 gydag Ymddiriedolaeth Ysbytai Gorllewin Sir Hertford.

Honnodd hefyd ei bod wedi gweithio yn yr uned gofal dwys i oedolion yn Ysbyty Cyffredinol Watford fel nyrs.

Mae'r adrannau Adnoddau Dynol yn dweud nad yw hi erioed wedi cael ei chyflogi ganddyn nhw mewn unrhyw swydd.

Honnodd hefyd iddi fod yn Ymarferydd Adran Weithredu. Er mwyn gwneud hynny, byddai hi wedi gorfod bod wedi cael ei chofrestru gyda'r Cyngor Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal.

Mae'r cyngor wedi cadarnhau nad oedd ganddyn nhw unrhyw gofnod yn enw Tanya Nasir.

Dywedodd Ms Harris fod y wybodaeth roedd Ms Tanya Nasir wedi ei darparu ar ei ffurflenni cais yng Nghwm Taf Morgannwg ac ar gyfer dau gais i Ysbyty Hillingdon yn Llundain yn dwyllodrus ac yn ffug.

"Fe aethon nhw ymhellach na gorliwio neu addurno ei chymwysterau. Roeddent yn cynnwys graddau nad oedd ganddi, roeddent yn cynnwys profiad nad oedd ganddi ac na allai fod wedi'i gael. "

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pryderon eu codi pan gafodd Ms Nasir gyfweliad gyda’i rheolwr llinell yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn Ionawr 2020

Clywodd y llys fod anonestrwydd Ms Nasir wedi dechrau yn 2010 pan ddechreuodd astudio ar gyfer Diploma mewn Addysg Nyrsio Uwch o Brifysgol Newydd Sir Buckingham.

Tua wyth mis i mewn i'r cwrs hwnnw, fe'i cafwyd yn euog o bedwar cyhuddiad o dwyll budd-daliadau nawdd cymdeithasol yn Llys Ynadon Gorllewin Sir Hertford.

Cafodd yr euogfarnau eu cofnodi yn y wasg leol a chawsant eu gweld gan staff y brifysgol.

Cafodd orchymyn i fynychu cyfarfod addasrwydd i ymarfer am fethu â datgelu y drosedd.

Rhoddodd Ms Nasir lythyr i'r brifysgol gan Wasanaeth Prawf Sir Hertford, yn dweud nad oedd hi o dan unrhyw rwymedigaeth i ddweud wrthyn nhw am yr euogfarnau.

Dywed yr erlyniad ei bod wedi "ffugio'r llythyr", ac fe berswadiodd awdurdodau'r brifysgol i ganiatáu iddi barhau â'r cwrs gradd a chymhwyso yn 2014.

Geirda ffug

Bu'n gweithio fel cynorthwy-ydd nyrsio - nyrs heb gymhwyso - yn Ysbyty Hillingdon yn Llundain o Chwefror 2013 tan fis Hydref 2015. Bu hefyd yn gweithio i Ysbyty Spire Bushey.

Ym mis Tachwedd y flwyddyn honno fe wnaeth hi gais am swydd yn Ysbyty Hillingdon fel nyrs Staff Newydd-enedigol Band 5.

Un o'r geirda a roddwyd oedd gan Uwchgapten Matthew Nash-Yearwood, swyddog gyda'r Fyddin Diriogaethol.

Clywodd y llys bod Ms Nasir wedi ymuno â llu Cadetiaid Wrth Gefn y Fyddin, ond cafodd ei diswyddo ym mis Mai 2016.

Er ei fod yn adnabod Ms Nasir, dywedwyd wrth y llys nad oedd Matthew Nash-Yearwood wedi rhoi geirda, doedd y cyfeiriad ebost ddim yn perthyn iddo, ac roedd hi wedi ffugio’r cyfan i gryfhau ei chais.

Mae disgwyl i'r achos bara am fis.