Olion tân dinistriol wedi'u datgelu yn Hen Goleg Aber
- Cyhoeddwyd
Mae darnau o bren wedi’u llosgi, waliau yn ddu ar ôl mwg a hen offer labordy wedi cael eu datgelu gan waith i adnewyddu yr Hen Goleg yn Aberystwyth.
Nod y prosiect £43m – sy’n adfer yr adeilad rhestredig Gradd I - yw rhoi bywyd newydd i’r safle eiconig ar lan y môr.
Fe fydd yr Hen Goleg ar ei newydd wedd yn cynnwys canolfan newydd ar gyfer dysgu, treftadaeth, diwylliant a menter, yn ogystal â gwesty pedair seren.
Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, mae disgwyl iddo ddenu 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn a chyfrannu hyd at £14.5m y flwyddyn i'r economi leol.
Mae rhan o'r adnewyddiad yn cynnwys cloddio i lawr isaf yr adeilad lle mae archeolegwyr wedi dod o hyd i weddillion tân a laddodd tri dyn, yn ogystal â dinistrio rhan helaeth o’r adeilad.
Mae darnau o bren wedi’u llosgi wedi'u canfod yn y rwbel, yn ogystal â rhannau o waliau'r seler sydd wedi’u marcio’n ddu gan fwg.
Hefyd, mae darnau o losgydd Bunsen a stôf fechan, a nifer o boteli gwydr wedi dod i’r golwg.
Adeg y tân – a ddechreuodd yn y nos ar 8 Gorffennaf 1885 – roedd yr Hen Goleg yn cynnwys nifer o adrannau academaidd, llyfrgell, amgueddfa a llety.
Mewn adroddiad, disgrifiodd y papur lleol The Cambrian News and Meirionethshire Standard effeithiau dinistriol y tân.
Dywedodd fod Mr Stone, "prifathro’r ysgol golegol" - yn sefyll ar y “teras o flaen y coleg pan ddisgynnodd y simnai a chwalodd yr amgueddfa".
"Syrthiodd y cerrig yn agos iawn i’r man lle roedd yn sefyll, nes iddo neidio i'r traeth islaw - pellter o tua 20 troedfedd."
Credir i’r tân gychwyn ar y pumed llawr mewn labordy gwyddoniaeth.
Yn ôl yr adroddiad papur newydd, cafodd ymchwiliad ei gynnal gan y Cyrnol Syr Charles Firth o Gymdeithas y Frigâd Dân yn Llundain.
Ar ôl cyfweld â’r prifathro, athrawon a maer y dref dywed yr adroddiad iddo "ddod i’r casgliad mai achos y tân oedd ymlosgiad digymell darnau o wastraff cotwm a ddefnyddiwyd i lanhau ar ôl yr arbrofion cemegol yn y labordy".
Credir bod y tân wedi achosi i silindrau ocsigen ffrwydro.
Mae Elgan Davies, oedd yn gweithio fel llyfrgellydd yn yr Hen Goleg, wedi ysgrifennu am hanes yr adeilad.
Dywedodd fod y tân yn “ddifrifol iawn” a bod y fflamau wedi cael eu gweld yn gyntaf gan fenyw oedd yn byw gerllaw yn Heol y Wig.
“Fe gododd hi’r larwm," meddai. "Roedd y tân wedi cychwyn yn labordy yn nho yr adeilad ac wedi lledu’n gyflym iawn.
"O fewn dim amser roedd dwseni o bobl wedi dod yma i helpu i geisio achub yr adeilad.”
Yn ogystal â cheisio diffodd y fflamau bu nifer o bobl yn mynd mewn i’r adeilad er mwyn achub pethau, yn ôl Elgan Davies.
“Roedd trysorau o’r llyfrgell a’r amgueddfa wedi cael eu symud i’r lawnt o flaen Eglwys Sant Mihangel, ond roedd y bobl yn dal i ymladd y tân pan roiodd y llawr ac fe wnaeth tri pherson ddisgyn.”
Y tri dyn lleol a gollodd eu bywydau oedd James Edwin Brett, oedd yn 21 oed ac yn byw gyda'i fam, Samuel Jones, oedd yn briod ac yn dad i ddau o blant, a John Davies, oedd yn briod ac yn dad i chwech.
Dywed Faye Thompson, cydlynydd casgliadau prosiect yr Hen Goleg, nad oedd gan y dynion unrhyw gysylltiad uniongyrchol â'r brifysgol.
“Ro’n nhw’n byw yn lleol, do’n nhw ddim yn fyfyrwyr, ond roedd y brifysgol yn golygu eitha' lot i bobl Aberystwyth," meddai.
"Roedd wedi cymryd amser hir iddi gael ei hadeiladu, ac felly roedd yn amlwg eu bod nhw’n teimlo ei bod yn werth y risg o geisio amddiffyn yr etifeddiaeth honno.
“Mae [eu dewrder] wedi’n galluogi ni i achub holl gasgliadau’r llyfrgell, a llawer o ddarnau o’r amgueddfa hefyd.
"Mae gennym ni rai darnau yn ein casgliad nawr sydd ar gael i’w harddangos oherwydd ymdrechion y dynion hyn, ac eraill hefyd.”
Mynychwyd angladdau'r tri fu farw gan bwysigion lleol a dros 2,000 o bobl.
Nawr, bron i 140 mlynedd ar ôl y tân, mae tystiolaeth o’i effeithiau yn dod i’r amlwg wrth i’r gwaith adnewyddu barhau.
Yn ogystal â’r waliau du a’r pren wedi’i losgi, mae archeolegwyr sy'n gweithio ochr yn ochr â'r contractwyr wedi dod o hyd i losgydd Bunsen wedi'i ddifrodi a stôf nwy fechan.
Dywedodd Jessica Domiczew, sy'n gweithio i Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed, bod yr eitemau yn helpu i "roi stori’r adeilad at ei gilydd fesul tipyn".
“Trwy gydol y gwaith, ry’n ni wedi ffeindio ychydig o ddarnau o bren sydd wedi'i losgi'n eitha' gwael fan hyn a fan draw.
"Mae siawns dda iawn eu bod yn gysylltiedig â'r tân. Does gennym ni ddim unrhyw esboniad arall o ble mae'n dod.
“Mae'n gyffrous iawn i archeolegwyr – dy’n ni ddim yn cael cymaint o arteffactau cyflawn fel hyn mewn gwirionedd. Felly mae’n gyffrous iawn i ni.”
Yn ogystal â’r eitemau sy’n gysylltiedig â’r tân, mae hen bapurau newydd o ddiwedd y 19eg ganrif a ffrog wen wedi dod i’r golwg.
Roedd Prifysgol Aberystwyth yn dal i fod yn sefydliad ifanc adeg y tân – agorwyd ei drysau dim ond 13 mlynedd ynghynt ym 1872.
Wedi'r tân, cafwyd awgrym y dylid rhoi'r gorau i'r syniad o gynnal prifysgol yn Aberystwyth a dargyfeirio cyllid i sefydlu prifysgol newydd yn Abertawe.
Ond cafodd yr Hen Goleg ei ailadeiladu gyda £10,000 o’r arian yswiriant.
Goruchwyliwyd llawer o’r gwaith ailadeiladu gan y pensaer John Pollard Seddon, a oedd wedi gweithio ar yr adeilad i’r brifysgol cyn iddi agor ym 1872.
Hefyd, cafodd y gronfa ailadeiladu hwb gan ymdrech gyhoeddus arall i godi arian, yn ôl Elgan Davies.
“Fe gasglwyd tipyn o arian, a nid yn unig yng Nghymru ond ym Manceinion a Lerpwl – Cymry oedd yn byw yna yn dod ynghyd i godi arian i anfon at y gronfa.
"Casglwyd yn agos at £25,000.”
Mae’r prosiect adnewyddu presennol yn parchu hanes a threftadaeth yr adeilad tra hefyd yn rhoi dyfodol newydd iddo.
Dywedodd rheolwr y prosiect, Jim O’Rourke, fod y golau trydan cyntaf a’r ffôn cyntaf yn Aberystwyth wedi’u gosod yn yr Hen Goleg.
Ychwanegodd bod pawb sydd ynghlwm â’r prosiect yn ymwybodol o hanes yr adeilad dros 150 o flynyddoedd a bod lot o ddatblygiadau wedi digwydd yno.
“Mae e wedi newid sawl gwaith, y tân oedd y newid mwyaf falle ond roedd newid hefyd yn y 1960au - a dyma ni nawr yn dod at y cyfnod nesaf lle ‘da ni angen adeilad sy’n addas i ofynion y presennol.”