Cyhoeddi enw dyn fu farw ar safle ailgylchu yn lleol
- Cyhoeddwyd
Mae gweithiwr fu farw mewn digwyddiad ar safle ailgylchu yng Nghaerdydd wedi cael ei enwi’n lleol fel Kyle Colcomb.
Cafodd Mr Colcomb ei ddisgrifio gan gydweithwyr fel “gwr bonheddig” a dyn “cwbl unigryw”.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle Atlantic Recycling yn Nhredelerch, Caerdydd, am 12:45 ddydd Llun.
Dywedodd yr heddlu fod dyn wedi cael ei anafu yno, a'i fod wedi marw o'i anafiadau.
Yn ôl perchnogion y cwmni, Dauson Environmental Group, fe ddigwyddodd y farwolaeth tra bod "contractwr yn gwneud gwaith cynnal a chadw" ar y safle.
Dywedodd M & B Hydraulics eu bod wedi "digaloni'n llwyr" yn sgil marwolaeth Mr Colcomb, gan ddweud ei fod yn “bleser llwyr i fod wedi gallu gweithio gydag ef”.
Disgrifiodd UKFF Solutions Mr Colcomb ar Instagram fel “dyn gwych a gweithiwr arbennig o galed".
Dywedodd Dauson mewn datganiad ddydd Llun eu bod yn “parhau i gefnogi’r gwasanaethau brys a rheoleiddwyr gyda’u hymchwiliadau”.