Galw ar ragor o siaradwyr Cymraeg i fabwysiadu

Suzanne GriffithsFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Suzanne Griffiths eisiau gweld mwy o fabwysiadwyr cyfrwng Cymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae angen annog rhagor o siaradwyr Cymraeg i fabwysiadu, yn ôl y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru.

Mae cyfarwyddwr y gwasanaeth, Suzanne Griffiths yn credu bod camsyniadau am y broses yn atal rhai siaradwyr Cymraeg rhag ystyried gwneud hynny.

Ar hyn o bryd, mae tua 200 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu yng Nghymru.

Dros y penwythnos, daeth pobl sydd wedi mabwysiadu at ei gilydd i rannu eu profiadau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Catrin Rogers, sydd wedi mabwysiadu dau o blant, ei bod am iddyn nhw gael addysg Gymraeg

Fe wnaeth Catrin Rogers fabwysiadu ei phlant, sydd bellach yn bedair a saith oed, pan oedden nhw'n fabanod.

Penderfynodd wneud hynny ar ôl gweld ei ffrindiau'n mynd trwy'r broses.

Dywedodd Catrin: "Ro'n i'n gobeithio magu plentyn yn siarad Cymraeg ac i fynd trwy addysg Gymraeg, ac i fod yn rhan o'r gymuned yna.

"Oedd y gweithwyr cymdeithasol yn hollol groesawgar o hynny ac yn deall i'r dim."

Roedd Catrin yn rhan o grŵp oedd yn cynnig cefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg wrth fynd trwy'r broses mabwysiadau.

"Mae cael grŵp o bobl sy'n deall be 'da chi'n mynd drwyddo yn hollbwysig ac mae cael grŵp Cymraeg yn bwysicach fyth os taw hynny yw dy iaith gyntaf di.

"I mi, roedd o'n hynod, hynod bwysig. O'dd gen i bobl allai bwyso arno, os oedd gen i gwestiynau, oedd yn deall be oeddwn i'n mynd drwyddo, deall be' oedd y plant yn mynd trwyddo.

"Dwi ddim yn siŵr os gallwn i wedi mynd trwy'r holl broses o fabwysiadu heb gael cymorth cymuned o bobl Cymraeg o'n cwmpas ni."

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pobl sydd wedi mabwysiadu yn trafod eu profiadau nhw mewn sgwrs yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Roedd Catrin yn un o'r rhai oedd yn rhan o drafodaeth am fabwysiadu ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ddydd Sadwrn.

"Dwi'n credu mae 'na gamddealltdwriaeth o ran mabwysiadu.

"Dwi ddim yn dweud ei fod yn hawdd.

"Mae magu plant mewn unrhyw ffordd yn anodd, ond mae'r pleseredd a'r hapusrwydd dwi'n ei gael i weld plentyn sydd wedi ei geni efallai mewn amgylchiadau anffodus yn ffynnu yn yr ysgol, efo'u ffrindiau, yn dysgu reidio beic, i gael gwersi nofio ac yn y blaen, mae'n ddi-ddiwedd."

'Ewch amdani'

Suzanne Griffiths yw cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru.

"Fel gwasanaeth cyhoeddus, rydym yn ymrwymedig iawn i gefnogi'r iaith Gymraeg.

"Rydym yn cefnogi mabwysiadwyr Cymraeg yn barod, ond 'da ni eisiau cario 'mlaen i'w wneud yn glir bobl fod bod yn siaradwr Cymraeg ddim yn rhwystr o gwbl."

Mae Suzanne yn credu fod gan bobl "ddelwedd draddodiadol" pan maen nhw'n meddwl am fod yn gymwys i fabwysiadu, ac mae'n awyddus i chwalu camsyniadau.

"Mae pethau am oed, ethnigrwydd, iaith a jyst sut mae pobl yn byw fel teulu.

"Dydi'r pethau yna ddim yn wir, mae 'na ychydig iawn o rwystrau i ddod yn fabwysiadwr."

Mae Catrin yn annog eraill sydd yn ystyried mabwysiadu i gadw "meddwl agored."

"Byswn i eisiau cymaint o bobl gael yr un pleser, ac i'r plant cael yr un mynediad at ddiwylliant Cymreig sydd mor groesawgar.

"Jyst ewch amdani a dwi'n siŵr cewch chi eich synnu efo faint o hapusrwydd sydd o'ch blaenau chi."

Pynciau cysylltiedig