'Balch o gael fy magu mewn gofal'
- Cyhoeddwyd
Cafodd Sophia Warner o Gaerdydd ei magu gan deulu maeth. Cyn hynny, roedd hi wedi treulio cyfnodau mewn tua 20 o gartrefi maeth gwahanol cyn iddi droi'n wyth oed.
Bellach yn ddylunydd, mae hi'n siarad ar ran plant mewn gofal a rhai sydd wedi gadael y system faethu, ac wedi rhannu ei stori a'i dyluniadau mewn llyfr ryseitiau arbennig ar gyfer teuluoedd maeth.
A hithau'n bythefnos gofal maeth, dyma ei stori:
Dwi wedi bod mewn gofal maeth drwy fy mywyd, mewn a mas o gartrefi maeth.
O'n i mewn tua 20 o gartrefi cyn mod i’n wyth oed, ar osodiadau argyfwng neu seibiant. Ro’n i dan orchymyn gan y llys, ac wedyn ges i fy nghartref-am-byth yn naw oed.
’Naeth fy nhad genedigol farw pan o’n i’n bump oed. Doedd e ddim yn fy mywyd i a dwi ddim yn ei gofio, ond roedd e’n dreisgar iawn, roedd e’n alcoholig. Ti’n gweld hynny’n aml gyda phlant mewn gofal, fod ganddyn nhw’r un stori.
Fy mam enedigol oedd yn gofalu amdanon ni wedyn ac mae hi’n diodde’n wael gyda’i hiechyd meddwl. Doedd hi methu edrych ar ein holau ac wrth dyfu lan, welais i nifer o bethau ddylai plentyn byth ei weld.
Fi ydi’r ieuengaf o bedwar, a phan ’nes i ffeindio mas mod i’n mynd mewn i ofal, ges i ymateb gwahanol i fy chwiorydd a fy mrawd. Roedden nhw’n drist iawn, ond o’n i’n hapus.
O’n i’n teimlo tu mewn fod hyn am fy achub i. O’n i’n gwybod y byddwn i’n cael magwraeth dda, dillad cynnes amdanaf, cael bod yn blentyn ac nid yn ofalwr i fy mam enedigol. Wrth gwrs, ro’n i’n ei charu hi gymaint, ond o’n i methu gofalu amdani; o’n i angen bod yn blentyn, o’n i angen normalrwydd.
Dim ond 6% o bobl sydd wedi gadael gofal sydd yn mynd i’r brifysgol.
Sydd mor drist. A jyst camu dros y trothwy ydi hyn, heb sôn am raddio. Pan ti’n tyfu lan mewn gofal, efallai mai mynd i’r brifysgol yw’r peth diwethaf ti’n meddwl amdano. Y cwbl sydd ei angen ydi un person i’w gwthio nhw, dangos cariad iddyn nhw, dangos iddyn nhw eu bod yn ddeallus ac yn gallu llwyddo mewn unrhywbeth.
Roedd fy mhrofiadau o fewn y system ofal cyn wyth oed braidd yn anodd, a ’nes i fethu mas ar dipyn o ysgol.
Dwi’n teimlo fod yna dipyn o stereoteipio’n digwydd gyda phlant mewn gofal, eu bod nhw’n ddrwg neu ddim yn mwynhau’r ysgol. Ond o’n i i’r gwrthwyneb, ac o’n i’n awyddus iawn i ddysgu ac i brofi i eraill a fi fy hun y gallwn ni ei wneud e; fod plant mewn gofal yn gallu ei ’neud e. Dwi wastad wedi cael rhywbeth ynof fi i ngwthio i wneud yn dda.
Ro’n i wir eisiau mynd i’r brifysgol a graddio, ond ro’n i ofn cwrdd â’r bobl yn y fflat a dweud mod i wedi tyfu mewn gofal a chael y label yna. Roedd gen i gywilydd. Pan ti’n cyfarfod pobl newydd yn y brifysgol, y stereoteip ydi fod pawb wedi tyfu lan gyda mam a thad, mewn tŷ neis. Mae’n frawychus a ti’n teimlo ar y tu fas. Ti methu uniaethu gyda nhw a dydyn nhw methu uniaethu gyda ti.
Roedd rhaid ‘dod mas’ fel person oedd mewn gofal bob tro, ac mae hynny’n beth brawychus.
Mi ges i brofiadau da ar fy siwrne maethu, ond dydi e ddim yn hawdd.
Mae gen i berthynas agos iawn gyda fy nheulu maeth; dwi mor lwcus. Nhw ydy fy nheulu, dwi’n mynd ar wyliau gyda nhw, nhw wthiodd fi mewn i addysg. Mae hi wedi bod y fagwraeth sefydlog yna o’n i ei hangen fel plentyn, a dwi mor ddiolchgar am hynny, achos dydy pob plentyn mewn gofal ddim yn cael hynny.
Gall tyfu lan yn y system ofal fynd un ffordd neu’r llall. Galli di ddysgu o’r profiadau gwael neu ti’n eu hailgreu.
Dydi tyfu lan mewn gofal ddim yn hawdd; mae gen ti’r cefndir gwyllt ’na, ac rwyt ti’n ymladd brwydrau mewnol, cuddiedig bob dydd. Gallai fod y peth symlaf; ffrind yn dweud ei bod yn mynd i weld ei mam am ginio dydd Sul, ac mae’n brifo fy nghalon achos does gen i ddim hynny.
Mae pobl yn gallu dychmygu, ond dydyn nhw ddim cweit yn deall beth ’dyn ni wedi mynd drwyddo. Dwi’n berson cryf ond dwi’n brwydro bob dydd.
Mae hi wedi cymryd blynyddoedd i mi siarad mas.
Dwi’n 28 oed, a hyd yn oed pan es i i deithio'n 24 oed a chwrdd â chriw o ferched, roedden nhw'n siarad am ofal maeth, a ‘nes i dal ddim sôn am y peth.
Un o’r rhesymau o’n i ofn dweud mod i wedi gadael gofal oedd achos fod pobl yn stereoteipio. Dwi’n cofio dweud wrth gydweithwraig unwaith mod i’n mynd i ymweld â fy rhieni maeth, a hi’n dweud ‘oeddet ti mewn gofal? Ti ddim yn edrych felly’. Sut ydyn ni fod i edrych?!
Mae hi wedi bod yn siwrne ac yn broses raddol ond nawr dwi’n ei wisgo fel medal; 'Dwi wedi gadael gofal, ac edrychwch beth dwi’n ei wneud’.
Dwi'n creu darluniau am sut beth ydi bywyd yn y gwasanaeth gofal ac eisiau ysbrydoli drwy fy nghelf. Dwi’n teimlo fod gen i’r cyfrifoldeb ‘ma nawr, achos mod i’n gryf yn feddyliol.
Dwi eisiau rhannu fy stori a dangos i blant mewn gofal y gallan nhw wneud unrhywbeth, achos os ti wedi bod drwy hynny, galli di wneud unrhywbeth, achos mae’r gwaethaf yn barod wedi digwydd.
Os oes gen ti stori i’w dweud, gwna, achos gallai ysbrydoli eraill. Efallai mai’r geiriau yna ydi’r union rai mae’r person yna angen eu clywed i’w gwthio i lle maen nhw fod.
Roedd hi’n fraint i gael gwahoddiad i ddarlunio rhywbeth mor bwysig.
Dwi wastad wedi bod yn greadigol, dyna’r iaith o’n i’n ei siarad fel plentyn. Do’n i ddim yn gallu cyfleu fy nheimladau i oedolyn, achos do’n i ddim yn eu deall nhw fy hun, felly roedd celf yn ddihangfa o’r byd o nghwmpas. Do’n i ddim yn blentyn blin, ond roedd yna’n amlwg rhywbeth yn mynd ymlaen, achos bydden i’n tynnu lluniau blin. Ro’n i’n cyfleu fy nheimladau drwy fy nghelf.
Mae’n bwysig i blant mewn gofal allu darllen y llyfr ryseitiau a gwybod fod rhywun a dyfodd lan mewn gofal wedi ei wneud a theimlo 'os gall hi ei ’neud e, galla i ’neud e'.
Roedd hi’n fraint i rannu fy stori a rysáit. Rhai o fy atgofion pwysicaf yw o eistedd o amgylch y bwrdd bwyd gyda fy nheulu maeth, a theimlo’n normal, fel teulu – rhywbeth mae pob plentyn yn ei haeddu.
Dyna un o’r pethau symlaf, bwyta gyda dy deulu, ond dydi e ddim yn rhywbeth sydd gan bob plentyn. Mae mor syml, ond efallai mai dyna wir freuddwyd plentyn mewn gofal, sydd o bosib ddim yn gwybod o ble y daw eu pryd nesaf o fwyd.
Roedd tyfu lan yn y system ofal yn wael ar adegau, ond mae’n superpower.
Dwi’n gallu creu sgwrs gydag unrhyw un nawr, achos mod i wedi gorfod addasu i’r holl gartrefi gwahanol. ’Nes i dyfu lan yn dlawd, mewn carafán ac ar stad dai. Gan mod i wedi tyfu lan mewn gofal, dwi wedi cael gymaint o brofiadau bywyd gwahanol, sydd mor wahanol i bobl eraill.
Fydden i lle ydw i heb ofal maeth? Dwi ddim yn meddwl. Er fod gen i rywbeth tu mewn yn fy ngwthio i mlaen, fydden i’n codi llais dros bobl sy’n gadael gofal? Mae’n siŵr ddim, achos fydden i ddim wedi cael profi’r byd yna, a dim i fy ngwthio.
Mae bendant wedi fy ngwneud i’n berson cryfach.
Pan dwi’n gweld plant ar y stryd heddiw, dwi’n meddwl ‘dyna pa mor ifanc o’n i pan o’n i’n gorfod delio gyda sefyllfaoedd a'r holl lanast adref ddylai r’un plentyn orfod delio ‘da fe’.
Ac os 'nes i ddelio gyda hynny, alla i wir ddelio ag unrhywbeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2020
- Cyhoeddwyd22 Awst 2023
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2023