Ysbyty Gwynedd: Ail lanfa hofrennydd yn 'angenrheidiol'
- Cyhoeddwyd
Mae'n "angenrheidiol" bod dau hofrennydd yn medru glanio yn Ysbyty Gwynedd ar unrhyw un adeg, yn ôl Tîm Achub Mynydd Llanberis.
Fe ddaw'r alwad wrth i'r ysbyty ym Mangor gyflwyno cais i Gyngor Gwynedd am ganiatâd cynllunio i addasu'r safle sydd yno eisoes, ar gyfer dau o hofrenyddion.
Yn y cais cynllunio mae'r ysbyty'n nodi eu bod yn gwasanaethu 250,000 o bobl yng Ngwynedd, Môn a rhannau o Gonwy.
Ond yn ystod yr haf fe all y nifer hwnnw ddyblu wrth i ymwelwyr gael eu denu i Barc Cenedlaethol Eryri.
'Mor brysur yn yr ardal yma'
Y bwriad ydy cael gwared ar y pad glanio hofrennydd presennol, ac adeiladu dwy lanfa newydd i gefnogi'r ysbyty.
"Bydd y gwaith yn cynnwys ailraddio'r dirwedd feddal i gynnwys ffordd fynediad newydd, padiau glanio yn cynnwys yr holl ddraenio dŵr wyneb, marciau a rhwystrau glanio wedi'u goleuo, ffensys diogel newydd a llociau i gynnal yr hofrenyddion," meddai'r cais.
Byddai Elfyn Jones, un o aelodau mwyaf profiadol Tîm Achub Mynydd Llanberis, yn croesawu hynny.
"Mae mor brysur yn yr ardal yma wrth gwrs," dywedodd wrth raglen Newyddion S4C.
"Mae gynnon ni'r ambiwlans awyr, mae gynnon ni hofrennydd Gwylwyr y Glannau yng Nghaernarfon.
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd26 Awst 2022
"Maen nhw i gyd isio defnyddio Ysbyty Gwynedd, ac wrth gwrs ar hyn o bryd does 'na ond lle i un hofrennydd lanio ar y tro.
"Mae hynny'n golygu os oes claf mewn hofrennydd arall yn dod i mewn, mae'n rhaid i'r hofrennydd yna aros nes bod lle yn Ysbyty Gwynedd iddyn nhw lanio... sydd yn amlwg ddim yn dda i gael oediad cyn i'r person yna gael triniaeth yn yr ysbyty.
"Felly mae'r syniad i gael safle i ddau hofrennydd fedru glanio yn Ysbyty Gwynedd yn angenrheidiol y dyddia' yma."
Dydy o ddim yn anghyffredin i bobl weld - neu glywed - yr hofrenyddion yn dod i achub pobl oddi ar y mynyddoedd, a hynny weithiau fwy nag unwaith y dydd, yn ôl Siôn Brown sy'n gweithio yn siop awyr agored Crib Goch yn Llanberis.
"Yn yr ha', bron bob dydd, mae'n siŵr tair, bedair gwaith y diwrnod, 'dan ni'n clywed o'n mynd drosodd," meddai.
"Mwy nag unwaith [y dydd] yn hawdd - yr air ambulance neu'r mountain rescue fel arfer."
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gobeithio y bydd Cyngor Gwynedd yn ymateb cyn diwedd y mis i'r cais i addasu'r safle glanio.
Byddai hynny'n golygu y gallan nhw ddechrau ar y gwaith yn yr hydref, a'i gwblhau erbyn y Pasg.