Pryder am ddyfodol cyllid i wasanaethau ieuenctid
- Cyhoeddwyd
Comisiynydd Plant Cymru yw'r diweddaraf i godi pryderon am ddyfodol clybiau ieuenctid yng Nghymru.
Er i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bod dros £1m ar gael i helpu gwasanaethau i bobl ifanc, dydy clybiau sy'n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol ddim yn medru elwa o'r gronfa.
Yn ôl Rocio Cifuentes, mae angen sicrwydd fod yr arian sy'n dod gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yn cael ei fuddsoddi'n uniongyrchol i glybiau tebyg.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n darparu dros £13m o gyllid i waith ieuenctid, sydd "deirgwaith yn uwch nag yn 2018".
'Bod yn rhan o rywbeth'
Bydd 18 o sefydliadau ar draws Cymru, gan gynnwys Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, MIND Casnewydd a Rhyl Youth, yn derbyn cyllid gan gronfa ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.
Ond gan na fydd clybiau a gwasanaethau ieuenctid sy'n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol yn derbyn rhagor o gyllid, mae'r Comisiynydd yn dweud bod angen sicrwydd ariannol i glybiau tebyg sy'n profi cynnydd oherwydd costau byw.
Ym Mhwllheli mae'r clwb ieuenctid lleol yn cynnig gwasanaethau deirgwaith yr wythnos ar ôl ysgol.
Mae'n rhywle i bobl ifanc ddod i gymdeithasu ac ymlacio ac yn ôl Beca, sy'n dod i'r clwb yn wythnosol, mae'n fan diogel.
"Os fyddai gynno ni ddim hynna, fasa pobl just yn hongian allan rownd y bus stops," meddai wrth Newyddion S4C.
Mae Daisy hefyd yn un sy'n elwa o'r gweithgareddau, ac yn dweud fod y clwb yn rhywle lle mae modd i bobl ifanc fod yn "nhw eu hunain".
"Mae'n rwla i fynd bob tro, mae o'r un amser bob wythnos a 'dan ni'n teimlo bod ni'n rhan o rywbeth," meddai.
"Mae'n rhywle i fynd â rhywun i siarad efo sydd ddim byd i 'neud 'efo'r ysgol."
Galw ar gynnydd
Mae'r clwb ieuenctid wedi bod yn gweithio gyda'r clwb pêl droed lleol hefyd, ac wedi creu murlun i gynrychioli'r ardal.
Ond ers cyfnod y pandemig mae gwasanaethau o'r fath wedi profi cynnydd sylweddol yn y galw amdanynt.
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023
Ac ers i heriau ariannol i deuluoedd ddod yn amlycach, mae gwaith y clybiau wedi newid ac yn bwysicach nag erioed.
"O ran yr ochr ariannol, 'dan ni wedi addasu ein ffordd o weithio," medd Steffan Williams, Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Gwynedd.
"Mae'n ffactor o ran darparu gwasanaethau.
"O ran ffocws ein gwaith ni rŵan, mae lot o bobl ifanc yn dod i'n gwasanaethau heb gael bwyd.
"Felly 'dan ni'n bwydo'r bobl ifanc gyntaf ac yn edrych ar ddarparu gwasanaethau ar ben hynna.
"Yn sicr mae'r pwysau sydd ar bobl ifanc... nhw sy'n teimlo'r pwysau mwyaf yn ein cymdeithas."
'Angen diogelu cyllid'
Yn ôl y Cynghorydd Elin Hywel o Gyngor Gwynedd, mae'r sefyllfa o ran cyllid i wasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol yn heriol.
"Mae bob un gwasanaeth ar draws ein cymdeithas ni wedi gorfod wynebu toriadau eithafol," meddai.
"Ac wedyn cynnydd mewn inflation sydd wedi achosi mwy o drafferthion."
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd 18 sefydliad annibynnol yn derbyn rhan o'r gronfa gwerth £1m, i ymdopi â'r cynnydd yn y galw am wasanaethau a chostau uwch oherwydd chwyddiant.
Ond mewn datganiad dywedodd Comisiynydd Plant Cymru fod angen sicrhau fod cyllid sy'n dod i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru at ddiben clybiau ieuenctid yn cael ei wario yn y meysydd cywir.
"Mae gwaith gyda phobl ifanc yn wasanaeth allweddol," meddai Rocio Cifuentes.
"Ar hyn o bryd does dim sicrwydd fod y pres sy'n cael ei bennu ar gyfer gwaith ieuenctid gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yn cael ei wario ar hynny.
"Dwi'n meddwl fod angen i gyllid ar gyfer gwaith ieuenctid gael ei ddiogelu ar gyfer y gwaith yna, a bod pob ceiniog yn cyfri i wella bywydau pobl ifanc."
Wrth ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n darparu dros £13m o gyllid i waith ieuenctid, sydd "deirgwaith yn uwch na'r ffigwr cymharol yn 2018".
“Mae adolygiad annibynnol o gyllid ar gyfer y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru yn mynd rhagddo," meddai llefarydd.
"Bydd hwn yn ceisio nodi’r gwahanol ffynonellau cyllid sy’n cefnogi’r sector, a nodi camau y gellid eu cymryd i gryfhau’r ffordd rydyn ni’n ariannu gwaith ieuenctid yn y tymor hir."