'Llawer o wersi wedi'u dysgu' ers trywanu Dyffryn Aman

Ysgol Dyffryn Aman
  • Cyhoeddwyd

Fe fydd uwchgynhadledd gydag arweinwyr ysgolion yn ddiweddarach eleni, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, ar ôl i ddwy athrawes a disgybl gael eu trywanu mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin fis diwethaf.

Wrth annerch Panel Trosedd a Heddlu Dyfed-Powys, dywedodd Dafydd Llywelyn bod yna "lawer iawn o wersi" wedi eu dysgu o'r digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ar sut y gwnaeth yr ysgol a'r gwasanaethau brys ymateb.

Mae merch 13 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio ac o gael gwrthrych â llafn yn ei meddiant.

Dywedodd Mr Llywelyn y bydd yn cwrdd â phrifathrawon ar ddechrau mis Mehefin, gyda'r bwriad o gynnal uwchgynhadledd yn ddiweddarach eleni gydag arweinwyr ysgolion.

Mae'n bwriadu cydweithio gydag ysgolion i sicrhau presenoldeb yr heddlu, pan mae hynny'n briodol.

Dywed bod angen sicrhau cydbwysedd er mwyn sicrhau nad yw pobl ifanc yn teimlo eu bod nhw'n droseddwyr.

Fe ddywedodd y byddai Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i gynnal rhaglen mewn ysgolion yn y dyfodol.