Dyn wedi marw ar yr A55 mewn tacsi wedi'i ddwyn - cwest

A55Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar gyrion Dwygyfylchi ger Conwy

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed y bu farw dyn 22 oed ar ôl bod mewn gwrthdrawiad ar yr A55 mewn tacsi yr oedd wedi'i ddwyn.

Bu farw Kian Collier o Hen Golwyn o nifer o anafiadau ar 28 Hydref y llynedd yn dilyn y gwrthdrawiad ar gyrion Dwygyfylchi ger Conwy.

Dywedodd y crwner Kate Robertson fod Kian wedi bod yn deithiwr mewn tacsi Hyundai gwyn yn oriau mân 28 Hydref, cyn iddo gymryd y car heb ganiatâd y gyrrwr.

Cafodd ei ddisgrifio gan ei deulu fel person "doniol" a "swil" oedd yn "rhagori ym mhob camp".

Tacsi wedi'i ddwyn

Fe wnaeth y cwmni tacsi Premier Group o Fangor, sy'n berchen ar y car, gadarnhau fod yr Hyundai wedi'i ddwyn ganddyn nhw, ond nad oedd yr un o yrwyr y cwmni'n rhan o'r digwyddiad.

Dywedodd Gordon Saynor, ymchwilydd fforensig gwrthdrawiadau gyda Heddlu Gogledd Cymru, fod camera traffig wedi ffilmio’r car yn mynd i gyfeiriad Conwy ar hyd yr A55 tua’r dwyrain yn Nwygyfylchi pan ddiflannodd o’r golwg y tu ôl i fryn bychan.

Clywodd y cwest yn llys crwner Rhuthun nad oedd unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad.

Dywedodd Mr Saynor: "Ar ôl i'r olwyn flaen daro ymyl y palmant, fe aeth y car ar draws y ffordd cyn taro rheiliau metel a wal gerrig."

'Ei fywyd cyfan o'i flaen'

Ychwanegodd Mr Saynor fod y car yn teithio ar gyflymder "llawer uwch na'r terfyn 30 mya".

Dywedodd nad oedd Kian yn gwisgo gwregys diogelwch ar y pryd ac fe ddangosodd archwiliad post mortem fod 224mg y litr o alcohol yn ei waed - y terfyn cyfreithlon ar gyfer gyrru yw 80mg y litr.

Dywedodd Kate Robertson nad oedd tystiolaeth i ddweud beth achosodd i Kian golli rheolaeth ar y car.

Daeth i'r casgliad ei fod wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd.

Dywedodd y crwner: "Roedd ganddo ei fywyd cyfan o'i flaen. Mae colli rhywun mewn amgylchiadau o'r fath yn hynod drasig."

Pynciau cysylltiedig