'Rhaid derbyn bod y system dai bresennol wedi methu'

Disgrifiad,

'Rhaid derbyn bod y system dai wedi methu', meddai Walis George

  • Cyhoeddwyd

Problemau ail gartrefi a'r cynnydd mewn rhenti fu'n cael sylw mewn cynhadledd arbennig ym Mae Caerdydd ddydd Iau.

Cymdeithas yr Iaith oedd wedi trefnu cynhadledd 'Yr Hawl i Dai Digonol - Beth sy’n Bosibl yng Nghymru', a gafodd ei chynnal yn adeilad y Pierhead.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Papur Gwyn ar yr hawl i dai digonol a rhenti teg cyn hir.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y llywodraeth i gyhoeddi papur gwyn ar frys, a sicrhau bod deddfwriaeth gynhwysfawr yn ei ddilyn cyn diwedd y tymor seneddol.

Maen nhw eisiau i'r llywodraeth "gywiro’r farchnad agored er mwyn sefydlu mewn cyfraith mai cartref yw prif bwrpas tai".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl adroddiad gan Gyngor Gwynedd, mae 65% o drigolion y sir wedi eu prisio allan o'r farchnad dai

Un fu'n siarad yn y gynhadledd oedd Walis George, sydd â phrofiad helaeth yn y sector dai a bellach yn aelod o grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Iau dywedodd: "Mae'n rhaid i ni dderbyn i gychwyn bod y system dai bresennol wedi methu rhan helaeth o bobl Cymru, ac yn cael effaith andwyol ar barhad llawer o'n cymunedau Cymraeg ni."

Dywedodd mai nod y gynhadledd ydy dylanwadu ar bapur gwyn y llywodraeth a "dechrau dychmygu sut allai system dai amgen fod yng Nghymru - system dai decach ac un fwy cynhwysol".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gynhadledd ei chynnal yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ddydd Iau

Beth yw cynigion Cymdeithas?

Dywedodd fod Cymdeithas yr Iaith "yn meddwl bod angen ailedrych ar nifer o agweddau o'r broses gynllunio".

"Mae'n amlwg bod llawer o gymunedau Cymraeg wedi colli hyder yn y broses," meddai.

"'Da ni hefyd angen rheolaeth ar rentu, yn arbennig yn y sector preifat.

"Ond fwy na dim, 'da ni angen datgloi'r potensial sydd yna i fentrau cymunedol wneud llawer mwy, a datblygu i fod yn ddarparwyr cartrefi fforddiadwy lleol, ochr yn ochr â'r awdurdodau lleol a chymdeithasau tai."

Ychwanegodd Mr George bod angen "pwyso'r farchnad i gyfeiriad marchnad gymdeithasol - nid marchnad agored lle mai grym y bunt sy'n cyfri'".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y papur gwyn yn "darparu cynigion ar y potensial i sefydlu system o renti teg, a gwneud tai yn fforddiadwy i'r rheiny ar incwm lleol".

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elain Gwynedd eisiau symud nôl i Ynys Môn, ond mae hi'n poeni am allu prynu tŷ ar yr ynys

Mae'r sefyllfa dai yn bryder mawr i bobl ifanc a myfyrwyr sy'n ystyried eu camau nesaf ar ôl gadael y brifysgol, yn ôl Elain Gwynedd, Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Dwi 'di bod yn rhentu yma yn Aberystwyth fel myfyrwraig ac mae'r prisiau wedi cynyddu yn flynyddol, ac fel rhywun sydd rŵan ella yn edrych ar symud a phrynu tŷ, mae o really yn pryderu rywun bod y prisiau mor uchel," meddai.

"Ma'n gwneud i ni boeni a ydyn ni am allu mynd yn ôl i o le 'da ni'n dod... Dwi'n dod o Ynys Môn a ma' prisiau tai yn ofnadwy o uchel yna.

"Yn y dyfodol dwi'n gobeithio mynd nôl... ond oherwydd y prisiau, 'di rywun 'im yn gwybod os fydd modd gwneud hynny... Ella bo' fi'm eisiau symud adref at fy rhieni, ond ella fydd gen i ddim dewis yn y pendraw."

'Mae'n rhaid gweithredu'

Ychwanegodd nad hi ydy'r unig un o'i chriw ffrindiau sydd yn ei gweld hi'n anodd gallu symud nôl i'w hardaloedd brodorol.

"Mae angen gweithredu. Os 'dy nhw [Llywodraeth Cymru] eisiau i bobl ifanc symud nôl i'w hardal leol ma' raid iddyn nhw weithredu, ma' rhaid iddyn nhw sicrhau bod tai ar gael."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Efa Angharad Fychan yn teimlo bod angen gwneud mwy i gefnogi pobl ifanc

Mae Efa Angharad Fychan yn ei hail flwyddyn yn astudio yn Aberystwyth, ac mae hi'n galw am weld mwy o gefnogaeth a chyngor i bobl ifanc gyda materion ariannol.

"Y flwyddyn nesa ma' pris rhent ni yn codi £42 y mis yr un, ond dyw'r llywodraeth heb 'weud dim byd am godi benthyciad myfyrwyr ni o gwbl," meddai.

"Felly ni ddim yn gwybod be sydd yn mynd i ddigwydd blwyddyn nesa o ran arian i dalu am fwyd, arian i gymdeithasu.

"Mae e'n pryderu ni gyd, a ni'n trafod ar hyn o bryd beth yw'r peth gorau i ni ei wneud.

"Yn bendant alle mwy cael ei wneud, mae angen mwy o help ar bobl ifanc. Ni ynghanol argyfwng costau byw a s'dim lot o bethau'n glir iawn o ran be allwn ni ei wneud i wella rheoli arian ni.

"Mae'n amser newydd i ni, pobl yn gadael cartref, yn symud mas am y tro cyntaf a dwi'n credu galle lot mwy cael ei wneud i stopo pobl ifanc rhag pryderu gymaint am arian.

"Ma' costau preswylfeydd a chostau rhent yn bendant yn effeithio ar benderfyniad pobl i ddod i'r brifysgol neu mynd syth mas i weitho."

Mae Ms Fychan hefyd yn poeni am y cyfnod wedi iddi orffen astudio: "I fi'n aros yn Aberystwyth neu'n symud gartref i Gwm Gwendraeth?

"Ond s'dim cartrefi yng Nghwm Gwendraeth sydd digon fforddiadwy i fi allu prynu neu rentu... wedyn mae hynny'n gadel yr opsiwn o fyw gartref, ond fi eisiau annibyniaeth fi ar ôl gadael y brifysgol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Catrin O'Neill, o Aberdyfi, bod angen mynd i'r afael â'r broblem o dai gwag hefyd

Clywodd y gynhadledd gan Catrin O'Neill, gafodd ei geni a'i magu yn Aberdyfi yng Ngwynedd.

"Y broblem ydy bod dim digon o dai mae pobl actually yn gallu fforddio prynu yn y pentre, a'r ail broblem enfawr ydy fod tua 300 o lety gwyliau yn y pentre, a dim un tŷ i rentu tymor hir - dim un."

Mae hi'n dweud bod angen gwneud mwy i helpu'r gymuned.

"'Da ni angen mwy o gefnogaeth fel prosiectau cymunedol i alluogi ni i brynu tai yn ein cymunedau ein hunain, ac os oes 'na dir adeiladu hefyd," meddai.

"Ond yn y tymor byr mae 'na dai yna - mae 'na dai gwag yna. 'Da ni'n gwybod amdanyn nhw a 'da ni angen y pres i brynu nhw, adnewyddu nhw a rhoi teuluoedd yn y tai 'ma."

Gwersi i'w dysgu o Ewrop?

Un o brif amcanion y gynhadledd oedd clywed profiadau o wledydd eraill.

Ymhlith y rhai fu'n annerch, roedd Dara Turnbull, sy'n gydlynydd ymchwil gyda 'Housing Europe', corff sy'n cynrychioli sefydliadau ym maes tai cyhoeddus, cydweithredol a chymdeithasol.

Fe fu'n trafod cynlluniau sydd eisoes ar waith mewn gwledydd fel Awstria, Ffrainc a Sgandinafia.

"Yr hyn ry'n ni'n ei bwysleisio yw does dim un ateb sy'n gweithio ymhobman. Mae gan bob gwlad eu heriau unigryw o ran tai, ond mae 'na bolisïau da allan yno.

"Yng nghyd-destun Cymru dwi'n meddwl y gallech chi fod yn edrych ar nifer o bolisïau a'u haddasu i'r sefyllfa Gymreig - o fynd i'r afael â chartrefi gwag, dod o hyd i ffynonellau ychwanegol o gyllid i adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy, a delio yn well gyda rheolaeth dir."

Mae'n dweud nad yw'r sefyllfa dai yng Nghymru yn unigryw, gan fod arolwg diweddara Housing Europe - sy'n digwydd bob dwy flynedd - yn dangos bod 'na brinder tai, a galw mawr am gartrefi ar hyd a lled Ewrop.

Pynciau cysylltiedig