Pen Llŷn: 'Da ni’n cael ein mygu gan ail gartrefi'

  • Cyhoeddwyd
Arwydd ym Mhen Llŷn
Disgrifiad o’r llun,

Dengys adroddiad gan Gyngor Gwynedd fod 65% o drigolion y sir wedi eu prisio allan o'r farchnad dai

Mae cymuned ym Mhen Llŷn yn dweud eu bod nhw'n cael eu "mygu gan sgil effeithiau ail gartrefi".

Yn ôl ymchwil diweddar, all 91% o bobl pentref Botwnnog ym Mhen Llŷn ddim fforddio tŷ yn lleol.

Wrth i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben ar bolisi arfaethedig gan Gyngor Gwynedd i'w gwneud hi'n fwy anodd i droi tŷ yn ail gartref, mae criw o bobl ifanc yr ardal yn dweud eu bod yn "anobeithio" wrth feddwl am fyw yn yr ardal yn y dyfodol.

Yn ôl Cyngor Gwynedd byddai cyflwyno Erthygl 4 yn "arf" arall i helpu rheoli'r farchnad dai a sicrhau mwy o dai i bobl ifanc.

Bwriad Erthygl 4 ydi gorfodi unrhyw un sydd am drosi cartref domestig yn ail gartref i dderbyn sêl bendith gan bwyllgor cynllunio'r awdurdod lleol.

Yn ôl ymgyrchwyr sydd o blaid y mesur byddai'n fodd o reoli'r farchnad ac atal mwy o ail gartrefi.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Map yn dangos canran yr ail gartrefi mewn gwahanol ardaloedd o Wynedd

Ond mae pryderon ymysg y rheiny sy'n gwrthwynebu y gallai'r cynllun ostwng gwerth cartrefi hyd at 5% - pryder sydd wedi ei grybwyll fel sgil effaith posib yn ôl adroddiad Cyngor Gwynedd.

Ond gyda ffigyrau swyddogol yn dangos fod 7,559 o lety gwyliau ac ail gartrefi ar draws Gwynedd yn 2022 ,mae'r teimlad o "anobaith" yn llethu'r ifanc.

'Dwi'n gweld o'n warthus'

Draw yn Ysgol Botwnnog mae gan griw o ddisgyblion Blwyddyn 11 lygaid barcud ar y datblygiadau ac yn edrych tua'r dyfodol.

"Does 'na'm tai newydd yn cael eu hadeiladu felly does 'na'm ffordd i bobl sy'n cael eu geni yn yr ardal, sydd eisiau aros yma, i wneud hynny," meddai Owain, sy'n 15, wrth raglen Newyddion S4C.

Yn ôl Nanw, 15, mae 'na angen dybryd i gyflwyno polisi Erthygl 4, gan ddisgrifio'r rheiny sy'n ei wrthwynebu fel "hunanol".

"Dwi'n gweld o'n warthus," meddai.

"Dwi'm yn meddwl fod pobl yn gwneud pethau i newid sut mae hi. Dwi'n gweld o'n gwaethygu bob blwyddyn a dwi'm yn gweld fi a fy ffrindiau yn gallu byw yma yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae (chwith i'r dde) Bob, Owain, Nanw a Mei o Ysgol Botwnnog yn cadw llygaid barcud ar y datblygiadau

Yn ôl Mei, mae'r newid rhwng tymor yr haf a'r gaeaf yn amlwg iawn.

"Mae 'na lot o dai haf - gormod. Mae 'na newid mawr pan mae hi'n dod i'r gaeaf - jest neb yma."

Yn ôl Bob, mae angen cydbwysedd iach rhwng twristiaeth a'r hawl i fyw yn lleol.

"Dwi'm isio stopio twristiaeth yn gyfan gwbl oherwydd 'da ni'n rhedeg maes carafanau," meddai.

"Ma'n nheulu yn dibynnu arno i raddau, ond ella 'sa'r cyngor yn gallu adeiladu tai fforddiadwy lle dim ond pobl Cymraeg sy'n gallu byw ynddyn nhw a'u prynu."

'Dim pobl ifanc yn symud mewn'

Wrth ystyried sgil effaith Erthygl 4, dengys adroddiad gan Gyngor Gwynedd fod 65% o'r sir wedi eu prisio allan o'r farchnad, a bod hynny yn fwy fyth mewn ardaloedd penodol.

Yn Aberdaron mae'r ffigwr yn 96% ac ym Motwnnog mae'n 91%.

Disgrifiad o’r llun,

Gwenan Griffiths: "Da ni'n cael ein mygu gan dai haf, dwi'n teimlo"

Mae'n bryder i deuluoedd fel un Gwenan Griffiths, sydd â phump o blant ac yn poeni am y dyfodol.

"Does 'na'm pobl ifanc yn symud i mewn, yn prynu tai. Maen nhw'n cael eu prisio allan o'r farchnad yn llwyr," meddai.

"'Da ni'n cael ein mygu gan dai haf, dwi'n teimlo."

Mae hi'n dweud ei bod yn "poeni'n ddirfawr" am y sefyllfa, gan ddweud mai "realiti'r sefyllfa ydi bod yn rhaid cymryd Erthygl 4 i gael y balans".

'Sut fath o dai'

Gyda dadleuon cryf ar naill ochr y ddadl, mae cynghorydd ardal Botwnnog am weld mwy o bwyslais ar drafod codi mwy o dai.

Gyda chynllun ar y gweill i godi tai rhent ym mhentref Botwnnog, mae'n dweud ei fod am weld sgwrs ehangach am y math o dai sydd eu hangen i gadw pobl ifanc yn lleol.

"Y cwestiwn ydi, sut fath o dai 'da ni angen?

"Da ni'n gwybod bydd 'na gais mewn yn fuan yn y pentref am 18 o dai social housing. Y cwestiwn ydi, ai dyma 'da ni angen?"

Yn ôl y Cynghorydd Williams, mi fyddai'r rhain oll yn dai rhent, ac mae'n dweud bod nifer yn ei ward yn dweud mai tai i'w prynu fyddai'n eu cadw yn lleol.

Disgrifiad o’r llun,

"Y cwestiwn ydi, sut fath o dai 'da ni angen?" meddai'r Cynghorydd Gareth Williams

Pe bai Erthygl 4 yn cael ei wireddu, byddai'n bolisi unigryw, sydd ddim yn cael ei weithredu unrhyw le arall ym Mhrydain at ddibenion cyfyngu nifer yr ail gartrefi.

Ni fyddai'r polisi yn effeithio ar bob un rhan o Wynedd gan fod gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hawliau cynllunio penodol sy'n annibynnol.

Ers Hydref 2022 mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o bwerau i gynghorau Cymru fynd i'r afael ag ail gartrefi, ac ar sail hynny y daw cynllun Erthygl 4.

Bydd y cyngor rŵan yn ystyried yr ymateb wrth i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben.

Pynciau cysylltiedig