Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Llanelli

Heol Bigyn, LlanelliFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff menyw ei ddarganfod mewn tŷ yn Heol Bigyn, Llanelli ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 49 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth wedi i gorff menyw gael ei ddarganfod mewn tŷ yn Sir Gâr.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ yn Heol Bigyn, Llanelli ddydd Gwener.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r achos.

Ychwanegodd llefarydd y bydd yna bresenoldeb heddlu fwy amlwg yn yr ardal yn y dyddiau nesaf wrth i'r ymchwiliad i'r digwyddiad barhau.

Pynciau cysylltiedig