Trafferthion 'ofnadwy' ar ffyrdd Ceredigion wedi eira a rhew

Ffordd yr A486 rhwng Synod Inn a Ffostrasol fore Mercher
Disgrifiad o’r llun,

Ffordd yr A486 rhwng Synod Inn a Ffostrasol fore Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae teithwyr yng Ngheredigion wedi sôn am drafferthion "ofnadwy" ar y ffyrdd yn ne'r sir yn sgil y tywydd gwael.

Honnodd rhai nad oedd y ffyrdd wedi eu graeanu yn ddigonol, gyda cherbydau'n llithro ar y rhew.

Dywedodd un wrth Cymru Fyw ei bod yn sownd am ddwy awr yn ardal Llanarth.

Wrth ymateb dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, aelod o’r cabinet sy'n gyfrifol am y priffyrdd, bod ffyrdd wedi cael eu graeanu am 01:00 fore Mercher ond yna bod "cesair, eira a rhew wedi dod i greu trafferthion".

'Dim arwydd' o raeanu

Roedd Gwenda James yn teithio o Aberystwyth i Gaerdydd fore Mercher ac wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd ei bod "wedi cael siwrne ofnadwy".

"Fe ddechreuais i am 08:45 a dwi dal ddim wedi cyrraedd," meddai am 14:30.

"Doedd pethau ddim yn dda i'r de o Aberaeron ac yna ro'n i'n styc yn Llanarth am ddwy awr - methu symud.

"Roedd y rhiw fach yn Llandysul yn ofnadwy ac yna rhwng Llandysul a Phencader bu'n rhaid i ni droi nôl ond roedd hi'n ddychrynllyd yn Llanfihangel-ar-arth - y ceir yn mynd i bobman.

"Yn sicr doedd yna ddim arwyddion bod y gritter wedi bod yn Llanarth."

Yr eira yn Llandysul fore Mercher
Disgrifiad o’r llun,

Yr eira yn Llandysul fore Mercher

Yn ystod y bore fe wnaeth y cyngor nodi ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod yn parhau i raeanu'r ffyrdd a'u bod wedi gwneud hynny dros nos, ond mewn ymateb fe honnodd rhai nad oedd ffyrdd wedi'u graeanu o gwbl mewn mannau.

Dywedodd un bod ei merch a'i phlant hithau wedi bod yn sownd yn Llanwennog am deirawr. Fe basiodd lori raeanu, meddai, ond doedd dim graean ar ôl a doedd yna neb i helpu.

Mae yna adroddiadau hefyd am ffyrdd peryglus hefyd yn Rhydowen a Synod Inn.

Nododd un arall bod ffordd yr A487 i'r de o Aberaeron yn hynod o beryglus ac nad oedd arwyddion o raean ar y ffordd.

Llandysul
Disgrifiad o’r llun,

Dywed gyrrwyr ei bod hi'n amhosib gyrru ar sawl ffordd yn ne Ceredigion fore Mercher - dyma fel oedd hi yn Llandysul

'Ofnadwy o beryglus'

Dywedodd teithiwr arall sydd wedi siarad â Cymru Fyw ond oedd eisiau aros yn ddienw, bod ei siwrne yn go debyg.

"Fe gymerodd hi deirawr i ni deithio o Bow Street i Lanfihangel-ar-arth gyda cheir a loris yn methu mynd lan rhiwiau," meddai'r gyrrwr.

"Roedd y ffordd i'r de o Aberaeron yn really peryglus wedi iddi fwrw yn go drwm rhwng 09:00 a 10:00 mae'n debyg ac yna roedd yna ryw fodfedd o iâ - ac yna yn Llanarth doedd yna'r un car yn symud ac roedd un car wedi cael cnoc.

"Bu'n rhaid i ni fynd drwy Geinewydd ond roedd hi'n sefyllfa ofnadwy o beryglus gan nad oedd y ffyrdd wedi'u graeanu a doedd yna chwaith ddim gwybodaeth.

"Dwi ddim yn cofio y fath dywydd yn yr ardal yma."

Llenwi lori efo graean
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion "naw lori ar y linell flaen a phump wrth gefn", medd y Cynghorydd Keith Henson

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson o Gyngor Ceredigion bod gan y sir naw lori sy'n graeanu a phump arall wrth gefn, a bod asesiad manwl yn cael ei wneud i ba ffyrdd sydd angen eu graeanu.

"Mae'r prif ffyrdd yn cael eu graeanu a ffyrdd llai os oes yna gapasiti. Bu gweithwyr yn graeanu tan 01:00 bore 'ma ond wrth gwrs mi ddo'th eira, cesair a rhew sy'n gwneud amodau gyrru yn anodd iawn" ac ychwanegodd nad oedd y graean yn gweithio cystal yn y fath dywydd.

"Ry'n ni'n sicrhau bod yr hewlydd mor ddiogel ag y gallan nhw fod ond roedd pawb wedi cael sioc o weld y tywydd bore 'ma.

"Mae'n gweithwyr wedi bod yn graeanu am 13:00 prynhawn 'ma ac eto am 16:00 ac fe fyddan nhw mas eto heno - ni'n sicrhau bod hewlydd priodol yn cael eu gwneud gyntaf.

"Rwy'n ymwybodol bod nifer wedi cael trafferthion bore 'ma - fethais i fynd â'r mab i'r coleg a bu'n rhaid i fi droi nôl.

"Ry'n ni fel cyngor yn ddiolchgar i sawl un - ffermwyr yn arbennig - a ddaeth i helpu bore 'ma a'r cyngor i bobl yw i ond gwneud y siwrne os yw hi'n angenrheidiol. Cadwch yn ddiogel."

Yn gynharach nododd Cyngor Ceredigion ar y cyfryngau cymdeithasol bod ysgolion cynradd Llanarth, Dihewyd, Ciliau Parc a Thalgarreg ar gau ddydd Mercher yn sgil y tywydd gwael.

Pynciau cysylltiedig