Bron i 50 o ysgolion ar gau a rhybudd newydd am rew

Sir Ddinbych yn wyn fore Mercher
- Cyhoeddwyd
Am yr ail ddiwrnod yn olynol mae nifer o ysgolion ar draws Cymru wedi methu agor ac mae trafferthion ar y ffyrdd ar ôl i eira ddisgyn dros nos mewn mannau.
Bu'n rhaid i bron i 50 o ysgolion aros ar gau ym Mhowys, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam ddydd Mawrth wrth i'r tywydd gaeafol barhau.
Daeth rhybudd melyn am eira a rhew fu mewn grym dros nos yn y rhan fwyaf o Gymru i ben fore Mercher, ond bydd un wahanol yn dod i rym yn chwe sir y gogledd a Phowys am 16:00 ddydd Mercher, gan bara tan 10:00 fore Iau.
Gwiriwch yr ysgolion ar gau yn eich ardal chi:
Roedd dros 160 o ysgolion ynghau ar draws Cymru ddydd Mawrth - y mwyafrif yn y gogledd-ddwyrain - ond roedd rhai ynghau hefyd mor bell i'r de â Blaenau Gwent a Thorfaen.

Betws Gwerful Goch fore Mercher

Yr olygfa yn Llangollen fore Mercher
Mae'r tywydd garw wedi achosi amodau teithio gwael i rannau o Gymru.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn cynghori pobl i fod yn wyliadwrus ac i gynllunio eu taith o flaen llaw.
Bu'n rhaid cau'r A525 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Bwlchgwyn a Wrecsam wedi i lori fynd yn sownd mewn eira.
Roedd bysiau'n rhedeg rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn hytrach na threnau oherwydd y tywydd.

Fe wnaeth y tywydd rhewllyd achosi trafferthion i yrwyr yn ystod y dydd ar yr A486 yng Ngheredigion rhwng Synod Inn a Ffostrasol
Glaw mawr i ddilyn yr eira
Wrth edrych ymlaen at y penwythnos mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar gyfer mwyafrif llethol Cymru.
Fe fydd y rhybudd, rhwng 06:00 ddydd Sadwrn tan 06:00 fore Sul, yn berthnasol i bob sir, oni bai am Ynys Môn a Sir Y Fflint.

O'r map sydd wedi ei gyhoeddi, mae'n ymddangos y bydd Pen Llŷn a'r ardaloedd sydd agosaf at arfordir y gogledd yn osgoi'r amodau gwaethaf
Mae disgwyl 50-75mm o law yn gyffredinol a 100-125mm o law ar dir uchel, yn arbennig yn y de, ble mae hyd at 150mm yn bosib mewn rhai mannau wrth i fand o law symud yn araf.
Gyda'r arbenigwyr yn darogan gwyntoedd cryf hefyd o'r de, fe allai'r amodau achosi llifogydd mewn mannau - eto, yn arbennig yn y de - a thrafferthion i deithwyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024