Llong ar Afon Menai yn gartref i hogiau drwg Oes Fictoria

HMS Clio wedi'i angori yn Afon Menai
- Cyhoeddwyd
'Hogia'r Clio' gan Manon Eames yw drama newydd BBC Radio Cymru sy'n adrodd hanes y llong ar lan Afon Menai oedd yn gartref i gannoedd o fechgyn ifanc rhwng 1877-1920.
Roedd y llong yn un o ysgolion hyfforddi diwydiannol - rhywbeth cyffredin yn Oes Fictoria. Eu bwriad oedd gwella bywydau bechgyn o dan bedair ar ddeg oed a oedd yn ddigartref, yn cardota, ond nad oedd wedi cyflawni unrhyw droseddau ddifrifol.
Y syniad oedd symud y bechgyn yn bell o ddylanwadau drwg, rhoi addysg iddyn nhw, a dysgu crefft iddynt hefyd.
Mae Manon Eames wedi ymchwilio'n drylwyr i'r hanes cyn mynd ati i sgwennu drama am fywyd bachgen o'r enw Dafydd sy'n cael ei hel i'r Clio ar ôl dwyn doli i'w chwaer a basged i'r fam.
Mae'r ddrama'n adlewyrchu sut oedd bywyd ar y llong i fachgen lleol, a'i ofn o fod yng nghanol criw o fechgyn dinesig, Seisnig, profiadol.
Amodau caled
Roedd y Clio yn un o nifer o longau hyfforddi tebyg ar hyd arfordir Prydain yn ystod hanner olaf y 19eg ganrif.
Nod y Clio oedd rhoi'r sgiliau angenrheidiol i fechgyn o gefndir tlotach ar gyfer bywyd ar y môr - ac fe'i sefydlwyd, fel y llongau eraill, nid yn unig yn sgil y dymuniad i ddarparu addysg ar gyfer bechgyn tramgwyddus, ond hefyd mewn ymateb i'r nifer isel o ddynion a oedd yn ymuno â'r Llynges Frenhinol a Masnachol.
"Y syniad oedd i gael y bechgyn 'ma i dderbyn ychydig o addysg cyn iddyn nhw gael eu harwain ar gyfeiliorn," meddai Manon.
"Ond roedd yr amodau ar y llong yn eithriadol o galed, roedd hi'n oer arni, roedd yna lot o salwch a bwlio hefyd. Doedd o ddim yn le pleserus iawn o gwbwl."
Roedd patrwm dyddiol y bechgyn yn un galed iawn ac roedd y dyddiau'n hir.
Eglura Manon: "Roedden nhw'n codi am 05:30 y bore ac yn sgwrio bwrdd y llong, brecwast am 07:30 ac yn syth wedyn i mewn i wersi morwrol.
"Roedd y dyddiau'n hir ac yn ailadroddus iawn."

Manon Eames yw awdur y ddrama Hogia Clio
Yn ddiddorol, dim ond cyfran fechan o'r disgyblion oedd yn fechgyn lleol, er bod pwysigion Bangor a'r ardal - yn cynnwys yr Esgob - wedi mynnu hynny pan drafodwyd lleoli'r Clio ar y Fenai'n wreiddiol.
Yn ôl cyfrifiad 1881 dim ond 34 o'r 246 o fechgyn oedd ar y llong ar y pryd oedd yn dod o Gymru. Un o'r bechgyn oed David Livingstone Evans o Fangor, 11 oed, a oedd wedi pledio'n euog i ddwyn tair doli, pêl-droed a basged ffansi o farchnad Bangor.
Anfonwyd David i'r Clio ar Fehefin 9fed 1908 gyda'r ddedfryd o'i gadw yno hyd at ei ben-blwydd yn 16 oed.
'Trychinebau'
"Mae nifer o hanesion diddorol yn perthyn i'r Clio, y bywyd anodd - a'r trychinebau. Bu farw James Hemmett, 11 oed, ar ôl syrthio i'r dŵr yn Awst 1878, a syrthiodd John Herely hefyd o'r rigin ym Mehefin 1880, a marw.
"Achosodd afiechyd hefyd llawer o farwolaethau - fawr syndod, wrth ystyried yr amodau ar y llong : niwmonia, teiffoid, colera.
"Ond mae hefyd hanes fwy sinistr, marwolaeth William Crook yn 1905, ar ôl iddo gael ei fwlio a'i guro gan fechgyn eraill. Dangosodd yr ymchwiliad i'w farwolaeth ddiffyg gofal ar y llong," meddai Manon.
Mae William Crook wedi ei gladdu ym mynwent Llandegfan, mewn bedd gydag unarddeg o fechgyn eraill o'r Clio - i gyd rhwng 12 ac 13 oed.
Mae beddau'r plant dal i'w gweld yn y fynwent hyd heddiw, ac yn atgof o'r caledi ar fwrdd y llong.

Carreg fedd yn Llandegfan ble mae sawl bachgen wedi ei gladdu ar ôl marw ar y Clio
Yn dilyn arolwg yn 1919, roedd cyflwr y Clio'n gwaethygu, a gwnethpwyd penderfyniad i'w chau.
Roedd gostyngiad yn nifer y bechgyn oedd yn cael eu hanfon arni hefyd yn rhan fawr o'r penderfyniad, wrth i fwy o blant gael eu cartrefu mewn tai gofal.
Wrth edrych allan o bier Bangor heddiw, does dim llong fawr yng nghanol Y Fenai i'w gweld bellach.
Ond mae atgofion o'r Clio dal yn britho'r ardal, a'n brawf o fywyd caled a chreulon y cyfnod.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd26 Ionawr
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023