Hanes stormydd mawr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae llawer ohonom yn cofio tywydd mawr 2013, 1987 – neu hyd yn oed 1953. Ond faint wyddoch chi am hanes rai o ysbeidiau tymhestlog caletaf Cymru?
Gyda storm arall newydd daro Cymru dros y dyddiau diwethaf, mae'r hanesydd Elin Tomos yn bwrw golwg ar hanes rai o stormydd garwaf Cymru.
Cofnod Gerallt Gymro
Daw un o'r disgrifiadau cynharaf o storm yng Nghymru gan y croniclydd o Faenorbŷr, Sir Benfro, Geraldus Cambrensis – neu Gerallt Gymro.
Yn un o'i gyfrolau mae'n disgrifio effeithiau storm enbyd a darodd arfordir Cymru tua 1171/1172. Trawyd traeth Niwgwl yn Sir Benfro gan wyntoedd cryfion; roedd y storm mor ffyrnig, chwythwyd llawer o bysgod a llysywennod ar y creigiau.
Ar Ebrill 25, 1594 disgynnodd cawodydd trwm o law a chenllysg yn Sir Ddinbych, a wnaeth lawer o ddifrod, yn enwedig yn nhref Dinbych ei hun.
Adroddwyd bod crwyn a lledrau crwynwyr a gwneuthurwyr menig y dref wedi cael eu cario gan y llif gan achosi colledion ariannol mawr.
Dinod oedd y llifogydd a brofwyd yn Ninbych o'i gymharu â'r llifogydd angheuol a darodd de Cymru ym mis Ionawr 1607. Mae Llifogydd Môr Hafren – fel y cyfeirir atynt – yn cael eu hystyried fel y trychineb naturiol gwaethaf a gofnodwyd yng ngwledydd Prydain.
Roedd y difrod yn arbennig o ddrwg yng Nghymru ac yn ymestyn o Dalacharn yn Sir Gaerfyrddin i Gas-gwent yn Sir Fynwy. Roedd Caerdydd ymhlith yr ardaloedd yr effeithiwyd arni waethaf. Yno, dinistriwyd sylfeini Eglwys Santes Fair gan y lli.
Mae dyddiaduron personol yn aml yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar batrymau tywydd yn y gorffennol. Cofnododd Walter Powell, bonheddwr o Landeilo Gresynni yn Sir Fynwy, iddo weld y llifogydd mwyaf a welodd erioed ym mis Awst 1648!
Cyfeiriodd at wyntoedd cryfion a falodd y coed ffrwythau a llif dŵr a oedd yn ddigon cryf i chwalu pontydd.
I Jane Griffith – gwraig fferm o Lanbedr, Sir Feirionnydd – a fu'n cadw dyddiadur dros gyfnod o 53 mlynedd rhwng 1874 a 1929 – roedd y tywydd garw yn destun amlwg yn ei hysgrifau.
Mae Jane yn dechrau pob diwrnod bron trwy gyfeirio'n gryno at y tywydd: 'Gwlaw', 'Rhew', 'Cawodydd', a 'Gwynt oer iawn'.
Trawyd gogledd Cymru gan lifogydd sylweddol ar 20 Mehefin 1781. Yn un o'i lyfrau teithio mae'r naturiaethwr o Sir y Fflint, Thomas Pennant, yn cyfeirio at Lanuwchllyn ger Y Bala fel ardal a gafodd ei tharo'n arbennig o wael.
Yn dilyn glaw trwm roedd Afon Twrch a Llyn Tegid wedi gorlifo ac roedd llawer o anifeiliaid fferm wedi boddi. Mae Pennant yn datgelu bod yr Afon Clwyd yn Rhuthun wedi codi i'r lefel uchaf o fewn cof byw yn ystod y cyfnod yma hefyd.
Ar 25-26 Tachwedd 1859 trawyd arfordir ynysoedd Prydain gan un o stormydd garwaf y ganrif. Mewn deuddydd, lladdwyd 800 o bobl gyda 133 o longau yn cael eu dryllio.
Yr enwocaf yn eu plith oedd y Royal Charter, llong hwylio stêm a oedd yn dychwelyd o Melbourne i Lerpwl pan aeth i drybini ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn ger pentref Moelfre.
Collwyd y rhestr teithwyr pan ddrylliwyd y llong felly does dim sicrwydd yn union y nifer o fywydau a gollwyd, ond gallai fod cyn gymaint â 459.
Ym mis Hydref 1913, yn sgil storm ddifrifol bu cyfres o gorwyntoedd ar draws de orllewin Prydain. Croesodd y storm Afon Hafren, gan gyrraedd y tir ger Efail Isaf a Llanilltud Faerdre.
Yna, teithiodd i'r gogledd, gan achosi cryn ddifrod yng Nghilfynydd, Abercynon ac Edwardsville. Lladdwyd tri o bobl, ac amcangyfrifwyd bod gwerth £40,000 o ddifrod, ffigwr sydd gyfystyr ag oddeutu £2.5 miliwn yn arian heddiw.
Gyda thalp da o'r gaeaf yn dal o'n blaenau, gadewch i ni obeithio na welwn ni unrhyw gorwyntoedd neu lifogydd di-ri yn 2025!
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2024