Yr heddlu yn bryderus am ddyn sydd ar goll oddi ar arfordir Pen Llŷn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn dweud eu bod nhw'n gynyddol bryderus am ddiogelwch dyn sydd wedi mynd ar goll oddi ar arfordir gogledd Cymru.
Roedd adroddiadau bod deifiwr mewn trafferthion ger Porth Ysgaden, Pen Llŷn am 13:15 brynhawn Iau.
Bu timau o Borthdinllaen, Aberdaron ac Abersoch, gan gynnwys hofrennydd, bad achub, a'r heddlu yn chwilio am y dyn.
Gwylwyr y Glannau oedd yn cydlynu'r chwiliad, ond fe wnaethon nhw roi'r gorau i'r chwilio ar ôl hanner nos nos Iau gan ddweud nad oedden nhw wedi dod o hyd i unrhyw un.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod swyddogion yn cynorthwyo Gwylwyr y Glannau i chwilio eto ddydd Gwener.
Apêl i yrrwr fan
Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson o Heddlu'r Gogledd eu bod yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.
“Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn dod o hyd i yrrwr fan a siaradodd ag aelod o Wylwyr y Glannau yn ardal y cildraeth ddoe, y credaf y gallai fod â gwybodaeth a allai fod o gymorth gyda'n hymholiadau," meddai.
“Rwyf hefyd yn gofyn i unrhyw un a welodd Ford Mondeo Titanium arian wedi’i barcio yn y maes parcio ger Porth Ysgaden rhwng 27 Tachwedd a 28 Tachwedd i gysylltu."