Atgofion 'gwyllt' o Glastonbury

Endaf yn ei ŵyl Glastonbury cyntaf yn 1999 ac yntau yn 18 oed
- Cyhoeddwyd
Mae diwedd mis Gorffennaf yng nghalendr sawl person sy'n mwynhau gwyliau cerddorol, fel penwythnos Glastonbury.
Mae'n ŵyl sy'n denu dros 200,000 o bobl i Worthy Farm yng Ngwlad yr Haf.
Fe gynhaliwyd yr ŵyl gyntaf ym mis Medi 1970, gyda dim ond 1,500 o bobl yn mynychu bryd hynny.
Ond dros y degawdau mae mwy a mwy o bobl yn ceisio cael tocynnau, sy'n gwerthu allan o fewn munudau.
Un sydd wedi bod yn Glastonbury i fwynhau ac i weithio fwy nag unwaith yw Endaf Thomas o Gaernarfon, a dyma rannu ei brofiadau "gwyllt" o fynychu am y tro cyntaf yn 18 oed ac o gael gweithio ar un o'r llwyfannau mwyaf trawiadol.

Endaf yn gwylio band ar 'The Other Stage' yn Glastonbury 1999
'Cornel i bawb'
"Dwi'n cofio'r tro cynta i fi fynd i Glastonubury, 1999 oedd hi ac adeg hynny doedd y ffensys mawr ddim o gwmpas y lle.
"Roedd hi mor hawdd mynd fewn am ddim adeg yna, ond roedd o'n le lot fwy peryg.
"Nes i neud yr un peth y flwyddyn wedyn hefyd yn 2000. Dyddia da, yn 1999 nes i fynd i wylio'r Chemical Brothers a Jurassic 5, cyn gweld David Bowie yn 2000," meddai.
Dros y blynyddoedd nesaf fe ddechreuodd Endaf wirfoddoli i weithio yn yr ŵyl.
"Un ffordd arall o fynd i mewn am ddim oedd i gynnig gweithio yno, a dyna pryd dwi'n meddwl nes i sylwi pa mor fawr a magical oedd y lle go iawn.
"Cyn i'r giatia gael eu hagor, ti'n gweld y lle heb bobl a heb sbwriel ar y llawr.
"Nes i ddechra gweithio ar y craft stall yn Greenfields yn 2004; hippy field oedd hwn felly o'n i'n teimlo'n grêt yna.
"Roedd y stondin yn gneud petha allan o goed, ac os oedde ti eisiau mynd i wylio band yn chwarae roedd posib trefnu efo'r gweithwyr eraill, felly roedden ni'n helpu ein gilydd allan.
"Un tro hefyd yn 2007 o'n i'n gweithio yn y Greenroom ar un o'r llwyfanna', ac roedd Magic Numbers yn chwarae yna. Fi oedd yn gyfrifol am neud yn siŵr fod popeth yno ar eu cyfer nhw.
"Nes i ddeud fod nhw 'di cael tequila a fodca, er bod pawb o'r band y teetotal a nes i gadw'r poteli i fi fy hun, felly mae gen i lot o atgofion da fel 'na o weithio yno!" meddai.

Endaf yn gwylio'r Super Furry Animals yn 1999
Llwyfan Arcadia
Un o'r pethau mae gŵyl Glastonbury yn enwog amdano yw maint y safle.
Yn ôl Endaf mae hi bron yn amhosib cyrraedd pob man ond un peth arbennig am y lle yw bod 'na "gornel yno i bawb a fedri di ffeindio dy bobl di, y bobl yna ti'n gallu neud cysylltiad efo nhw," meddai.
Yn 2010 daeth cyfle i Endaf weithio ar lwyfan enwog Arcadia.
Dyma'r llwyfan ble mae model enfawr o bry cop wedi'i greu allan o ddefnyddiau sydd wedi'u hailgylchu.
Yn rhan o'r sioe mae peiriannau chwistrellu tân a dawnswyr yn hedfan drwy'r awyr.
"Ro'n i wedi dod i nabod pobl o'r cwmni o Fryste tra o'n i'n byw yno am gyfnod a ges i gyfle i fynd atyn nhw i weithio.
"Ffordd arall o gael mynd fewn am ddim ella, ond fy swydd i oedd o dan y llwyfan yn rheoli'r gwifrau oedd yn cadw'r trapeze artists rhag disgyn.
"Roedd hwnna'n brofiad anhygoel ac yn sioe ffantastig hefyd," meddai.
Tra'n gweithio i gwmni Arcadia, roedd yn rhaid i Endaf dreulio 10 diwrnod yn Glastonbury a dyna "pryd ti'n sylwi pa mor enfawr ydi'r lle," meddai.

Mae llwyfan Arcadia yn llwyfan poblogaidd yn Glastonbury
2011 oedd y tro diwethaf i Endaf fod yno, ond mae ei atgofion yn rhai melys iawn, yn enwedig o'r tro cyntaf aeth yno, yn 1999.
"Un peth dwi'n cofio ydi'r Chemical Brothers yn stopio ei set achos 'nath 'na ryw foi ddringo ar rig y tent lle o'dda nhw yn perfformio.
"Natho nhw wrthod cario mlaen nes iddo ddod lawr ac roedd 'na 40,000 o bobl yn gweiddi ar y boi 'ma i ddod lawr yn syth."
"Un peth arall ddigwyddodd yn 1999 oedd boi yn dreifio fan gwyn i mewn i crowd y Super Furries; fysa hynny byth yn digwydd heddiw," meddai.
Mae Endaf yn dyheu i fynd yn ôl i Glastonbury, ac yntau bellach bron yn 45 mae'n mynnu byddai'r profiad yn wahanol iawn nag 1999.
"Glastonbury oedd y festival i fynd, rhwng y mid i'r late 90's fanna oedd y Mecca.
"Mae'r lle wedi meddalu rŵan es y dyddia cynnar pan nes i fynd, sydd ddim yn beth drwg achos roedd o'n gallu bod yn lle eithaf peryg ers talwm.
"Mae gen i dal ffrindiau sy'n mynd ac un diwrnod dwi bendant am fynd yn ôl, unai i weithio neu jest i fwynhau," meddai.

Dyma ddangos maint gwyl Glastonbury o'r awyr
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd7 Mehefin