Y Cymry sydd wedi serennu yn Glastonbury
- Cyhoeddwyd
Mae Glastonbury 2025 wedi cyrraedd ac unwaith eto eleni fe fydd nifer o artistiaid o Gymru y perfformio ar lwyfannau'r ŵyl.
Yn eu mysg bydd Melin Melyn, Mali Haf, Lemfreck, Gwenno, Nancy Williams, Kelly Lee Owens a CVC.
Dros y degawdau mae nifer o gerddorion Cymreig wedi bod yn yr ŵyl - o gôr meibion i artistiaid unigol – felly dyma oriel luniau i hel atgofion o rai o berfformiadau'r gorffennol.

Cate Le Bon, sydd o Gaerfyrddin yn wreiddiol, yn perfformio ar The Park Stage yn Glastonbury 2022

Greta Isaac yn perfformio ar lwyfan BBC Introducing yn 2024 gyda'i band FIZZ

Aelodau Côr Meibion y Penrhyn gyda Damon Albarn a gweddill aelodau The Good, the Bad and the Queen gefn llwyfan ar ôl perfformio gyda'i gilydd ar The Park Stage yn 2019

James Dean Bradfield o'r Manic Street Preachers yn perfformio ar The Other Stage yn 2023

HMS Morris ar lwyfan BBC Introducing yn 2015

Mae'r band Coldplay wedi chwarae prif slot Glastonbury bum gwaith - fwy nag unrhyw fand arall. Dyma Jonny Buckland, cyn ddisgybl Ysgol y Waun ac Ysgol Alun yn yr Wyddgrug, ar lwyfan y Pyramid llynedd

Marged Sion, o Gaerdydd, ar y dde gyda Self Esteem ar Lwyfan John Peel yn 2022

Roedd Elan Rhys ar lwyfan BBC Introducing yn 2016 gyda'i band Plu

Pwy arall ond Super Furry Animals - yn 2015

John Cale, ddaeth yn adnabyddus gyda'r Velvet Underground yn yr 1960au, yn perfformio yn yr ŵyl yn 2008

Un arall o enwau mawr y byd cerddorol sy'n dod o Gymru - Syr Tom Jones, yma yn perfformio yn Glastonbury yn 2009
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022