Nain a thaid yn euog o lofruddio eu hŵyr dwy oed

Cafodd Ethan Ives-Griffiths ei ddarganfod wedi ei anafu yng nghartref ei nain a'i daid ar Lannau Dyfrdwy yn 2021
- Cyhoeddwyd
Mae nain a thaid wedi eu cael yn euog o lofruddio eu hŵyr dwy oed.
Bu farw Ethan Ives-Griffiths ym mis Awst 2021 ar ôl cwympo yng nghartref ei nain a'i daid yn Garden City yn Sir y Fflint.
Roedd Michael Ives, 47, a Kerry Ives, 46, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i blentyn.
Mae mam Ethan, Shannon Ives, 28 oed o'r Wyddgrug, hefyd wedi ei chael yn euog o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i blentyn.
Fe fydd y tri diffynnydd yn cael eu dedfrydu ar 3 Hydref yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Mae'r Barnwr Mr Ustus Griffiths wedi rhybuddio Michael a Kerry Ives eu bod yn wynebu dedfryd carchar am oes am lofruddiaeth, a bydd Shannon Ives hefyd yn treulio cyfnod hir dan glo.

Roedd Kerry Ives, ei merch Shannon - mam Ethan - a'i gŵr Michael yn gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth y bachgen
Yn ystod achos a barodd am bum wythnos, dywedodd yr erlyniad fod Ethan, a fu farw o anafiadau difrifol i'w ben, wedi cael ei drin "yn farbaraidd".
Fe glywodd y rheithgor dystiolaeth ddirdynnol o gamdriniaeth dan ddwylo ei daid a'i nain, wedi iddo symud i fyw atyn nhw ganol Mehefin 2021.
Adeg hynny roedd yn fachgen bach iach a hapus ac er ei fod yn cael ei weld gan weithiwr cymdeithasol doedd dim pryder neilltuol yn ei gylch.
Ond fe glywodd y llys fod ei gyflwr corfforol wedi dirywio'n arw o fewn dau fis - ei fod "fel sgerbwd" ac yn dioddef effeithiau diffyg dŵr difrifol.
Fe ddisgynnodd yn anymwybodol i'r llawr ar 14 Awst 2021 wedi anaf difrifol i'w ben, dan ofal ei daid a'i nain yn eu hystafell fyw yn Garden City.

Mae lluniau CCTV yn dangos Michael Ives yn llusgo Ethan o drampolîn ar draws yr ardd gefn gerfydd un fraich
Cafodd Ethan ei gludo i'r ysbyty lle bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.
Roedd ganddo 40 o anafiadau gwahanol ar ei gorff.
Fe wadodd Michael a Kerry Ives eu bod wedi ei anafu ond fe benderfynodd y rheithgor - saith dynes a phum dyn - yn unfrydol eu bod yn euog o lofruddio eu hŵyr ac o greulondeb i blentyn.
Syllu o'u blaenau wnaeth y ddau wrth glywed y dedfrydau.
Penderfynodd y rheithgor fod mam Ethan, Shannon Ives, yn euog o gyhuddiadau o ganiatáu neu achosi marwolaeth plentyn a chreulondeb i blentyn.
Fe gafodd hithau ei rhyddhau ar fechnïaeth tan y gwrandawiad dedfrydu ym mis Hydref.

Tad Ethan, Will Griffiths
Mewn datganiad tu allan i'r llys wedi'r dyfarniadau, dywedodd tad Ethan, Will Griffiths: "Yn anffodus, ges i ddim llawer o amser gydag Ethan, ond roedd yr amser hynny yn werthfawr.
"Ni fydd byth yn cael ei anghofio a bydd yn fyw am byth yn ein calonnau ac atgofion.
"Fe fydd yn cael ei gofio fel plentyn oedd yn gwenu, yn gyfeillgar ac yn serchus.
"Gallai orffwys mewn hedd rŵan, gan wybod bod yna gyfiawnder."
Fe fynegodd diolch i'w deulu am "y cariad a'r gefnogaeth ers i mi golli Ethan" ac i'r heddlu "sydd wedi gweithio'n ddiflino am gyfiawnder i Ethan a rhoi llais iddo".
'Gofid a phoen yn hytrach na chariad a gofal'
Yn ôl arweinydd yr ymchwiliad i'r achos, dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Chris Bell fod gan Michael, Kerry a Shannon Ives "gyfrifoldebau" ac y dylen nhw fod wedi "rhoi cariad, gofal a gwarchodaeth i Ethan".
"Yn hytrach, fe achosodd Michael ofid, poen a dioddefaint i'w ŵyr cyn cymryd ei fywyd yn giaidd... Gwylio heb weithredu wnaeth Kerry a Shannon wrth i'r gamdriniaeth ddatblygu yn y cartref.
"Roedd eu hymddygiad y tu hwnt i ddealltwriaeth, ac mae'n amhosib dychmygu arswyd plentyn dyflwydd oed wrth ddioddef y fath anafiadau erchyll, dan law ei deulu agosaf.
"Gwelsom o'r lluniau o Ethan sut y dirywiodd yn sylweddol yn y saith wythnos y bu'n byw gyda'i nain a'i daid, hyd at ei lofruddiaeth.
"Mae'n amhosib gwybod yn iawn beth yn union y dioddefodd Ethan tu ôl i ddrysau caeedig yn y cyfnod hwnnw... gwyddwn, o'r dystiolaeth, iddo ddioddef yn sylweddol."
Roddodd deyrnged i "nerth a dewrder" teulu ochr tad Ethan, a'u hymddygiad "urddasol trwy achos hir, dirdynnol a chymhleth".
Ychwanegodd fod yr achos wedi amlygu "plismona ar ei orau" gan fod swyddogion mor "benderfynol o sicrhau cyfiawnder i Ethan".