'Neb yn barod i ddweud y gwir' am farwolaeth Ethan Ives-Griffiths

Ethan Ives-GriffithsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ethan Ives-Griffiths ym mis Awst 2021 ar ôl cwympo yng nghartref ei nain a'i daid

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Wrth i blentyn dwy oed orwedd ar lawr lolfa yn brwydro am ei fywyd, roedd yr unig ddau oedolyn yn yr ystafell yn cytuno i gelu'r hyn ddigwyddodd iddo.

Dyna gasgliad yr heddlu ar ddiwedd achos llys a welodd daid a nain yn cael eu canfod yn euog o lofruddio eu hŵyr.

Yn ystod yr achos a barodd dros bum wythnos yn Llys y Goron yr Wyddgrug, gofynnwyd i Michael a Kerry Ives droeon i ddweud beth yn union ddigwyddodd i Ethan Ives-Griffiths.

Ond dro ar ôl tro, glynu at eu stori wnaeth y ddau gan wadu eu bod wedi gwneud unrhyw beth i'w niweidio'r bachgen bach.

"Mae wedi bod yn anhygoel o gymhleth, yn hir. Mae bron i bedair blynedd ers i hyn ddigwydd", meddai'r Ditectif Uwch-arolygydd Chris Bell o Heddlu Gogledd Cymru.

"Beth bynnag ddigwyddodd, mi ddigwyddodd y tu ôl i ddrysau caeedig a does neb wedi bod yn barod i ddweud y gwir."

Ceisio pwyntio bys at eu merch Shannon Ives, mam Ethan, wnaeth Michael a Kerry Ives.

Roedd hi yn y tŷ y noson honno. Ond gan ei bod hi ar ei ffôn i fyny'r grisiau, chafodd hi ddim ei hamau o achosi'r anaf ymennydd fyddai'n lladd ei mab.

Ond pan gafodd Ethan ei ruthro i'r ysbyty ar 14 Awst 2021, fe ddaeth hi'n amlwg i'r meddygon bod y plentyn wedi dioddef yn llawer hirach na'r digwyddiad "catastroffig" yn yr ystafell fyw.

Roedd ei ddyddiau a'i wythnosau olaf yn debygol o fod yn rhai o "drallod a phoen", yn ôl arbenigwyr meddygol.

Bachgen bach yn 'edrych fel dyn yn ei 90au'

Wrth ymchwilio i'r wythnosau hynny, fe gasglodd swyddogion fod ei fam Shannon Ives hefyd wedi achosi neu ganiatáu ei farwolaeth ac wedi bod yn greulon tuag ato, fel ei rhieni Michael a Kerry Ives.

Roedd panig a phryder amlwg yn llais Kerry Ives ar yr alwad 999 a gafodd ei chwarae i'r llys ar ôl i Ethan - yn ei geiriau hi - gwympo'n ddirybudd yn yr ystafell fyw.

Pan aeth y parafeddygon yno, fe ddaethon nhw o hyd i fachgen bach oedd yn "edrych fel dyn yn ei 90au" - gyda "llygaid dwfn tywyll, gwefusau sychion gwaedlyd, a chorff esgyrnog".

Roedd hi'n amlwg i feddygon ei fod o'n ddifrifol o dan ei bwysau ac â diffyg dŵr yn ei gorff.

Roedd yna 40 o anafiadau allanol yn cynnwys tri chlais maint blaen bysedd a bawd ar ei fochau.

Roedd yna anafiadau mewnol i'w fol a gwaedu hanesyddol ar yr ymennydd.

Kerry Ives, Shannon Ives a Michael IvesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Kerry Ives, Shannon Ives a Michael Ives yn euog yn dilyn achos pum wythnos o hyd yn Llys y Goron yr Wyddgrug

Roedd Ethan yn rhy ifanc i ddeall bod dim o'i le, ond roedd yr hyn roedd o'n ei brofi'n sicr o effeithio ar ei ddatblygiad, yn ôl y seicolegydd Dr Mair Edwards, a fu'n gweithio ar achosion gofal plant am flynyddoedd.

"Mae camdriniaeth o unrhyw fath, emosiynol, corfforol neu rywiol, yn effeithio ar brosesau'r ymennydd oherwydd bod y plentyn yn mynd i gyflwr diogelu, mewn survival mode, yn hytrach na bod nhw'n datblygu'n naturiol," meddai.

"I blant bach, be' maen nhw'n gael ydy'r effaith ffisiolegol o fyw mewn ofn."

"Ac mae byw mewn ofn wedyn yn golygu nad ydy'r plentyn yn medru gwneud synnwyr o'r pethau eraill sy'n digwydd o'u cwmpas nhw fyse'n helpu eu datblygiad cyffredinol nhw."

Lluniau camerâu cylch cyfyng yn dangos Michael Ives yn cario ei ŵyr gerfydd un fraichFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau camerâu cylch cyfyng yn dangos Michael Ives yn cario ei ŵyr gerfydd un fraich

Rhyw ddeufis y buodd Ethan a'i fam yng nghartref ei daid a'i nain yn Garden City, Sir y Fflint.

Roedd lluniau teulu ohono cyn hynny'n dangos ei fod yn blentyn cymharol iach a hapus, felly roedd y newid hyd at ei farwolaeth yn drawiadol.

Trobwynt yn ymchwiliad yr heddlu oedd edrych trwy luniau camerâu cylch cyfyng o gartref Michael a Kerry Ives.

Mi gafodd y rhain hefyd eu chwarae i'r rheithgor yn y llys yn dangos corff eiddil Ethan ar drampolîn yn yr ardd gefn yn cael ei ysgwyd a'i daflu "fel doli glwt" wrth i berthnasau hŷn neidio'n wyllt o'i gwmpas.

Syllu'n fud a di-hid roedd y taid, y nain a'r fam.

Ar un achlysur roedd Michael Ives i'w weld yn annog plentyn arall i daro, a'r plentyn hwnnw wedyn yn rhoi sawl ergyd i ben Ethan.

Taid yn cosbi ei ŵyr

Yn gyson roedd y taid i'w weld yn cario ei ŵyr gerfydd un fraich, "fel bag o sbwriel" meddai'r heddlu.

Pan ofynnon nhw i Ives am hynny wrth ei gyfweld, mi ddywedodd ei fod yn "ffieiddio" ato'i hun.

Dangosodd camera o flaen y tŷ Michael Ives fel petai'n taro Ethan ddwywaith wrth geisio ei roi i eistedd yng nghefn ei gar.

Ethan Ives-GriffithsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd lluniau teulu o Ethan cyn iddo symud at ei nain a'i daid yn dangos ei fod yn blentyn cymharol iach a hapus

Mi glywodd y llys ei fod o'n cosbi ei ŵyr trwy ei orfodi i sefyll gyda'i ddwylo ar ei ben ac o'r fideos chwaraewyd i'r llys roedd hi'n ymddangos bod Ethan yn arfer gwneud hynny.

Taeru na welodd hi ddim o hyn wnaeth ei wraig, Kerry Ives, tra honnodd Shannon Ives ei bod hi wedi ceisio herio ei thad ond ei bod hi ei ofn.

"Os oedd 'na coercive control, bod nhw ofn y tad neu'r taid, mae hynny hefyd yn golygu bod nhw ddim yn teimlo bod ganddyn nhw lais a bod nhw'n methu dweud wrth unrhyw un," meddai Dr Edwards.

"Ond hefyd ar yr un adeg mae rhywun yn gallu gweld bod nhw ddim yn deall bod y peth yn anghywir oherwydd dyna oedd eu profiadau nhw."

Dr Mair Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae camdriniaeth o unrhyw fath yn creu "effaith ffisiolegol o fyw mewn ofn" meddai Dr Mair Edwards

Fe wnaeth y tri diffynnydd ddweud yn y llys y dylen nhw fod wedi gwneud mwy i helpu a gwarchod Ethan.

Mi ddangosodd y dystiolaeth feddygol bod yr anaf i'r ymennydd - a laddodd Ethan - wedi ei achosi gan ergyd neu ysgwyd difrifol a ddigwyddodd o fewn munudau iddo gwympo'n anymwybodol - ac na allai hynny fod wedi digwydd trwy ddamwain.

Dim ond Michael a Kerry Ives oedd yn yr ystafell yn ystod y munudau hynny.

Roedd y gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio gyda theulu Ethan cyn ei farwolaeth ac mae asiantaethau ar ganol adolygiad i weld â ellid bod wedi gwneud rhagor i'w helpu.

"Byddan nhw eisiau edrych mewn i beth oedd y gwasanaethau'n ei wybod am Ethan a'r teulu ac os bysen nhw wedi gallu gwneud unrhyw beth arall i amddiffyn y bachgen bach hwn", meddai Cecile Gwilym o elusen atal creulondeb at blant yr NSPCC.

"Mae'n bwysig iawn iddyn nhw hefyd sicrhau bod unrhyw argymhellion yn cael eu derbyn yn syth er mwyn sicrhau bod achosion fel hyn ddim yn digwydd dim mwy."

Michael Ives yn cael ei holi gan swyddogion heddlu yn dilyn marwolaeth EthanFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Michael Ives yn cael ei holi gan swyddogion heddlu yn dilyn marwolaeth Ethan

Ymysg y tystion yn yr achos llys oedd cymydog a glywodd weiddi mawr yn dod o dŷ Michael a Kerry Ives yn y dyddiau cyn i Ethan farw, a sŵn plentyn ifanc yn crio.

Fe ddywedodd y cymydog ei bod hi wedi ystyried galw'r heddlu, ond na wnaeth hi.

Yn ôl Cecile Gwilym, dylai pobl fedru dweud os oes ganddyn nhw amheuon am ddiogelwch unrhyw blentyn.

"Mae'n really bwysig bod pobl yn cadw golwg yn y gymuned. Ni'n gwybod weithiau bod pobl ddim yn siŵr, maen nhw ofn cael pethau'n wrong, ofn cael pobl mewn trwbl."

"Ond unrhyw beth sydd ddim yn teimlo'n iawn, mae'n bwysig bod pobl yn gallu siarad allan achos mae unrhyw beth maen nhw'n ddweud yn gallu helpu gwasanaethau eraill, fel darnau jig-so."

Mae Cecile Gwilym yn pwysleisio pwysigrwydd codi pryderon o fewn y gymuned am ddiogelwch plant
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cecile Gwilym yn pwysleisio pwysigrwydd codi pryderon o fewn y gymuned am ddiogelwch plant

Mae'r darlun o'r hyn ddigwyddodd i Ethan Ives-Griffiths yn arswydus, ond mae ei daid a'i nain yn dal i gelu'r manylion terfynol.

Wrth groesholi Kerry Ives, dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad Caroline Rees KC: "Dim ond dau berson sy'n gwybod beth ddigwyddodd i Ethan a chi ydy un o'r rheiny. Dywedwch wrth y rheithgor beth ddigwyddodd."

"Ddigwyddodd dim byd", oedd ateb Kerry Ives.

"Ydych chi'n dweud celwydd i warchod eich gŵr?" gofynnodd Ms Rees.

"Nadw", atebodd Ives.

Bydd Michael Ives, Kerry Ives a Shannon Ives yn cael eu dedfrydu ar 3 Hydref yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.