Corff menyw, 32, wedi ei ddarganfod rhwng dau gar - cwest

Niwunhellage Dona Nirodha Kalapni NiwunhellaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Nirodha Niwunhella ei ddarganfod yn gynnar ddydd Iau ar 21 Awst

  • Cyhoeddwyd

Mae agoriad cwest yn achos marwolaeth menyw 32 oed wedi clywed bod ei chorff wedi ei ddarganfod rhwng dau gar wedi eu parcio ar stryd yng Nghaerdydd.

Clywodd y gwrandawiad mai aelod o'r cyhoedd ddaeth o hyd i gorff Niwunhellage Dona Nirodha Kalapni Niwunhella, oedd yn cael ei galw'n Nirodha, yn ardal Glan-yr-afon y ddinas o gwmpas 07:30 fore Iau 21 Awst.

Clywodd hefyd bod Ms Niwunhella ag anafiadau sylweddol, ac yn ôl casgliad cychwynnol archwiliad post-mortem bu farw o ganlyniad cael sawl anaf â rhyw fath o arf finiog.

Mae Thisara Weragalage, dyn 37 oed o Bentwyn, wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.

South Morgan Place
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Glan-yr-afon y ddinas yn dilyn adroddiadau bod menyw wedi cael anafiadau difrifol

Fe gafodd y cwest ei ohirio nes canlyniad proses gyfreithiol yr achos.

Estynnodd y Crwner Patricia Morgan ei chydymdeimlad â theulu Ms Niwunhella.

Mae ei theulu wedi ei disgrifio fel "merch ac aelod annwyl o'r teulu, a ffrind i nifer" a oedd wedi "cyffwrdd â llawer o fywydau gyda'i charedigrwydd a'i chynhesrwydd".

Pynciau cysylltiedig