Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw yng Nghaerdydd

Mae Nirodha Kalapni Niwunhella wedi ei disgrifio gan ei theulu fel merch wnaeth "gyffwrdd â llawer o fywydau gyda'i charedigrwydd a'i chynhesrwydd"
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 37 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw 32 oed yn y ddinas.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Glan-yr-afon y ddinas am 07:37 fore Iau, 21 Awst yn dilyn adroddiadau bod menyw wedi cael anafiadau difrifol.
Bu farw Niwunhellage Dona Nirodha Kalapni Niwunhella, oedd yn cael ei galw'n Nirodha, yn y fan a'r lle.
Mae Thisara Weragalage, o ardal Pentwyn y ddinas, wedi ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad llys nesaf ar 19 Medi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl