Y golffiwr Brian Huggett wedi marw yn 87 oed

Brian HuggettFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r golffiwr Brian Huggett wedi marw yn 87 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae Brian Huggett, y golffiwr o Gymru, a chwaraeodd mewn chwe Chwpan Ryder ac a orffennodd yn ail ym Mhencampwriaeth Agored 1965, wedi marw yn 87 oed.

Dywedodd datganiad a gyhoeddwyd ar ran teulu Huggett ei fod wedi marw yn oriau mân fore Sul yn dilyn salwch byr.

Enillodd Huggett, a aned ym Mhorthcawl, 16 o gystadlaethau'r Gylchdaith Ewropeaidd yn ystod ei yrfa, ac ef oedd prif golffiwr Ewrop ym 1968.

Roedd yn gapten tîm Prydain Fawr ac Iwerddon yng Nghwpan Ryder 1977 - yr olaf cyn i chwaraewyr o weddill Ewrop gymryd rhan.

Roedd Huggett hefyd yn rhan o’r tîm ddaeth â Chwpan Ryder i Gymru yn 2010.

Cafodd cyfraniad Huggett i chwaraeon Cymru ei gydnabod pan gafodd ei gynnwys yn Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn 2006, a chafodd MBE ym 1978.

Pynciau cysylltiedig