Cyhuddo llawfeddyg o Aberystwyth, a gollodd ei goesau, o dwyll

Bydd Neil Hopper yn ymddangos yn Llys y Goron Cernyw ar 26 Awst
- Cyhoeddwyd
Mae llawfeddyg o Gymru oedd yn gyfrifol am gannoedd o lawdriniaethau i dynnu rhannau o gyrff cleifion cyn colli ei goesau ei hun, wedi ymddangos mewn llys wedi ei gyhuddo o dwyll.
Mae Neil Hopper, 49, sydd o Aberystwyth yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Truro yng Nghernyw, wedi cael ei gyhuddo hefyd o annog rhywun arall i dynnu rhannau o gyrff pobl eraill.
Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Cernyw i wynebu dau gyhuddiad o dwyll drwy ddweud anwiredd (false representation) ac un cyhuddiad o annog neu gynorthwyo'r broses o gomisiynu trosedd sef achosi niwed corfforol difrifol.
Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Brenhinol Cernyw "nad oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod unrhyw risg wedi bod i gleifion".
Honni mai sepsis achosodd ei anafiadau
Mae Mr Hopper wedi ei gyhuddo o dwyllo cwmnïau yswiriant yn 2019 gan ddweud bod yr anafiadau i'w goesau o ganlyniad i sepsis, ac nad oedd wedi achosi'r anafiadau ei hun.
Mae'n wynebu cyhuddiad arall o brynu fideos o wefan o'r enw The Eunuch Maker yn 2020, a oedd yn dangos rhannau o gyrff yn cael eu tynnu.
Mae'n cael ei gyhuddo hefyd o annog unigolyn i dynnu rhannau o gorff person arall.
Roedd Mr Hopper wedi bod yn gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Brenhinol Cernyw o 2013 tan iddo gael ei arestio ym mis Mawrth 2023, meddai'r heddlu.
Mae wedi cael ei wahardd o'r gofrestr feddygol ers mis Rhagfyr 2023.
Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Brenhinol Cernyw: "Nid yw'r cyhuddiadau'n ymwneud ag ymddygiad proffesiynol Mr Hopper ac nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod unrhyw risg wedi bod i gleifion.
"Gall cyn-gleifion sydd ag unrhyw gwestiynau neu bryderon am eu triniaeth gysylltu â thîm profiad cleifion Ysbytai Brenhinol Cernyw," ychwanegon nhw.
Mae Mr Hopper yn cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos mewn llys eto ar 26 Awst.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.