'Sialens newydd' - Ceisio denu mwy o athrawon Cymraeg uwchradd
![Angharad Pari-Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/651/cpsprodpb/586b/live/754e0300-e896-11ef-a055-1ba5a4b6ed03.jpg)
Doedd y newid o'r cynradd i'r uwchradd "ddim gymaint o her ag o'n i'n ddisgwyl" yn ôl Angharad Pari-Williams
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i hybu niferoedd athrawon ar agor unwaith eto eleni, wrth i arolygwyr rybuddio am heriau recriwtio yn y maes.
Nod rhaglen 'Cynllun Pontio' ydy denu athrawon sy'n siarad Cymraeg i ysgolion uwchradd yng Nghymru.
Mae'r cynllun yn cefnogi siaradwyr Cymraeg sydd ar hyn o bryd yn addysgu mewn ysgolion cynradd, neu athrawon mewn ysgolion y tu allan i Gymru.
Gall athrawon sydd wedi bod allan o'r proffesiwn am bum mlynedd neu fwy ymgeisio hefyd.
Yn ôl llefarydd ar ran y llywodraeth, mae'r cynllun yn ffordd o "ddatblygu gweithlu addysgu talentog yng Nghymru, yn enwedig yn ein hysgolion uwchradd".
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
Mae recriwtio staff i ysgolion wedi profi'n her yn ôl adroddiad blynyddol Estyn ar gyfer 2023-24.
Gobaith Llywodraeth Cymru ydy sicrhau fod mwy yn mentro i'r maes addysgu, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd.
Mae'r cynllun ar agor am dair wythnos.
Un sydd wedi manteisio ar y cynllun ydy Angharad Pari-Williams sy'n addysgu'r dyniaethau yn Ysgol David Hughes ar Ynys Môn.
Roedd hi'n athrawes mewn ysgol gynradd cyn symud i ysgol uwchradd gyda chymorth y cynllun.
Dywedodd: "Dwi mor falch fy mod i wedi ymgeisio, gan fod maes llafur newydd Cymru mor drawsgwricwlaidd.
"O'n i isio sialens newydd mewn ffordd a gweld os oedd sgiliau cynradd fi'n transferio efo fi i'r uwchradd."
![Athrawon yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1104/cpsprodpb/59f3/live/b3b68640-e886-11ef-acf4-d3a321e6d53f.jpg)
Mae Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy wedi derbyn tair athrawes drwy'r Cynllun Pontio eleni
Er y gwahaniaethau amlwg, dywedodd Ms Pari-Williams fod yna rhai agweddau tebyg iawn hefyd.
"Doedd o ddim gymaint o her ag o'n i'n ddisgwyl, mae cyflymder yr uwchradd yn rhywbeth o'n i'n gorfod gweithio arno i gychwyn, ond doedd o ddim gymaint o her ag o'n i wedi disgwyl."
I Sarah Louise Williams, roedd y cynllun yn help iddi ddychwelyd i'r dosbarth yn llawn amser.
"O'n i'n gweithio llawn amser cyn cael dau o blant ac ar ôl cael dau o blant 'nes i benderfynu gweithio ar amodau llanw... ond o'n i'n teimlo mod i'n barod i fynd nôl i yrfa llawn amser."
Cafodd swydd llawn amser gyda chymorth y cynllun, a dywedodd ei fod yn "grêt i gael her newydd".
![Sarah Louise Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/3cd5/live/c0737390-e889-11ef-a055-1ba5a4b6ed03.jpg)
Cymrodd Sarah Williams fantais ar y cyfle i ddychwelyd i fyd addysg ar ôl cael plant
Meinir Davies ydy dirprwy bennaeth Ysgol David Hughes. Dywedodd bod y cynllun yn "gyfle gwych i ddenu athrawon" sydd eisiau profiad yn yr ysgol uwchradd.
"Eleni, ni 'di cael tair athrawes sy'n arbenigo yn y cynradd ac maen nhw'n cael cyfle i gael blas ar fywyd yn dysgu yn yr uwchradd.
"Mae wedi bod yn gyfle gwych i ni allu datblygu arbenigedd ynddyn nhw, ond hefyd yn elwa ar eu profiadau nhw yn y cynradd ac yn gallu manteisio ar eu harbenigedd nhw hefyd i ddarparu ar gyfer y blynyddoedd iau yn yr ysgol."
![Meinir Davies](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/0f20/live/9f083c70-e88b-11ef-a055-1ba5a4b6ed03.jpg)
Mae recriwtio athrawon "yn broblem" yn ôl y dirprwy bennaeth, Meinir Davies
Dywedodd Ms Davies fod y cynllun yn help mawr wrth i'r sector wynebu "her recriwtio athrawon".
Dywedodd: "Dwi'n gweld dros y blynyddoedd cyn lleied o athrawon sy'n arbenigo mewn pynciau fel mathemateg a gwyddoniaeth yn arbennig sy'n dod bob blwyddyn.
"Felly mae recriwtio yn broblem, ac mae'r Cynllun Pontio yma yn un ffordd effeithiol o ddiwallu'r angen hynny mewn recrwitio mewn ysgolion uwchradd."
Dywedodd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle mai'r cynllun hwn "yw un o'r ffyrdd yr ydyn ni'n datblygu gweithlu addysgu talentog yng Nghymru, yn enwedig yn ein hysgolion uwchradd.
"Dwi'n benderfynol o sicrhau ein bod ni'n cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu potensial a'n bod ni'n parhau i godi safonau."