Oedi TGAU Hanes newydd am fod athrawon 'ddim yn hyderus'
![Disgyblion yn sefyll arholiad mewn neuadd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/f215/live/a089ed90-e521-11ef-bd1b-d536627785f2.jpg)
- Cyhoeddwyd
Mae athrawon wedi cael gwybod y bydd 'na oedi i'r cwrs TGAU Hanes newydd a oedd fod i'w gyflwyno fis Medi.
Dywedodd Cymwysterau Cymru y bydd y cwrs bellach yn cael ei ddysgu o fis Medi 2026 am fod nifer o'r athrawon "ddim yn barod neu'n hyderus" yn ei gyflwyno.
Mae undeb addysg NASUWT wedi croesawu'r oedi gan ddweud fod angen mwy o amser ar athrawon i gynllunio.
Ond dywedodd un uwch ddarlithydd prifysgol fod rhai athrawon yn "gandryll" gyda'r awgrym mai'r rheswm am yr oedi yw nad ydyn nhw'n barod nac yn hyderus.
'Bychanu' athrawon Hanes
Mae'r newid yn rhan o ail-lunio holl gyrsiau TGAU o dan y cwricwlwm newydd i Gymru.
Mewn llythyr at ysgolion, dywedodd Cymwysterau Cymru fod yr undebau a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC) wedi codi cwestiynau fod maint y newid a'r llwyth gwaith sy'n wynebu athrawon Hanes yn fwy na phynciau eraill.
Ychwanegodd fod Cymwysterau Cymru, ynghyd â'r bwrdd arholi CBAC a Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon ac wedi gohirio cyflwyno'r cwrs TGAU hanes tan Medi 2026, pan fydd ail don o bynciau yn cael eu cyflwyno.
Daeth cyhoeddiad y llynedd y byddai'r cwrs gwyddoniaeth TGAU yn cael ei gyflwyno flwyddyn yn hwyrach na'r disgwyl a bod cynlluniau ar gyfer cwrs TGAU Iaith Arwyddion Prydain (BSL) hefyd wedi eu hatal.
![Dr Huw Griffiths, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/420/cpsprodpb/0260/live/9e6b6dd0-e536-11ef-a319-fb4e7360c4ec.jpg)
Dywedodd Dr Huw Griffiths mai'r cynnwys oedd y broblem ar y cwrs newydd
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad fore Gwener, dywedodd Dr Huw Griffiths, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ei fod yn "cefnogi'r penderfyniad" ond yn dweud ei fod yn "gamarweiniol iawn" mai'r rheswm y tu ôl i'r oedi yw "bod yr athrawon ddim yn barod a ddim yn hyderus".
Dywedodd ei fod eisoes wedi siarad â "deuddeg pennaeth adran bore 'ma am y datganiad trwy WhatsApp ac maen nhw'n gandryll mai dyna'r disgrifiad".
Aeth ymlaen i ddweud fod y datganiad "bron â bod yn bychanu athrawon Hanes ledled Cymru".
Dywedodd mai'r cynnwys oedd y broblem ar y cwrs newydd ac nad yw hynny wedi ei "ddatgan yn y cyhoeddiad".
'Lladd diddordeb hanes Cymru'
Aeth ymlaen i ddweud "pe bai'r cynnwys newydd yn aros fel mae ar y foment, yn fy marn i, bydde hwnna yn lladd hanes Cymru i bobl ifanc yng Nghymru oherwydd y ffordd mae wedi ei osod allan".
Dywedodd y bydd "yr holl athrawon ledled Cymru o ran y cyfnod modern yn edrych ar hanes UDA a hanes y Natsïaid yn hynny o beth, os ydyn nhw'n 'neud hynny bydd dim modd astudio hanes modern Cymru".
Ychwanegodd mai canlyniad hynny yw bydd yn "rhaid iddyn nhw wneud uned lawn ar rywbeth fel Yr Arglwydd Rhys... i fi mae hwnna'n mynd i ladd y pwnc o ran diddordeb pobl ifanc".
"Mae hwn wedi cael ei ruthro trwyddo, ac yn blwmp ac yn blaen dwi'n beio bwrdd arholi CBAC," meddai.
Dywedodd fod y cynnwys yn "hollol i'r gwrthwyneb i'r hyn gafodd ei drafod yn y cyfnod ymgynghoriad felly dyw e ddim yn adlewyrchu barn athrawon yma yng Nghymru".
Pwysleisiodd bod canran is o hanes Cymru yn y cwrs newydd o'i gymharu â chyrsiau hanes Yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd "ddim yn deg", yn ôl Dr Griffiths.
"Mae'n rhaid bod hanes Cymru yn cael lle canolog y tu fewn i'n cwricwlwm TGAU ni," ychwanegodd.
'Rhoi pwysau ychwanegol'
Mae Cymwysterau Cymru yn mynnu bod y cwrs Hanes newydd yn canolbwyntio mwy ar hanes Cymru ac yn ehangu'r cyfnodau a'r pynciau sy'n cael eu dysgu, gan gynnwys hanes o du allan i Ewrop a Gogledd America.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am yr oedi i'r cwrs hanes, dywedodd Neil Butler o'r undeb addysg NASUWT: "Mae llwyth gwaith athrawon eisoes yn enfawr ac nid yw ychwanegu'r pwysau ychwanegol yn foesegol nac yn gynhyrchiol.
"Bydd athrawon a disgyblion yn cael budd o'r flwyddyn ychwanegol i ddatblygu'r [cwrs]."
Mae'r bwrdd arholi CBAC wedi cael cais am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2024