Miloedd o gartrefi heb ddŵr ac ysgolion ar gau wedi i bibell fyrstio
- Cyhoeddwyd
Gallai hyd at 40,000 o gartrefi ar draws Sir Conwy golli cyflenwad dŵr wedi i bibell fyrstio mewn safle trin dŵr.
Dywedodd Dŵr Cymru bod 8,000 o gartrefi wedi colli cyflenwad nos Fercher, a bod hyd at 33,000 o gartrefi mewn perygl o golli eu cyflenwadau ddydd Iau.
Mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod yn gweithio i drwsio pibell ddŵr yn safle Bryn Cowlyd, Dolgarrog a wnaeth fyrstio prynhawn ddydd Mercher.
Mae pedair ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd yn Sir Conwy, dolen allanol ar gau oherwydd y broblem yn ogystal â rhai o gyfleusterau'r cyngor.
Mae'r digwyddiad yn effeithio ar gyflenwadau yng Nghonwy, Dolgarrog, Eglwysbach, Groesffordd, Gwytherin, Henryd, Llanbedr y Cennin, Llanddoged, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Maenan, rhannau o Lanrwst, Pandy Tudur, Pentrefelin, Rowen, Rhyd y Foel, Tal y Bont , Tal y Cafn, Tyn Groes a Trofarth.
Dywedodd y cyngor sir fod y broblem wedi arwain at orfod cau eu swyddfeydd ym Modlondeb, Canolfan Diwylliant Conwy a Llyfrgell Llanrwst.
Roedd nifer o siopau yn nhref Conwy hefyd ar gau fore Iau - gan gynnwys bwytai a gwetai.
Fe gadarnhaodd Castell Conwy mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod "ar gau heddiw oherwydd amgylchiadau annisgwyl".
Mae Gerddi Bodnant - un o atyniadau mwyaf poblogaidd y gogledd - hefyd ar gau i ymwelwyr.
Dywedodd Isaac Simeon, perchennog caffi yn nhref Conwy, fod y busnes yn parhau er agor er gwaethaf yr heriau.
"Dwi ar agor heddiw, dydw i methu gwneud te na choffi ond mae 'na ddiodydd oer yma!"
Yn ôl gweithiwr yng nghaffi 'Love to eat' yn y dref, oedd am aros yn ddienw, mae 'na ddiffyg cyfathrebu ynglŷn â'r sefyllfa ar hyn o bryd.
"Ry'n ni am geisio aros ar agor am rai oriau, os ddim, fe wnawn ni gau am y dydd a delio gyda'r colledion.
"Mae pawb yn dod i mewn ac yn trio deall be sy'n digwydd, ond dwi'n meddwl bod yna ddiffyg cyfathrebu ar hyn o bryd a dydw i ddim wir yn deall beth sy'n digwydd."
Ychwanegodd fod colli busnes yr adeg hon o'r flwyddyn yn "arbennig o anodd", ond eu bod yn gorfod "parhau i geisio gwneud eu gorau".
Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, aelod cabinet dros isadeiledd a chyfleusterau, fod y digwyddiad wedi cael "effaith fawr" ar bobl yng Nghonwy, gan gynnwys ffermwyr a busnesau.
"Mae ffermwyr eisiau bwydo eu hanifeiliaid, mae nifer iawn hefo defaid i mewn a phobl godro hefyd yn ddibynnol ar ddŵr. Does 'na ddim dŵr ar y fferm yma lle dwi'n byw."
Dywedodd Mr Edwards mai "dim ond dau neu dri" o boteli dŵr oedd ar ôl yn y siop Spar yng Nghonwy fore Iau.
Mae canolfan dosbarthu dŵr yn cael ei sefydlu ar gyfer pobl fregus ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn, meddai, gyda'r bwriad o sefydlu mwy ar draws y sir.
Ychwanegodd fod llinellau ffôn Dŵr Cymru wedi bod yn brysur ond ei fod yn gobeithio y bydd pobl yn cael gwybodaeth "mor fuan â phosib i wybod lle mae cyflenwadau dŵr ar gael, yn enwedig i bobl fregus."
Mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod yn disgwyl i'r atgyweiriadau gael eu cwblhau hwyrach ymlaen dydd Iau, ond bod y gwaith yn "anodd a pheryglus" oherwydd bod y brif bibell ddŵr wedi byrstio ddau fetr a hanner o dan wely'r afon.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod yn "ailgyfeirio dŵr drwy ein rhwydwaith ac mae tanceri'n cael eu gyrru allan i roi cyflenwad i gymaint o bobl â phosibl".