Chwilio am berchennog ci gafodd ei ganfod mewn car 'wedi'i ddwyn'

Y gred ydy bod y cŵn a gafodd eu canfod mewn car wedi cael eu dwyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n chwilio am berchennog ci a gafodd ei ganfod mewn car y mae plismyn yn credu oedd wedi'i ddwyn.
Cafodd y gyrrwr ei arestio ar yr A55 ger Bae Colwyn ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad cyffuriau, o ladrata ac o ddwyn cerbyd, meddai Heddlu'r Gogledd.
Dywedodd swyddogion yn wreiddiol eu bod yn ceisio darganfod perchnogion dau gi a gafodd eu canfod yn y BMW X5.
Mewn diweddariad brynhawn Mercher dywedon nhw eu bod wedi canfod perchennog un o'r cŵn, ond eu bod yn dal i chwilio am berchennog yr ail.
Dywedodd yr heddlu fod gyrrwr y car - dyn 30 oed o Iwerddon - wedi profi'n bositif am ganabis, a'i fod wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad yn ddiweddarach.
Ychwanegodd y llu fod y dyn i fod wedi mynychu Llys Ynadon Llandudno fore Mercher, ond ei fod wedi methu ag ymddangos yno.