Pedwar o bobl yn y llys wedi eu cyhuddo o losgi bwriadol

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yng Nglynrhedynog am 01:25 fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl wedi ymddangos yn y llys yn dilyn tân difrifol mewn tŷ yn Rhondda Cynon Taf.
Roedd difrod sylweddol i un tŷ wedi'r tân ar Stryd Protheroe, Glynrhedynog fore Llun 28 Gorffennaf.
Bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu'n ddifrifol.
Mae Auryn Gustar, 19, Storm Truman, 19, Connor Pitt, 23, ac Alfie Wheeler, 18, i gyd wedi eu cyhuddo o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Mae Mr Wheeler hefyd wedi'i gyhuddo o fod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Clywodd Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mercher fod y pedwar wedi "teithio gyda'i gilydd i dargedu" eiddo penodol gan gredu nad oedd "dau unigolyn wedi ad-dalu dyled cyffuriau".
Yn ogystal, fe glywodd y llys fod gwerth £650,000 o ddifrod wedi ei achosi a bod yr achos mor ddifrifol bod rhaid cyfeirio'r achos at Lys y Goron.
Nid yw'r un diffynnydd wedi cyflwyno ple, ac fe fydd y pedwar yn cael eu cadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 27 Awst.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.