Llawfeddyg o Aberystwyth yn cyfaddef twyll dros dynnu ei goesau

Mae Neil Hopper yn eistedd yn ei lolfa. Mae ganddo goesau prosthetig ac mae'n gwisgo crys glas a phâr o sbectol.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Hopper o Aberystwyth yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Truro yng Nghernyw

  • Cyhoeddwyd

Mae llawfeddyg o Gymru oedd yn gyfrifol am dynnu ei goesau ei hun wedi cyfaddef i ddau achos o dwyllo cwmnïau yswiriant a thri achos o gael pornograffi eithafol yn ei feddiant.

Fe wnaeth Neil Hopper, 49 - o Aberystwyth yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Truro yng Nghernyw - gannoedd o lawdriniaethau i dynnu rhannau o gyrff cleifion, cyn iddo golli ei goesau ei hun.

Clywodd Llys y Goron Truro bod Hopper wedi dweud celwydd wrth gwmnïau yswiriant drwy honni bod yr anafiadau i'w goesau o ganlyniad i sepsis, ac nad oedd wedi dweud mai ef ei hun oedd wedi achosi'r anafiadau.

Clywodd y llys fod Hopper wedi cael toriadau islaw'r pen-glin ym mis Mai 2019 yn dilyn "salwch anesboniadwy".

Ond mewn gwirionedd, roedd wedi defnyddio iâ a rhew sych i rewi ei goesau ei hun fel bod yn rhaid eu tynnu, clywodd y llys.

Mae wedi ei garcharu am 32 mis.

£466,000 gan ddau gwmni

Clywodd y llys fod gan Hopper "ddiddordeb rhywiol mewn torri rhannau o'r corff".

Cafodd ei drin am sepsis i ddechrau, cyn i lawfeddygon ddweud wrtho y byddai'n rhaid iddo golli ei goesau, ac fe gafodd lawdriniaeth.

Ni ddywedodd wrth y meddygon am wir achos ei anafiadau, clywodd y llys.

Roedd yr hawliadau yswiriant twyllodrus gan ddau gwmni yn dod i fwy na £466,000.

Roedd wedi anfon neges at ffrind am yr hawliadau, gan ddweud y dylai "wneud y mwyaf o hyn".

Cafodd mwy na £50,000 o arian yswiriant ei anfon at ei wraig, £22,000 ei wario ar camper van, a £255,000 arall ar waith adeiladu, gwelliannau i'w gartref a thwba twym.

Roedd Hopper hefyd wedi cyfaddef bod â delweddau pornograffig eithafol yn ei feddiant, yn ymwneud â fideos o wefan o'r enw The EunuchMaker, oedd yn dangos anffurfio corfforol.

Llun o Neil Hopper ar wely mewn ysbyty wedi colli ei goesauFfynhonnell y llun, Instagram/Bionicsurgeon
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod gan Hopper obsesiwn gyda thynnu rhannau o'i gorff ei hun

Yn wreiddiol o Geredigion, aeth Neil Hopper i Ysgol Gymunedol Penrhyncoch yn Aberystwyth cyn mynychu Ysgol Gyfun Gŵyr yn Nhre-gŵyr o 1987.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru yn 2023, dywedodd ei fod wedi gweithio yng Nghasnewydd, Abertawe a Bangor.

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cadarnhau ei fod wedi treulio cyfnod yn ystod ei hyfforddiant yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn 2011.

Mae byrddau iechyd Bae Abertawe a Betsi Cadwaladr wedi cael cais am sylw.

Dywedodd yr erlynwyr fod Hopper yn "mwynhau" y sylw gan y cyfryngau yn ei achos.

Dywedwyd fod ei gymhellion yn "gyfuniad o obsesiwn â thynnu rhannau o'i gorff ei hun, a diddordeb rhywiol mewn gwneud hynny".

"Mae'n ymddangos bod hyn wedi bod yn uchelgais hirdymor iddo," clywodd y llys.

Ddim yn edifar y llawdriniaethau

Wedi i'w goesau gael eu tynnu, roedd Hopper yn ôl yn ei waith mewn llai na chwe mis gyda choesau prosthetig, clywodd y llys.

Cafodd ei arestio ym Mawrth 2023, ac mae wedi cael ei wahardd o'r gofrestr feddygol ers Rhagfyr 2023.

Yn amddiffyn Hopper, dywedodd Andrew Langdon KC bod y troseddau wedi bod yn "sioc" i'w ffrindiau.

"Mae e wedi bod yn ymrwymedig i weithio er gwasanaeth i bobl eraill," meddai.

"Mae'r saga yma yn anodd iawn deall."

Dywedodd Mr Langdon fod Hopper wedi dioddef gyda dysphoria'r corff ers yn blentyn, ac nad oedd eisiau ei draed am eu bod yn "achosi anesmwythder" iddo.

Ychwanegodd nad yw Hopper yn edifar y llawdriniaethau, ond ei fod yn edifar yr "anonestrwydd" am eu hachos.

Dywedodd Mr Langdon, wedi'r llawdriniaethau, fod Hopper wedi cael cymaint o gefnogaeth gan ei deulu a'i ffrindiau, oedd wedi ei gwneud hi'n fwy anodd dweud wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd mewn gwirionedd.

Neil HopperFfynhonnell y llun, Instagram/Bionicsurgeon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hopper yn ôl yn ei waith llai na chwe mis ar ôl ei lawdriniaeth

Roedd Hopper wedi bod yn gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Brenhinol Cernyw o 2013 hyd nes iddo gael ei arestio ym mis Mawrth 2023.

Ar ôl iddo gael ei gyhuddo, cyhoeddodd Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Brenhinol Cernyw ddatganiad yn dweud: "Nid yw'r cyhuddiadau'n ymwneud ag ymddygiad proffesiynol Mr Hopper ac nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod unrhyw risg wedi bod i gleifion."

Wrth ddedfrydu, dywedodd y barnwr y byddai'n rhaid i Hopper dreulio 40% o'i ddedfryd 32 mis yn y carchar cyn cael ei ystyried ar gyfer parôl.

Fe fydd yn destun gorchymyn atal niwed rhyw am 10 mlynedd hefyd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.