Heddlu'n diolch i gymuned yn achos ffatri ganabis ar safle hen ysgol

Planhigion canabis yn adeilad yr hen ysgol yn LlandysulFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwerth hyd at £620,000 o blanhigion canabis yn y safle, yn ôl Heddlu Dyfed-Powys

  • Cyhoeddwyd

Mae tri dyn wedi cael dedfrydau o garchar ar ôl pledio'n euog i gynhyrchu gwerth miloedd o bunnoedd o ganabis ar safle hen ysgol yn Llandysul.

Daeth Heddlu Dyfed-Powys o hyd i werth hyd at £620,000 o'r cyffur yn y safle ym mis Tachwedd y llynedd yn dilyn adroddiadau bod rhywbeth amheus yn mynd ymlaen yno.

Cafodd Armeld Troski, 29, ddedfryd o dair blynedd a phedwar mis o garchar.

Dwy flynedd a hanner o garchar oedd y ddedfryd yn achos Njazi Gjana, 27, ac Ervin Gjana, 24.

Mae'r heddlu wedi diolch i'r gymuned leol am eu "rhan hollbwysig" wrth eu helpu i ddwyn yr achos.

Planhigion canabis yn cael eu trin yn yr adeilad yn LlandysulFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna drefniadau soffistigedig yn yr adeilad i dyfu a thrin canabis, meddai'r heddlu

Ar ôl cael gwarant i archwilio'r eiddo, daeth yr heddlu o hyd i "sympiau enfawr o ganabis ar draws y tri llawr".

Roedd yn amlwg, medd y llu, bod y safle'n ffatri ganabis "soffistigedig ar raddfa fawr" a bod y safle wedi ei "addasu'n fwriadol" i guddio'r hyn oedd yn mynd ymlaen yno.

Wrth archwilio'r adeilad, fe glywodd swyddogion "sŵn symudiadau'n dod o lawr stâr, a oedd yn dangos bod pobl eraill yn bresennol yn yr adeilad".

Fe gafodd Njazi Gjana ac Armeld Troski eu harestio, ond fe lwyddodd Ervin Gjana i ddianc o'r eiddo "gan ddringo dros ffens wifrog a rhedeg tuag at gaeau cyfagos".

Daeth swyddogion, gyda chymorth drôn, o hyd iddo "yn wlyb stecs gyda chrafiadau mieri ar ei freichiau wrth ymyl ffordd gyfagos" ac fe gafodd yntau hefyd ei arestio ar amheuaeth o drin y canabis.

Cafodd y tri eu cyhuddo o gynhyrchu cyffur dosbarth B, gan bledio'n euog yn Llys y Goron Abertawe ym mis Rhagfyr.

Golygfa arall o fewn hen ysgol LlandysulFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna blanhigion canabis ar dri llawr yr adeilad

Mae'r llu wedi diolch i gymuned Llandysul "am eu gwyliadwriaeth a'u rhagweithgarwch o ran adrodd am weithgarwch amheus i'r heddlu".

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ben Nicholls bod gwybodaeth gan aelodau'r cyhoedd yn helpu creu darlun o weithgarwch anghyfreithlon yn lleol.

Mae hynny yn ei dro yn eu "galluogi i weithredu gwarantau fel hyn er mwyn sicrhau bod ein hardal yn parhau'n elyniaethus i'r rhai sy'n gwerthu cyffuriau...

"Rydyn ni'n diolch i'r cyhoedd am eu rhan hollbwysig yn y gwaith hwn."