Cyhuddo tri ar ôl canfod dros 700 o blanhigion canabis mewn hen ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi eu cyhuddo o gynhyrchu canabis ar ôl i gannoedd o blanhigion gael eu darganfod mewn hen ysgol yn Llandysul.
Cafodd yr heddlu warant i archwilio'r adeilad ar Heol Llyn y Fran ar 15 Tachwedd ac fe ddaethon nhw o hyd i 737 o blanhigion canabis.
Mae Armeld Troski, 29, Njazi Gjana, 27, ac Ervin Gjana, sy'n 24, wedi eu cyhuddo o gynhyrchu cyffur dosbarth B.
Cafodd y tri eu cadw yn y ddalfa ac roedd disgwyl iddyn nhw fynd o flaen ynadon yn Hwlffordd brynhawn Llun.
'Unrhyw wybodaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr'
Mae swyddogion yn parhau ar y safle wrth i'r planhigion gael eu symud oddi yno.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys eu bod "yn ddiolchgar i'r gymuned am eu cefnogaeth" gan ddweud y byddan nhw'n "parhau i fod ar y safle wrth i'r gwaith o sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel yn parhau".
"Rydyn ni'n benderfynol o sicrhau ein bod yn ymateb i'r rheiny sy'n cynhyrchu a dosbarthu cyffuriau.
"Mi all y gymuned leol ein helpu ni drwy barhau i gysylltu gyda ni os ydyn nhw'n gweld unrhyw arwydd o droseddu a'r ffordd hawsaf i wneud hynny yw ar ein gwefan.
"Mae unrhyw wybodaeth - hyd yn oed os yw'n ymddangos yn fach - yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr."